Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gweithio gydag ysgolion

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl ifanc i ddysgu am y byd gwaith.

Pam cysylltu ag ysgolion?

Sut mae cyflogwyr yn elwa

Gall gweithio gydag ysgolion helpu cyflogwyr i:

  • Godi ymwybyddiaeth o'u busnes neu eu sector nhw
  • Ddarparu mewnwelediad ac ysbrydoliaeth i ddylanwadu ar ddarpar weithwyr yn y dyfodol
  • Rwydweithio gyda busnesau eraill
  • Ddarparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff
  • Gefnogi cyflawniad nodau cymunedol
Sut mae dysgwyr yn elwa

Gall cwrdd â chyflogwyr ddod â phwnc yn fyw a rhoi gwell dealltwriaeth o sut mae'r pwnc hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y gweithle.

Gall gweithgareddau cyflogwr helpu dysgwyr i:

  • Ddatblygu sgiliau ymwybyddiaeth, hyder a chyflogadwyedd
  • Anelu'n uchel a chroesawu dysgu gydol oes
  • Gydnabod cyfleoedd sydd ar gael iddynt
  • Ddeall pwysigrwydd gwytnwch a hyblygrwydd
  • Fod yn ymwybodol o werth sgiliau Cymraeg
Cwricwlwm newydd i Gymru

Mae yna Gwricwlwm newydd i Gymru i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Dechreuodd y cwricwlwm newydd ym Medi 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd erbyn y flwyddyn academaidd 2026/27.

Rhaid i ysgolion gynnwys gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm newydd. Mae gweithgareddau gyda chyflogwyr yn un o'r ffyrdd y gall ysgolion ddarparu'r cyfleoedd dysgu hyn i'w dysgwyr.

Mae gwybodaeth i fusnesau am sut mae addysg yn newid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.


Astudiaethau Achos Cyflogwr

Stori Castell Howell

Dysgwch fwy am sut mae Bwydydd Castell Howell wedi bod yn cefnogi dysgwyr i ddod i wybod am fyd gwaith.

Stori Colette Affaya

Dewch i wybod sut yr arweiniodd angerdd Colette dros ysbrydoli pobl ifanc at Wobr Partner Gwerthfawr am Gyfraniad Personol Eithriadol.

Stori Cottage Coppicing

Darganfyddwch sut helpodd Lisa i feithrin hyder a sgiliau person ifanc mewn gwaith coed gyda phrofiad gwaith amhrisiadwy yn ei gweithdy.

Darllenwch fwy o astudiaethau achos cyflogwyr ar straeon go iawn.


Efallai y bydd diddordeb ganddoch mewn