Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion 2020

Mae arolwg blynyddol Gyrfa Cymru o’r rhai sydd wedi gadael yr ysgol, a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi ciplun defnyddiol o hynt disgyblion, gan gynnig gwybodaeth i staff gyrfaoedd wrth weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.

Mae’r data a gasglwyd hefyd o gymorth gwerthfawr i bartneriaid a chydweithwyr sy’n rhan o’r broses o gynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddi, a chyflogaeth.

Lluniwyd yr arolwg hwn o ddata a ddarparwyd gan Gyrfa Cymru, ac mae’n edrych ar ba lwybrau dilyniant a ddewiswyd gan bobl ifanc o ran addysg, gwaith a hyfforddiant. Ceir dadansoddiadau pellach o ran ethnigrwydd a rhyw’r disgyblion (pan fo’r wybodaeth ar gael).

Mae’n werth nodi bod arolwg eleni wedi’i gynnal yng nghanol pandemig Covid-19 ac yn berthnasol i’r rhai a adawodd yr ysgol a gwblhaodd eu hastudiaethau Blwyddyn 11, Blwyddyn 12, a Blwyddyn 13 yn ystod y pandemig ac yn y cyfnodau o gau ysgolion o fis Mawrth 2020 ymlaen. O ganlyniad, ni chynhaliwyd unrhyw arholiadau allanol yn 2020 a chafodd canlyniadau eu dyfarnu ar sail graddau asesedig canolfannau.

Mae’r arolwg yn adrodd ar hynt 53,092 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae’n cynnwys disgyblion sydd wedi cyrraedd yr oedran statudol i adael yr ysgol, ym Mlwyddyn 11, a disgyblion sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 12 a 13. Caiff disgyblion o ysgolion arbennig eu cynnwys yn yr arolwg hefyd; nid yw’r rhai sy’n mynychu colegau AB ac ysgolion annibynnol. Bechgyn yw 49.1% o gyfanswm y garfan (26,076) a Merched yw 50.8% (26,994). Dewisodd 22 o’r disgyblion y categori ‘Arall a gwell gen i beidio â dweud’ i ddisgrifio eu rhyw. Cofnodir y wybodaeth am hynt disgyblion ar sail gweithgaredd hysbys y disgyblion ar 31 Hydref 2020.

Er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn darparu darlun mor llawn â phosibl o gyrchfannau’r rhai sy’n gadael ysgol, a bod nifer y rhai nad ydynt yn ymateb i’r arolwg cyn ised ag sy’n bosibl, mae Gyrfa Cymru yn dibynnu ar sefydliadau partner i rannu gwybodaeth am gofrestriad a hynt myfyrwyr. Ar gyfer hynt carfan 2018, yn sgil cyflwyno’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), nid oedd yn bosibl cytuno ar drefniadau rhannu data gyda’r holl sefydliadau Addysg Bellach (AB) ledled y wlad mewn pryd i gwblhau arolwg 2018. Roedd hyn yn golygu bod nifer y rhai na wnaeth ymateb yn llawer uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol. Gan nad oedd modd cymharu data hynt disgyblion 2018 â data blynyddoedd blaenorol, nid yw’r adroddiadau hyn yn cynnwys sylwadau naratif yn ymwneud â data tueddiadau mwyach. Pe bai unrhyw gymariaethau’n cael eu llunio, byddent yn debygol o ddod i gasgliadau anghywir.

Gall yr amgylchiadau unigryw a achoswyd gan y pandemig gymhlethu’r gallu i gymharu data â data blynyddoedd a fu hefyd.

Noder:

  • Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu ac felly ni fydd y cyfanswm yn 100% bob tro
  • Gallai ffigyrau cenedlaethol guddio amrywiannau ar lefel rhanbarthau, awdurdodau lleol a sefydliadau ym mhob carfan. Darperir adroddiadau sy’n dangos hynt y disgyblion fesul ardal awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r broses o ddadansoddi ar lefel leol
  • Dim ond cynrychiolaeth weledol yw’r graffigwaith ac nid yw ar raddfa fanwl gywir o reidrwydd
Cyfyngiadau data

Nodyn ar Ddata Tueddiadau.

Rhwng 2012 a 2017 roedd modd olrhain data hynt disgyblion a nodi data tueddiadau. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y Cyflwyniad, roedd heriau ychwanegol wrth gasglu data hynt disgyblion 2018, gyda chynnydd amlwg yn y rhai na ymatebodd i’r arolwg a hynny’n amrywio yn ôl awdurdod lleol. Oherwydd hynny, mae adroddiad eleni, fel yn achos adroddiad 2018, yn cynnwys crynodeb byr o ddata 2019 a nid yw’n ceisio llunio cymhariaeth gyda’r gyfres sy’n bodoli yn ôl amser ac ni cheir sylwebaeth, felly, ar dueddiadau. Mae’r pandemig yn ffactor cymhlethu wrth gymharu 2020 â blynyddoedd eraill hefyd. Bydd y crynodeb yn cynnwys data awdurdodau lleol, ond ni fydd yn cymharu’r data gyda blynyddoedd blaenorol nac ychwaith ar draws awdurdodau.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi mai cyfradd y rhai nad ydynt wedi ymateb ar gyfer blwyddyn 11 yn 2020 yw 0.9% (263 o unigolion) o gymharu ag 1.1% (350 o unigolion) yn 2019, 3.5% (1043 o unigolion) yn 2018 a 0.6% (169 o unigolion) yn 2017.

