Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

ReAct Plws

Llaw yn troi'r rheolydd sain ar fwyhadur sy'n dweud ReAct+

Os ydych chi wedi cael eich diswyddo, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi'i deilwra er mwyn eich helpu i gael swydd arall cyn gynted â phosibl.

Beth yw ReAct+?

Mae ReAct+ yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n ceisio mynd yn ôl i’r farchnad lafur drwy ddiddymu rhwystrau a darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, gofal gan gynnwys gofal plant, a chostau teithio yn ymwneud â hyfforddiant.

Rhaglen grant yw ReAct+ sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni'r gorffennol. Mae'n rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru.

Pwy sy'n gymwys

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ReAct+, rhaid ichi fod yn 20 oed neu’n hŷn, rhaid ichi fod yn byw yng Nghymru, a rhaid bod gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU.

Rhaid ichi hefyd fodloni UN o’r meini prawf isod:

  • Yn 20 oed neu’n hŷn, ac wedi cael rhybudd ffurfiol eich bod yn cael eich diswyddo neu
  • Yn 20 oed neu’n hŷn, ac wedi eich diswyddo yn ystod y 6 mis diwethaf neu
  • Yn 20 oed neu’n hŷn, ac yn gyn-droseddwr neu’n droseddwr sy’n cyflawni dedfryd gymunedol

Sut mae'n gweithio?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod sut y gall ReAct+ eich helpu, cysylltwch â Cymru'n Gweithio i drefnu apwyntiad.

Bydd un o gynghorwyr Cymru'n Gweithio yn gallu rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol a diduedd ar yrfaoedd ichi, gan edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael ichi.

Os mai ReAct+ yw'r peth iawn ichi, bydd un o'r cynghorwyr yn eich helpu i wneud cais a chreu cynllun gweithredu. Ar ôl inni gadarnhau eich bod yn gymwys a chymeradwyo eich cynllun, bydd eich cynghorydd yn cyflwyno eich cais am grant drwy borth ReAct+ ar-lein.

Beth sydd ar gael ichi drwy ReAct+?

Mae'r cymorth wedi'i deilwra'n benodol i chi ac i’ch sefyllfa chi. Nod yr holl gymorth a gynigir yw sicrhau eich bod yn cael swydd arall cyn gynted â phosibl.

Mae ReAct+ yn darparu grant o hyd at £1,500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch a gall hefyd ddarparu:

  • Hyd at £2,100 i helpu i dalu costau gofal plant/gofal arall wrth ichi gwblhau hyfforddiant
  • Hyd at £200 o gymorth ar ben hynny tuag at unrhyw gostau ychwanegol wrth ichi gwblhau hyfforddiant, gan gynnwys costau teithio a llety

Sut y gallai ReAct+ gefnogi eich cyflogwr nesaf

Oes gyda chi ddarpar gyflogwr mewn golwg? Gallai wneud cais am help gyda’ch cyflog os ydych yn 20 oed neu’n hŷn ac yn anabl (sy’n cynnwys pobl ag amhariad corfforol, niwrowahaniaeth a heriau iechyd meddwl), ac os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • Rydych wedi cael hysbysiad ffurfiol eich bod yn cael eich diswyddo neu
  • Rydych o fewn 6 mis i ddyddiad eich diswyddiad neu
  • Rydych yn gyn-droseddwr neu’n droseddwr sy’n gweithredu eich dedfryd yn y gymuned

Rhaid ichi fod yn breswylydd yng Nghymru ar ddyddiad eich diswyddiad ac ar y dyddiad pan wnewch eich cais am gyllid.

Mae'n rhaid nad ydych wedi gweithio am 6 wythnos neu fwy ers i chi golli eich swydd cyn iddynt wneud cais. Rhaid i chi hefyd beidio â dechrau gweithio i'ch cyflogwr newydd nes bod y cymorth wedi'i gymeradwyo.

Pa gymorth sydd ar gael i gyflogwr?

Os ydych chi’n gymwys o dan ReAct+, gallai eich cyflogwr newydd gael:

  • Hyd at £4,000 tuag at eich cyflog ym mlwyddyn gyntaf eich swydd newydd

Rhaid i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani:

  • Fod am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • Talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol
  • Rhaid disgwyl iddyn nhw barhau am o leiaf 12 mis.
  • Peidio â chael ei dalu gan gyllid arall gan y llywodraeth

Pwysig: Ni fydd eich cyflogwr newydd yn cael cymorth o dan ReAct+ os byddwch yn dechrau gweithio iddo cyn i’r pecyn cymorth gael ei gymeradwyo. Ni fyddant ychwaith yn cael cymorth os ydych chi wedi gweithio am 6 wythnos neu fwy ers eich diswyddiad a chyn iddynt wneud cais.

Sut gall cyflogwyr wneud cais?

Dylai darpar gyflogwyr gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i gael gwybod sut y gall ReAct+ fod o fudd i’w busnes a’u gweithwyr.

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n ystyried yr angen i ddileu swyddi, efallai y bydd eich cyflogeion hefyd yn elwa o ReAct+.

Sut gallaf i wneud cais?

Os ydych chi am wneud cais am gymorth ReAct+, cysylltwch â Cymru'n Gweithio am ddim ar 0800 028 4844.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith