Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Prif Ganfyddiadau - Hynt disgyblion o ysgolion yng Nghymru 2019

Pobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant (NEET)

  • Yn 2019, roedd 905 o bobl ifanc a oedd yn gadael yr ysgol (Blynyddoedd 11, 12 a 13) yng Nghymru yn NEET, sef 1.7% o’r holl garfan
  • Fel y blynyddoedd blaenorol, mae canran uwch o bobl ifanc NEET yng ngharfan Blwyddyn 13 (2.5% (269 unigolyn) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (1.8% - 537 unigolyn) a Blwyddyn 12 (0.8% - 99 unigolyn)
  • Mae canran y cleientiaid Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Gwaith, Addysg na Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, oherwydd eu bod yn gofalu am eraill, neu oherwydd beichiogrwydd yn 1.0%. Yn yr un categori, roedd canran y disgyblion Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.3% a 0.5%, yn y drefn honno
  • Mae canran y merched NEET ym Mlwyddyn 11 nad oeddent yn gallu cael gwaith, addysg na hyfforddiant ychydig yn is na chanran y bechgyn (53.7% o ferched NEET a 54.2% o fechgyn NEET)

Parhau mewn Addysg Amser Llawn

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o bell ffordd ymhlith disgyblion ym mhob un o’r tri grŵp blwyddyn oedd parhau mewn addysg amser llawn. Dewisodd canran uwch o ferched ar draws y tair carfan i barhau mewn addysg amser llawn o gymharu â bechgyn
  • O ran y rhai sy’n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11, roedd Addysg Bellach (AB) yn ddewis mwy poblogaidd na’r chweched dosbarth mewn ysgolion, a hynny o 10.0% gyda 45% yn dewis chweched dosbarth a 55% yn dewis coleg AB
  • Yn 2019, o’r rhai a ddosbarthwyd yn rhai sy’n parhau mewn Addysg Amser Llawn, roedd dilyn Addysg Bellach yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn a merched. Roedd y gwahaniaeth yn fwy i fechgyn (57.8% yn mynd i AB, o’i gymharu â 42.2% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (52.2% yn mynd i AB, o gymharu â 47.8% yn aros yn yr ysgol)
Addysg llawn amser yn ôl carfan a rhyw
Carfan Bechgyn Merched Gwahaniaeth
Blwyddyn 11 86.0% 90.6% 4.5 pwynt canran
Blwyddyn 12 91.6% 93.8% 2.2 pwynt canran
Blwyddyn 13 72.5% 78.2% 5.7 pwynt canran

Ymhob blwyddyn, arhosodd canran uwch o’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn addysg amser llawn o gymharu â grwpiau gwyn.

Tabl carfan a lleiafrifoedd ethnig
Carfan Gwyn Lleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 11 87.8% 92.3%
Blwyddyn 12 93% 93.5%
Blwyddyn 13 75% 82.6%

Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant

  • Roedd canran y bobl ifanc a aeth i waith a hyfforddiant gyda nawdd y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ymhlith y rhai ym Mlwyddyn 13, sef 11.7% (1240 unigolyn), ond dim ond 8.1% (2478 unigolyn) o garfan Blwyddyn 11 a 3.9% (468 unigolyn) o garfan Blwyddyn 12 a ddewisodd un o’r opsiynau hyn
  • Roedd canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i weithio yn 2.5% ar gyfer Blwyddyn 11, 2.5% ar gyfer Blwyddyn 12, a 9.1% ar gyfer Blwyddyn 13
  • Roedd ymuno â’r farchnad lafur (naill ai Hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymysg bechgyn o gymharu â merched ar draws y 3 carfan yn 2019
  • O’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig, roedd y ganran a ymunodd â’r farchnad lafur (gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle) yn llai o lawer o gymharu â grwpiau gwyn
Tabl carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
Carfan Gwyn Lleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 11 8.6% 3.5%
Blwyddyn 12 4.0% 2.9%
Blwyddyn 13 12.3% 5.5%

Cyfradd Dim Ymateb

Roedd y cyfanswm ‘Dim Ymateb’ yn 3.1%. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd ‘dim ymateb’ ar ei huchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 9.6% (1011 o unigolion). Mae’r grŵp carfan hwn yn parhau i fod â’r gyfradd ‘dim ymateb’ uchaf.

Tabl dim ymateb
Blwyddyn 11 1.1%
Blwyddyn 12 2.2%
Blwyddyn 13 9.6%

Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn