Os ydych wedi bod yn ystyried cyfle busnes newydd, cynllun ehangu neu arallgyfeirio, yna gall Twf Swyddi Cymru roi hwb i’ch syniadau.
Os gyflogwch chi berson ifanc di-waith rhwng 16 a 24 oed, fe dalwn ni 50% o gost yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (dolen Saesneg) am eu hoedran iddyn nhw am y 6 mis cyntaf.
Dylai hon fod yn swydd go iawn yn hytrach na lleoliad gwaith.
Os ydych yn gyflogwr ac eisiau mwy o wybodaeth, neu os hoffech gofrestru eich diddordeb yn y rhaglen newydd yna cysylltwch gyda llinell gymorth Porth Sgiliau 03000 6 03000 neu cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb ar Busnes Cymru.
Y buddion i’ch busnes
- Fe dalwn ni 50% o gyflog y person ifanc a gyflogir gennych, am chwe mis
- Caiff eich swydd ei hysbysebu i bobl ifanc sy’n barod am waith ac sy’n egnïol, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig
- Fe gewch gymorth recriwtio am ddim
- Byddwch yn rhoi cyfle euraidd i berson ifanc i ddechrau ar yrfa dda
Pa gymorth a gawn ni?
Rydyn ni’n ymwybodol bod recriwtio staff newydd yn cymryd amser ac ymdrech. Fe gewch gefnogaeth asiant a fydd yn eich galluogi chi i gael y gorau o’ch gweithiwr newydd o’r diwrnod cyntaf un.
I helpu gyda’r broses recriwtio, rydyn ni wedi contractio asiantau ledled Cymru i weithio gyda chi. Gallan nhw roi cyngor a chymorth am ddim ichi i ddod o hyd i ymgeiswyr priodol.
Hefyd, byddwn yn rhestru’r holl swyddi gwag yn adran Twf Swyddi Cymru. Yna, gall pobl ifanc sy’n barod am waith wneud cais ar-lein.
Eich ymrwymiad chi
Am ein cyfraniad o 50% o gost cyflog eich gweithiwr newydd a'ch helpu i gael hyd i'r ymgeisydd mwyaf addas, rydyn ni am ofyn ichi am ambell i warant.
- Rhaid i’r person ifanc gael ei gyflogi am rhwng 25 a 40 awr yr wythnos gyda chontract am 6 mis o leiaf
- Rhaid i bob swydd a grëir fod yn swyddi ychwanegol i’ch anghenion gweithlu cyfredol. Ni allwch lenwi swydd sydd eisoes wedi ei hysbysebu, na chreu swydd i gyflenwi am salwch neu gyfnod mamolaeth
- Dylai pob swydd a grëir fod yn gynaliadwy gyda’r nod o gadw’r gweithiwr y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o chwe mis. Os yw’r person wedi creu argraff mewn chwe mis, dychmygwch faint o gaffaeliad y gallai fod i’ch busnes ar ôl hyfforddiant trylwyr, fel prentisiaeth er enghraifft.
A yw fy musnes yn gymwys am gymorth?
Mae yna feini prawf, ac mae’n rhaid i’r cyflogwr fod wedi masnachu am o leiaf chwe mis yn y sector preifat neu’r trydydd sector ac wedi’i leoli yng Nghymru. Cefnogir rhaglen Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gallwch gofrestru eich diddordeb nawr drwy gwblhau'r ffurflen mynegi diddordeb ar Busnes Cymru.
A phwy dylwn i gysylltu?
Ffoniwch linell gymorth Porth Sgiliau ar 03000 6 03000 am gyngor neu gymorth pellach ar sut i gymryd rhan neu cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb ar Busnes Cymru.
Hysbysebwch swydd wag gyda ni
Ffoniwch ni ar 0800 028 4844 i gael gwybodaeth am hysbysebu swydd wag Twf Swyddi Cymru ar ein gwefan.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dysgu am reoliadau ar gyfer cyflogi pobl ifanc gan gynnwys oriau gwaith, oedran a chyflog.

Gwybod mwy am y cyllid i brentisiaethau yng Nghymru a sut i hysbysebu swyddi gwag.

Rhaglen ddysgu ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yw hyffordeiaethau. Cefnogwch berson ifanc trwy roi profiad gwaith i hyfforddeiaeth yn eich busnes.