Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Eich plentyn ar ôl iddynt adael yr ysgol neu’r coleg

Os bydd eich plentyn yn penderfynu gadael yr ysgol neu'r coleg efallai y bydd angen help arnynt gyda'r cyfleoedd a'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae gennym wybodaeth a chefnogaeth i chi ac iddyn nhw.

Dewisiadau a phenderfyniadau

Efallai bod eich plentyn yn meddwl am:

  • Ddod o hyd i swydd
  • Hyfforddiant a chefnogaeth alwedigaethol, gan gynnwys profiad gwaith cyflogedig, drwy Twf Swyddi Cymru+
  • Prentisiaeth
  • Hunangyflogaeth
  • Gwirfoddoli

Cewch fwy o wybodaeth am bob un o'r rhain ar lwybrau gyrfa.

Ffyrdd rydym ni’n cefnogi eich plentyn

Gallwn gefnogi eich plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol. Gallwn eu helpu i ddod o hyd i ddysgu, hyfforddiant neu gyflogaeth briodol.

Mae ein cymorth yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau cymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys:

  • Derbyn bwletinau swyddi
  • Cael eich paru â chyfleoedd priodol
  • Cael cefnogaeth i ddod o hyd swyddi a gwneud cais am swyddi
  • Cael eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill a all helpu

Mae cymorth i bobl ifanc 16 oed a throsodd sy’n penderfynu cael swydd neu ddechrau hyfforddiant ar gael drwy ein gwasanaeth Cymru’n Gweithio.

Gall ein hyfforddwyr cyflogadwyedd a’n cynghorwyr gyrfa helpu eich plentyn i:

  • Chwilio a cheisio am swyddi
  • Ysgrifennu CV
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • Gwneud cais am hyfforddiant galwedigaethol gydag amrywiaeth o gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ sy’n addas i'ch lleoliad a'ch cynlluniau gyrfa
  • Cysylltu ag asiantaethau a all eu helpu nhw i ddechrau eu busnesau eu hunain

Gallwch ddod gyda'ch plentyn i gyfarfod gyda chynghorydd gyrfa. Mae gennym awgrymiadau i help’ch plentyn i baratoi a chael y gorau o'r cyfarfod hwn.

Cysylltu â ni

Rydym yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb mewn canolfannau gyrfa, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol.

Gallwn hefyd weithio gyda chi a'ch plentyn drwy sgwrs ar-lein, galwad fideo neu dros y ffôn.

Amser i Siarad

Archwiliwch syniadau eich plentyn nawr eu bod nhw wedi gadael yr ysgol neu'r coleg. Anogwch nhw i feddwl am y sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw a sut mae nhw'n cyd-fynd â'r opsiwn mae nhw'n ei ystyried.

Mae yna wahanol bosibiliadau y gallant eu hystyried ar gyfer eu cam nesaf. Sgwrsiwch am yr holl ddewisiadau eraill a beth sy'n iawn iddyn nhw.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Sut i gael profiad

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.