WEBVTT

00:00:00.000 --> 00:00:05.588
Nod Gyrfa Cymru yw cynrychioli ac
adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru.

00:00:05.588 --> 00:00:09.592
Rydym am ddatblygu a chefnogi
amgylchedd lle mae  tegwch,

00:00:09.592 --> 00:00:14.431
amrywiaeth a chynhwysiant yn
flaenllaw ym mhopeth a wnawn.

00:00:14.431 --> 00:00:18.143
Wrth wneud hyn, bydd Gyrfa
Cymru yn cyflawni'r canlynol...

00:00:18.143 --> 00:00:25.316
Annog diwylliant sy'n sicrhau bod Tegwch,
Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan o'n gwaith bob dydd.

00:00:25.316 --> 00:00:33.450
Darparu man ble mae ein cwsmeriaid a'n gweithwyr
yn cael eu cynnwys ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

00:00:33.450 --> 00:00:39.247
Gwneud ein gwasanaethau, a gweithio i ni yn hygyrch i bawb.

00:00:39.247 --> 00:00:48.256
Trin ein cwsmeriaid â'n gweithwyr fel unigolion, yn deg a gyda pharch,
gan roi cyfle i bawb ddatblygu a llwyddo.

00:00:48.256 --> 00:00:54.763
Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'n gweithwyr
i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

00:00:54.763 --> 00:01:03.021
Gwrando a gweithredu ar yr hyn y mae ein cwsmeriaid a'n gweithwyr
yn ei ddweud am ein gwaith Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

00:01:03.021 --> 00:01:12.405
Gweithredu yn erbyn unrhyw aflonyddu neu fwlio o unrhyw fath,
gan greu lle ble na chaiff ymddygiad amharchus ei oddef.

00:01:12.405 --> 00:01:17.952
Adolygu ein harferion a pholisi Tegwch,
Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rheolaidd,

00:01:17.952 --> 00:01:21.289
dod i wybod am ddatblygiadau
newydd a gwneud newidiadau.

00:01:21.289 --> 00:01:25.919
Byddwn yn gweithio gydag eraill i'n cynorthwyo i wneud hyn.

00:01:25.919 --> 00:01:35.845
Ac yn olaf, bod yn agored ac yn dryloyw am ein gwaith Tegwch,
Amrywiaeth a Chynhwysiant  a'r cynnydd yr ydym yn ei wneud.

00:01:35.845 --> 00:01:47.107
I ddarganfod mwy am ein gwaith tegwch,
amrywiaeth a chynhwysiant, ewch i GyrfaCymru.llyw.cymru