Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm

Cymorth ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) yn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn un o bum thema drawsbynciol o fewn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith effeithiol yn cynnwys plethu addysg gyrfaoedd ar draws y meysydd dysgu a gefnogir gan ystod o brofiadau dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith.

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth wrth baratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd dysgu pellach a'r byd gwaith.

O 3 oed ymlaen, dylai gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ysbrydoli dysgwyr i:

  • Ddatblygu dealltwriaeth o bwrpas gwaith mewn bywyd iddyn nhw eu hunain a chymdeithas
  • Dod yn fwyfwy ymwybodol o'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddynt
  • Datblygu'r agweddau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i oresgyn rhwystrau i gyflogadwyedd, rheoli gyrfa a dysgu gydol oes
  • Archwilio cyfleoedd drwy amrywiaeth o brofiadau ystyrlon mewn dysgu, gwaith ac entrepreneuriaeth
  • Datblygu gwydnwch a'r gallu i fod yn hyblyg mewn ymateb i heriau, dewisiadau a chyfrifoldebau gwaith a bywyd

Dysgu proffesiynol

Rydym wedi datblygu sawl adnodd dysgu proffesiynol a allai fod yn ddefnyddiol i chi wrth ddylunio a chynllunio addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn eich cwricwlwm.

Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau ar gyfer athrawon cynradd, athrawon uwchradd, penaethiaid a chyrff llywodraethu, rheini sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rhai sydd newydd gymhwyso neu sy'n astudio i fod yn athro/athrawes.

Rydym hefyd wedi datblygu adnodd Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (GML) sy'n rhoi dealltwriaeth i athrawon ac ymarferwyr o GML, elfen annatod o gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith


Offer a gwybodaeth i gefnogi cynllunio gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Canllawiau statudol

Cael gwybodaeth am y canllawiau statudol ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.

Cefnogaeth cwricwlwm

Dysgwch am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i gefnogi athrawon a dod ag ysgolion a chyflogwyr ynghyd.

Llywodraethwyr

Dewch o hyd i wybodaeth i helpu cyrff llywodraethu i ddeall eu rôl wrth gefnogi ysgolion gyda gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.