Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyllid i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anabledd

Dyma wybodaeth am rai o’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi eich camau nesaf.

Lwfans Myfyrwyr Anabl

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn cefnogi'r costau sy'n gysylltiedig ag astudio fel myfyriwr israddedig amser llawn. Efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl i gyfrannu tuag at gostau ychwanegol os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Mae’r lwfans yn ychwanegol at unrhyw gyllid myfyrwyr arall. Darllenwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Taliad Annibyniaeth Personol

Help ariannol gyda chostau ychwanegol sy’n deillio o salwch neu anabledd hirdymor yw hwn.  Cewch eich asesu gan weithiwr iechyd proffesiynol i weithio allan faint o help y gallwch ei gael. Nid yw hawlio benthciadau a grantiau i fyw ac astudio fel arfer yn effeithio ar y taliad annibyniaeth personol. Darllenwch fwy am Daliad Annibyniaeth Personol ar Gov.uk a sut i wneud cais amdano.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn helpu pobl gyda'u costau byw. Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu os na allwch weithio. Gallech hawlio Credyd Cynhwysol fel myfyriwr llawn amser os ydych yn bodloni meini prawf penodol. Bydd faint o gymorth ariannol y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar eich cymhwysedd. Darganfyddwch ragor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a Chredyd Cynwysol a myfyrwyr ar Gov.uk.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

Mae Grant Dysgu AB Llywodraeth Cymru yn grant o hyd at £1,500 a asesir yn ôl incwm os ydych yn astudio’n llawn amser, neu hyd at £750 os ydych yn astudio’n rhan amser. Nod y grant yw i annog mwy o bobl i barhau gyda'u addysg. Mae'n darparu cyllid i helpu gyda chostau addysg i'r rhai 19 oed a throsodd. Darllenwch fwy am y Grant Dysgu ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LAC)

Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd eisiau parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol. Os ydych yn gymwys gallech ennill £40 yr wythnos, a byddwch yn cael eich talu bob pythefnos. Darllenwch fwy am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.


Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol

Mae’n bwysig sicrhau eich bod wedi gwneud cais am y cyllid cywir ar gyfer y brifysgol. Mae UCAS yn rhoi trosolwg o'r ysgoloriaethau, grantiau a bwrsariaethau i fyfyrwyr anabl (dolen Saesneg yn unig). Mae rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ar dudalen UCAS i fyfyrwyr â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol a gwahaniaethau dysgu (dolen Saesneg).

Gallech gael benthyciad ffioedd dysgu i dalu costau eich cwrs. Bydd y benthyciad hwn yn dibynnu ar incwm eich cartref a bydd yn cael ei dalu'n ôl, gyda llog, unwaith y byddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs. Mae grantiau ar gael hefyd i'ch helpu gyda chostau byw yn y brifysgol.

Dysgwch fwy am fenthyciadau a grantiau ffioedd dysgu ar dudalen beth sydd ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.


Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Budd-dal Plant pan fo plentyn yn troi’n 16 oed

Gallwch gael Budd-dal Plant os yw'ch plentyn o dan 16 oed a gall barhau hyd at 20 oed os ydynt yn aros mewn addysg neu hyfforddiant sydd wedi'i gymeradwyo. Mae’n rhaid hysbysu’r Swyddfa Budd-dal Plant am hyn. Darllenwch fwy am Fudd-dal Plant ar Gov.uk.



Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu. 

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.