Ar gyfer blwyddyn 12 yn 2020 roedd yn 1.2% (147 o unigolion), o gymharu â 2.2% (268 o unigolion) yn 2019, 3.7% (482 o unigolion) yn 2018 ac 1.6% (220 o unigolion) yn 2017.

Ym mlwyddyn 13 roedd y ganran 4.2% yn 2020 (418 o unigolion) o gymharu â 9.6% yn 2019 (1011 o unigolion), 11.6% (1275 o unigolion) yn 2018 a 3.7% yn 2017 (436 o unigolion). Ar draws pob grŵp blwyddyn, mae cyfraddau’r rhai nad ydynt wedi ymateb ar gyfer 2020 wedi symud yn agosach at lefelau a welwyd cyn 2018.

Mae’r ffaith nad yw rhai’n ymateb yn cam-ystumio data sy’n ymwneud â rhai grwpiau gan olygu bod cymharu ar draws blynyddoedd gwahanol yn debygol o arwain at gasgliadau anghywir. Er enghraifft, mae ffigur y rhai ‘Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant’ yn 2018 ar gyfer blwyddyn 11 yr un fath ag yr oedd yn 2017 sef 1.6% (491 o unigolion yn 2017 o’i gymharu â 476 yn 2018). Fodd bynnag, roedd canran disgyblion Blwyddyn 11 sy’n parhau mewn addysg amser llawn yn 2018 yn is o 1.8% o gymharu â 2017 (86.4% (25,626 o unigolion) o gymharu â 88.2% (27,189 o unigolion). Ynghyd â’r rhai na wnaeth ymateb i’r arolwg (cynnydd o 3% yn 2018), y ddau gategori yma sy’n dangos y gwahaniaethau mwyaf ar draws y ddwy flwyddyn. Yn sgil absenoldeb gwybodaeth am gofrestriadau gan rai colegau Addysg Bellach (AB), byddai’n rhesymol efallai ystyried bod mwyafrif y rhai na ymatebodd wedi parhau mewn addysg amser llawn yn y sector AB, ond ni allwn dybio bod hynny’n wir.

Diffiniadau

Mae’r rhan fwyaf o’r penawdau a ddefnyddir yn yr adroddiadau hynt disgyblion yn hunanesboniadol. Fodd bynnag, gall y canlynol fod o gymorth.

Addysg Bellach (AB): Addysg Bellach mewn coleg, gan gynnwys colegau Trydyddol ôl-16, yn hytrach nag mewn chweched dosbarth yn yr ysgol (blynyddoedd 12 a 13).

Hyfforddiant seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig: Mae’n cynnwys pob hyfforddiant yn y gweithle sydd heb statws cyflogedig ond a gefnogir gan y Llywodraeth.

Hyfforddiant seiliedig ar Waith - statws cyflogedig: Mae’n cynnwys Prentisiaethau Modern a mathau eraill o hyfforddiant i weithwyr a gefnogir gan y Llywodraeth.

WBTYP: Hyfforddiant Seiliedig ar Waith i Bobl Ifanc.

Pobl nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET): Mae’n cynnwys y rhai nad ydynt ar gael i weithio a’r rhai sydd wedi cofrestru’n ddi-waith gyda Gyrfa Cymru. Roedd pobl ifanc mewn addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) yn y categori hwn o’r blaen ond fe’u cofnodir ar wahân ers 2009.

Blwyddyn i Ffwrdd: Dim ond y rhai sy’n cael blwyddyn ffurfiol i ffwrdd (h.y. y rhai sydd wedi gwneud cais i UCAS ac wedi gohirio eu lle mewn Addysg Uwch) a gynhwysir yn y ffigyrau blwyddyn i ffwrdd. Cynhwysir unigolion nad ydynt wedi mynd i Addysg Uwch, ond sy’n ystyried ymgeisio o dan gyrchfannau perthnasol eraill (fel y nodwyd ar 31 Hydref 2018).

Addysg Amser Llawn: y rhai mewn addysg am fwy nag 16 awr yr wythnos.

Addysg Rhan-amser: y rhai mewn addysg ran-amser am lai nag 16 awr yr wythnos. Roedd y rhain wedi’u cynnwys yn y categori NEET o’r blaen ond maent wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009.

Wedi gadael yr ardal:Y rhai y gwyddys eu bod wedi gadael Cymru.

Gwyn: Cyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn Prydeinig; Gwyn Gwyddelig; Gwyn Arall.

Grwpiau lleiafrifoedd ethnig: Cyfanswm cyfunol ar Gyfer Gwyn Cymysg a Du Caribïaidd; Gwyn Cymysg a Du Affricanaidd; Gwyn Cymysg ac Asiaidd; Cymysg Arall, Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd; Asiaidd Arall; Caribïaidd; Affricanaidd; Du Arall; Tsieiniaidd; Grŵp Ethnig Arall.