Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Speakers for Schools - Gwybodaeth i ysgolion

Elusen yw Speakers for Schools a sefydlwyd yn 2010 gyda’r bwriad o roi mynediad i rwydweithiau o gysylltiadau cyflogwyr i bob person ifanc. Cynigir ei wasanaethau a'i gymorth yn rhad ac am ddim i ysgolion.

Mae Gyrfa Cymru wedi partneru â Speakers for Schools er mwyn rhoi gwybod i athrawon am eu rhaglenni profiad gwaith a siaradwyr.

Mae profiad gwaith yn galluogi disgyblion i brofi byd gwaith yn uniongyrchol. Bydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau a magu hyder.

Mae rhaglen Ysbrydoli Siaradwyr i Speakers for Schools yn rhoi mynediad i ysgolion at sgyrsiau rhithwir gan siaradwyr proffil uchel, dylanwadol ac ysbrydoledig o feysydd busnes, gwleidyddiaeth, adloniant a chwaraeon.

Gall athrawon a hoffai helpu eu disgyblion i gael mynediad at brofiad gwaith gofrestru drwy wefan Speakers for Schools (Saesneg yn unig) i gael gwybod am amrywiaeth o leoliadau cyffrous.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyfnewidfa Addysg Busnes

Dolen uniongyrchol i'r gronfa ddata sy'n rhestru cyflogwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag ysgolion.