Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gwirfoddoli

Yn ôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, mae nifer o bobl, yn ifanc a hŷn, am wneud rhywbeth da yn eu cymunedau.

Pu’n a ydych yn gallu rhoi llawer o amser neu dim ond ychydig oriau y mis, mae cyfle ar gael a allai fod yn addas i chi.

Pam gwirfoddoli?

Fel rhywun sy’n chwilio am waith:

  • Drwy wirfoddoli, hyd yn oed am ddim ond ychydig oriau yr wythnos, gallech wella eich rhagolygon o gael swydd a chynyddu eich sgiliau’n fawr
  • Mae cyfnod o waith gwirfoddol yn edrych yn dda ar eich CV. Byddwch yn creu argraff ar nifer o bobl os ydych wedi gwneud rhywbeth buddiol yn eich amser hamdden
  • Gallai gwirfoddoli eich helpu i feithrin y sgiliau a’r profiad angenrheidiol, yn enwedig os na allwch ganfod gwaith neu gwrs hyfforddi yn syth

Fel unigolyn:

  • Gall gwirfoddoli eich helpu i wella eich hunan-barch a’ch hunanhyder gan eich bod yn dysgu sgiliau newydd, yn cwrdd â phobl newydd ac yn datblygu diddordebau newydd
  • Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn profi heriau newydd ac yn gwella eich hunanhyder
  • Mae gwirfoddoli yn rhoi boddhad. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn teimlo’n dda am ‘roi rhywbeth yn ôl i gymdeithas’ drwy helpu eraill
  • Mae’n bosibl eich bod wedi cyrraedd pwynt yn eich bywyd lle rydych eisiau ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ i’ch cymuned – neu rannu eich sgiliau. Mae rhai pobl hyd yn oed yn dechrau gyrfa newydd sbon

Mae angen gwirfoddolwyr ar elusennau, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol i’w helpu i wella bywydau pobl eraill. Hefyd, gall gwirfoddoli fod yn ffordd dda o lenwi rhan o’ch blwyddyn i ffwrdd.

Sut i ddod yn wirfoddolwr?

  • Cyfrifwch faint o amser y gallwch ei gynnig y tu hwnt i’ch ymrwymiadau eraill, fel ysgol, gwaith neu’r coleg
  • Meddyliwch am y math o waith sy’n eich diddori, efallai gweithio gyda phobl, adeiladau, periannau, anifeiliaid, planhigion neu natur. Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch sgiliau, fel helpu person hŷn neu anabl, adnewyddu trenau stêm neu ofalu am anifeiliaid neu’r amgylchedd, mae’n debygol y byddwch yn canfod digon i’ch diddori
  • Gellir cyflawni rhai cyfleoedd o gartref drwy wirfoddoli ar-lein. Gall y cyfleoedd hyn fod yn addysgu pobl sut i ddefnyddio technoleg fel anfon negeseuon e-bost neu helpu elusen i wella eu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Mae nifer o sefydliadau ac elusennau i’w hystyried. Edrychwch ar rai o’r dolenni ar y dudalen i’ch helpu i ganfod cyfleoedd gwirfoddoli addas yn y DU a thramor

Dyma rai sefydliadau sy'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli (Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig):



Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Profiad gwaith

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.

Interniaethau

Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.