Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2020

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 15 neu 16 oedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol, sef Blwyddyn 11 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn ystod y flwyddyn academaidd 2019-20. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2020, yn cwmpasu 30,811 o ddisgyblion hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 11 yn 2020.

  • Roedd 51.1% (15,756 o unigolion) yn fechgyn a 48.8% (15,039 o unigolion) yn ferched. Dewisodd 16 o ddisgyblion (0.05%) ddisgrifio eu hunain fel ‘Arall’
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 94.9% (29,245 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 93.6% o fechgyn, 96.4% o ferched a 68.8% o ddisgyblion yn y categori 'Arall'
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 90.4 % (27,863 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • Roedd 54.8% yn parhau mewn coleg addysg bellach (15,259 o unigolion) ac roedd 45.2% o’r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn (12,604 o unigolion) yn parhau â’u haddysg yn yr ysgol
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (7.2 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (7.2 pwynt canran yn fwy na bechgyn) aros yn yr ysgol
  • Ymunodd 6.4% o’r garfan (1,964 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur, gwahaniaeth o 3.3 pwynt canran (8% o fechgyn o gymharu â 4.7% o ferched)
  • Dewisodd 3.1% (964 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 1.3% o’r garfan (393 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (2.0%) na merched (0.5%) yn y categori hwn (gwahaniaeth o 1.5 pwynt canran)
  • Dewisodd 2% (607 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth; gwahaniaeth o 1.7 pwynt canran
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 1.7% o’r garfan (527 o unigolion), mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Bechgyn oedd 60% o’r cyfanswm (316 o unigolion) o gymharu â 39.5% o ferched (208 o unigolion). Mae hyn yn wahaniaeth o 20.5 pwynt canran rhwng merched a bechgyn
  • Roedd 38.1% (201 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent yn NEET yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET) (yn hytrach na’r 326 (61.9%) unigolyn nad oedd yn gallu mynd i mewn i EET oherwydd salwch
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 0.9% o’r garfan (263 o unigolion)
  • Roedd 0.5% (169 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 11

Siart cylch yn nodi nifer y disgyblion ym mhob canlyniad. Gellir gweld esboniad llawn o'r holl ddata yn y tabl isod.
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 11:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 13912 88.3 13940 92.7 11 68.8 27863 90.4
Parhau mewn Addysg Rhan-Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 17 0.1 8 0.1 0 0.0 25 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-waith 492 3.1 472 3.1 0 0.0 964 3.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Mewn Gwaith 320 2.0 73 0.5 0 0.0 393 1.3
Mewn Gwaith - Arall 444 2.8 163 1.1 0 0.0 607 2.0
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant 316 2.0 208 1.4 3 18.8 527 1.7
Heb ymateb i'r arolwg 161 1.0 100 0.7 2 12.5 263 0.9
Wedi gadael yr ardal 94 0.6 75 0.5 0 0.0 169 0.5
Cyfanswm y cohort 15756 100.0 15039 100.0 16 100.0 30811 100.0

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau i Flwyddyn 12 yn yr ysgol 5790 41.6 6809 48.8 5 45.5 12604 45.2
Parhau i Flwyddyn 12 mewn colegau Addysg Bellach 8122 58.4 7131 51.2 6 54.5 15259 54.8
Cyfanswm 13912 100 13940 100 11 100 27863 100

Dim mewn Gwaith, Addysg a Hyfforddiant

Dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig ar waith (i bobl ifanc):
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith 122 38.6 79 38.0 0 0.0 201 38.1
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall 194 61.4 129 62.0 3 100.0 326 61.9
Cyfanswm 316 100.0 208 100.0 3 100.0 527 100.0

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndir lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 94.8% (o gymharu â 90.1% o’r rhai o gefndir gwyn).

Ymunodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn â’r amrywiol gategorïau yn y farchnad lafur (6.8%) o gymharu â’r rhai o leiafrifoedd ethnig (2.2%).

Roedd cyfran uwch o bobl ifanc NEET yn hanu o gefndiroedd gwyn (1.8% neu 446 o unigolion) o gymharu ag unigolion o leiafrifoedd ethnig (0.9% neu 17 o unigolion).

Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 11 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd:
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 22401 90.1 1828 94.8 3634 90.7 27863 90.4
Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr) 20 0.1 1 0.1 4 0.1 25 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-waith 850 3.4 24 1.2 90 2.2 964 3.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn gwaith 343 1.4 6 0.3 44 1.1 393 1.3
Cyflogedig - Arall 497 2.0 12 0.6 98 2.4 607 2.0
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant 446 1.8 17 0.9 64 1.6 527 1.7
Anhysbys 212 0.9 15 0.8 36 0.9 263 0.9
Wedi gadael yr ardal 106 0.4 25 1.3 38 0.9 169 0.5
Cyfanswm ethnig y garfan 24875 100.0 1928 100.0 4008 100.0 30811 100.0
% o'r garfan gyfan   80.7   6.3   13.0   100.0

Gweld grwpiau blwyddyn eraill