Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen ddysgu i rai 16 i 18 oed a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Eu nod yw rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i symud ymlaen i brentisiaeth, addysg bellach neu gyflogaeth.
Mae tair lefel wahanol i sicrhau bod pob hyfforddai yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth sydd eu hangen arno/arni i lwyddo.
Bydd hyd yr hyfforddeiaeth yn amrywio gan ddibynnu ar y dysgwr unigol. Mae hyfforddeion yn cael eu cefnogi gan lwfans hyfforddi gan Lywodraeth Cymru. Dewch i wybod mwy am Hyfforddeiaethau ar llyw.cymru.
Chwiliwch am ddarparwyr dysgu o fewn y gweithle sy'n cynnig Hyfforddeiaethau ar ein cyfeirlyfr Cyrsiau yng Nghymru. (dolen Saesneg)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwybod mwy am fuddion busnes a sut i hysbysebu swydd wag Twf Swyddi Cymru.

Gwybod mwy am y cyllid i brentisiaethau yng Nghymru a sut i hysbysebu swyddi gwag.

Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.