Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Twf Swyddi Cymru Plws

Neidia ‘mlaen i’r rhannau da gyda Twf Swyddi Cymru+. Merch ifanc hyderus yn gwisgo sbectols haul

Am ennill arian, bod yn annibynnol a chael dy droed ar yr ysgol yrfa?

Efallai dy fod yn chwilio am y swydd iawn neu am gymryd y camau nesaf ym myd addysg ac angen rhywfaint o help llaw.

Dyna lle gall Twf Swyddi Cymru+ dy helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i dy hyder ac yn gyfle heb ei ail i ti gael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb i ti. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal.

Beth yw Twf Swyddi Cymru+?

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Mae’n rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i llunio o dy gwmpas di. Felly, mae Twf Swyddi Cymru+ yn opsiwn da os wyt ti am gael rhywfaint o help neu ragor o gefnogaeth.

Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Twf Swyddi Cymru+ sydd wedi’i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc.

Beth yw manteision Twf Swyddi Cymru+?

Gyda Twf Swyddi Cymru+ byddi di’n gallu:

  • Rhoi cynnig ar swyddi a allai fod o ddiddordeb i ti drwy dreialon a lleoliadau gwaith
  • Cael dy dalu gyda lwfansau hyfforddiant wythnosol tra’n dysgu a chyflog go iawn pan fyddi di’n cael dy gyflogi
  • Derbyn cyngor ac arweiniad parhaus a hyfforddiant un i un er mwyn dy helpu i gyrraedd dy nodau
  • Magu dy hyder wrth i ti ddatblygu dy sgiliau a’th brofiad
  • Hyfforddi ac ennill cymwysterau cydnabyddedig i hybu dy opsiynau gyrfa
  • Cael dy droed drwy’r drws a mynediad at swyddi gyda chyflogwyr lleol
Pwy all wneud cais am Twf Swyddi Cymru+?

Gelli di wneud cais am Twf Swyddi Cymru+ os wyt ti:

  • Rhwng 16 ac 19 oed; ac
  • Yn byw yng Nghymru, a
  • Ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth neu hyfforddiant

Mae’n rhaid i’n cynghorwyr Cymru’n Gweithio hefyd dy asesu fel rhywun sydd angen cymorth drwy un o’r tair elfen o raglen Twf Swyddi Cymru+.

Cymorth ar gael drwy Twf Swyddi Cymru+

Mae gan Twf Swyddi Cymru+ dair elfen o gymorth:

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith