Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Rhannu gwybodaeth

Yn eich cyfweliad bydd eich Cynghorydd Gyrfa yn siarad â chi am beth rydyn ni'n ei wneud gydag unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni.

Bydd eich Cynghorydd Gyrfa yn gofyn cwestiynau i chi ac mae nhw am i chi roi atebion gonest felly mae'n iawn i ddweud eich bod chi'n hoffi neu ddim yn hoffi pethau.

Gwyliwch y fideo

Rhannu Gwybodaeth

Gwyliwch y fideo i weld beth mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn ei ddweud am yr wybodaeth yr ydych yn ei rannu mewn cyfweliad gyrfa.

Dangos trawsgrifiad

A wnewch chi ddweud wrth bobl eraill beth dwi wedi ei ddweud?

I lawer o bobl ifanc nid ydym yn rhannu gwybodaeth oni bai eich bod yn hapus i ni wneud hynny. Ond, gallem rannu gwybodaeth os bydd angen help arnoch i roi eich cynlluniau ar waith ac i baratoi at y dyfodol. Mi wnawn i roi gwybod i sefydliadau eraill sy'n helpu pobl ifanc pa gynlluniau sydd gennych a pha gymorth y gallai fod ei angen arnoch.

Bydd eich Cynghorydd Gyrfa yn siarad â chi am hyn pan fyddant yn cyfarfod â chi.

Ni fyddwn yn dweud wrth bobl eraill beth yw eich cynlluniau os nad ydych chi am i ni wneud hynny ond efallai y bydd eich teulu a’r bobl sy’n eich cefnogi yn gallu helpu os ydyn nhw’n gwybod beth rydych chi eisiau gwneud.

Oes yna adegau pan mae'n rhaid dweud wrth rywun beth dwi wedi ei ddweud?

Mae Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc ac fe ddylen nhw helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel. Pe baech chi'n dweud wrthym eich bod chi, neu rywun arall, mewn perygl o niwed, byddai'n rhaid i'r Cynghorydd Gyrfa rannu hynny gyda rhywun arall, a allai roi gwybod am y pryderon hynny.

Recordio cyfweliadau

Weithiau mae Cynghorwyr Gyrfa yn recordio cyfweliadau fel y gall Rheolwyr neu Gynghorwyr Gyrfa eraill wrando arnyn nhw. Byddem ond yn recordio cyfweliad pe baech chi’n dweud ei bod yn iawn i ni wneud hynny.

Mae gennym Bolisi Preifatrwydd os ydych chi am ddysgu mwy am yr hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth.


Gwybod mwy