WEBVTT

00:00:00.000 --> 00:00:01.560
Cerddoriaeth araf yn chwarae yn y cefndir trwy’r fideo

00:00:01.560 --> 00:00:06.137
Gwneud penderfyniadau

00:00:06.139 --> 00:00:09.062
Helo, Dylan ydw i a dwi’n Gynghorydd Gyrfa

00:00:09.075 --> 00:00:12.278
Helo, Aled ydw i a dwi’n Gynghorydd Gyrfa

00:00:12.278 --> 00:00:17.248
Rhan o fy swydd yw gael di i feddwl am sut wyt ti’n gwneud penderfyniadau

00:00:17.250 --> 00:00:23.013
Mae pobl yn gwneud penderfyniadau bob dydd. Gallen nhw fod yn rhai syml fel beth ydw i eisiau i frecwast?

00:00:23.023 --> 00:00:25.386
neu pa ddillad ydw i’n mynd i wisgo heddiw?

00:00:25.392 --> 00:00:31.331
Mae rhai penderfyniadau yn bwysicach fel beth ydw i’n mynd i wneud pan fydda i’n gadael yr ysgol

00:00:31.331 --> 00:00:34.454
neu pa fath o swydd ydw i eisiau yn y dyfodol?

00:00:34.467 --> 00:00:37.430
Dyma ein cynghorion pennaf ar bethau i feddwl amdanynt

00:00:37.437 --> 00:00:40.040
pan fyddi di’n gwneud y penderfyniadau mawr hyn:

00:00:40.040 --> 00:00:44.689
Dysga gymaint â phosib

00:00:44.711 --> 00:00:48.105
Mae’n bwysig dod o hyd i’r holl opsiynau sydd ar gael,

00:00:48.114 --> 00:00:51.985
bydd hyn yn dy helpu i benderfynu pa un yw’r un gorau i ti.

00:00:51.985 --> 00:00:59.188
Gelli di wneud hyn drwy edrych ar wefannau, mynd ar ymweliadau a siarad â phobl.

00:00:59.192 --> 00:01:03.430
Rho gynnig arni os yn bosib

00:01:03.430 --> 00:01:07.033
Os cei di gyfle i roi cynnig ar rai o’r opsiynau, cer amdani!

00:01:07.033 --> 00:01:10.503
Efallai y gelli di fynychu diwrnodau blasu

00:01:10.503 --> 00:01:14.666
mewn colegau neu ar hyfforddiant neu fynd ar brofiad gwaith.

00:01:14.674 --> 00:01:17.811
Bydd rhoi cynnig ar wahanol opsiynau yn rhoi blas i ti

00:01:17.811 --> 00:01:21.134
ar yr hyn sydd ar gael ac yn dy helpu di i wneud penderfyniad

00:01:21.147 --> 00:01:25.710
Meddylia am yr hyn wyt ti’n hoffi a ddim yn hoffi

00:01:25.718 --> 00:01:29.355
Pan fyddi di’n gwybod mwy am dy opsiynau gelli di ddechrau meddwl

00:01:29.355 --> 00:01:33.278
am beth wyt ti’n hoffi neu ddim yn hoffi am bob un.

00:01:33.280 --> 00:01:38.331
Bydd hyn yn dy helpu i benderfynu beth allai fod fwyaf addas i ti.

00:01:38.331 --> 00:01:42.969
Siarad â phobl

00:01:42.969 --> 00:01:47.972
Mae siarad am dy syniadau gyda phobl eraill bob amser yn syniad da.

00:01:47.974 --> 00:01:53.137
Gallai hyn fod gyda dy gynghorydd gyrfa, rhywun gartref neu yn yr ysgol.

00:01:53.146 --> 00:01:57.650
Dy benderfyniad di yw e

00:01:57.650 --> 00:02:01.973
Pan wyt ti’n meddwl am dy ddyfodol, rhaid i ti wneud y dewis sy’n iawn i ti.

00:02:01.988 --> 00:02:05.751
Paid â dewis opsiwn am fod dy ffrindiau wedi’i ddewis

00:02:05.758 --> 00:02:10.288
Cei di newid dy feddwl

00:02:10.296 --> 00:02:17.240
Cei wneud penderfyniad, ac yna newid dy feddwl os wyt ti am wneud hynny. Siarada â rhywun am dy syniadau

00:02:17.240 --> 00:02:21.440
gyfracymru.llyw.cymru

00:02:21.440 --> 00:02:27.320
gallwch cysylltu gyda ni ar
0800 028 4844

00:02:27.320 --> 00:02:28.920
neu trwy sgwrs ar-lein

00:02:28.920 --> 00:02:34.800
ac ebost sef
post@gyrfacymru.llyw.cymru

00:02:34.800 --> 00:02:37.960
dewch o hyd i ni ar cyfryngau
cymdeithasol

00:02:37.960 --> 00:02:42.440
ar Facebook, Twitter, Instagram
YouTube a LinkedIn