Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Swyddi ym maes trafnidiaeth – digwyddiadau ar-lein

Cyfle i glywed am yrfaoedd a chyfleoedd gan gyflogwr arloesol, newydd sydd â swyddi ledled Cymru a’r gororau.

Dyddiadau ac amseroedd:
Dydd Mercher 18 Tachwedd, 10-11am (digwyddiad Saesneg)
Dydd Mercher 18 Tachwedd, 1:30 – 2:30pm (digwyddiad Saesneg)
Dydd Gwener 4 Rhagfyr, 10-11am (digwyddiad Cymraeg)

Lleoliad: Ar-lein
Wedi’i anelu at: Disgyblion Blwyddyn 9 ac 11 ledled Cymru

Mae Gyrfa Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi dod at ei gilydd i gynnig y cyfle i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 i 11 ledled Cymru ddysgu a gofyn cwestiynau am y swyddi amrywiol ym maes trafnidiaeth. Gall disgyblion ddisgwyl:

  • Dysgu am Trafnidiaeth Cymru a’r Metro De Cymru newydd
  • Clywed am swyddi o bob rhan o’r sector trafnidiaeth, o swyddi cychwynnol i swyddi ar lefel uwch
  • Cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb byw yn defnyddio Mentimeter

Ewch i gofrestru ar gwefan Eventbrite (dolen Saesneg)