Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Marc Gyrfa Cymru

Gwobr oedd y Marc Gyrfa Cymru a gynlluniwyd gan Gyrfa Cymru i gydnabod ymrwymiad sefydliad addysgol i wella ansawdd yn barhaus.

Ers 2010, mae Gyrfa Cymru wedi gweithio gyda llawer o ysgolion a cholegau i'w cefnogi i achredu gyda Marc Gyrfa Cymru, ein gwobr gwella ansawdd addysg gyrfaoedd.

Trwy gyflawni achrediad y wobr hon, mae ysgolion a cholegau wedi dangos eu hymrwymiad i ddarparu addysg yrfaoedd ystyrlon o ansawdd uchel i'w dysgwyr.

Daeth darpariaeth Marc Gyrfa Cymru i ben ym mis Rhagfyr 2021, fodd bynnag, mae'r wobr yn cael ei chydnabod am gyfnod o 3 blynedd ar ôl yr achrediad. Bydd ysgolion a gyflawnodd y Marc yn 2021 yn cael eu hachredu gyda'r wobr tan 2024.

Ym mis Ionawr 2022, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol sy'n gweld addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn dod yn thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed. Gyda hyn daw cyfle i ddatblygu gwobr newydd a fydd yn adlewyrchu ac yn ategu'r newidiadau hyn, ac a fydd yn galluogi ysgolion a sefydliadau i gyflawni gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn llwyddiannus yn eu cwricwlwm.

Mae gwaith bellach ar y gweill i ddatblygu gwobr newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu os byddai gennych ddiddordeb mewn cefnogi datblygiad y wobr hon, cysylltwch â ni.


Sefydliadau yn eich ardal chi sydd wedi ennill Marc Gyrfa Cymru