Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2020

Crynodeb

Mae’r ffigurau ar gyfer disgyblion 17 neu 18 oed a oedd yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2020, yn cwmpasu 10,059 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2020, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 13 ar gyfer 2020.

  • Roedd 45.5% yn fechgyn a 54.5% yn ferched
  • Aeth 81.5% o’r garfan (8,202 o unigolion) ymlaen i ryw fath o drefniant dysgu parhaus neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd cyfran uwch o garfan y merched yn y categori hwn (83.3%) o gymharu â’r bechgyn, sef 79.4%
  • Dewisodd 80.0% o’r garfan (8044 o unigolion) barhau mewn addysg amser llawn. O’r rheini, aeth 83.3% (6,703 o unigolion) ymlaen i addysg uwch. Roedd hyn yn 66.6% o gyfanswm y garfan
  • Aeth 70.8% o gyfanswm y garfan merched ymlaen i addysg uwch o gymharu â 61.7% o gyfanswm y garfan bechgyn
  • O’r rhai a ddewisodd barhau ag addysg uwch, dewisodd canran is, sef 6.8% (543 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol o gymharu â 8.9% (712 o unigolion) a barhaodd â’u haddysg mewn coleg addysg bellach. Roedd canran carfan y bechgyn a oedd yn parhau â’u haddysg amser llawn naill ai yn yr ysgol neu’r coleg yn uwch o gymharu â’r merched (18.9 % a 13.0% yn y drefn honno)
  • Roedd canran ymadawyr Blwyddyn 13 a barhaodd yn addysg llawn amser a arhosodd ym Mlwyddyn 14 yn yr ysgol, yn 6.8%. Roedd canran y bechgyn yn 8.2% yn 2020 o'i gymharu â 5.6% o ferched
  • Dywedodd 1.1% (86 o unigolion) o’r rhai a oedd yn parhau mewn addysg eu bod am gymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r nod o fynd ymlaen i addysg uwch y flwyddyn ganlynol
  • Parhau mewn addysg ran-amser (16 awr yr wythnos neu lai) oedd y llwybr lleiaf poblogaidd a gymerwyd gan y nifer lleiaf o unigolion (16 o unigolion)
  • Ymunodd 11.9% (1202 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle. Aeth 10.5% (1060 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth, 1.4 pwynt canran yn fwy o fechgyn nag o ferched
  • Dewisodd cyfran fach o’r garfan, sef 0.2% (23 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle heb statws cyflogedig
  • Dewisodd 1.2% (119 o unigolion) ddysgu yn seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Dewisodd canran uwch o fechgyn (1.8%) y llwybr hwn o gymharu â merched (0.7%)
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 3.5% o’r garfan (355 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn, sef 4.3% (195 o unigolion) yn y categori hwn o gymharu â merched 2.9% (160 o unigolion)
  • Roedd 0.2% (24 o unigolion) o’r garfan wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 13

Siart cylch yn nodi nifer y disgyblion ym mhob canlyniad. Gellir gweld esboniad llawn o'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 13:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 3531 77.1 4510 82.3 3 100.0 8044 80.0
Parhau Mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 9 0.2 7 0.1 0 0.0 16 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws diwaith 14 0.3 9 0.2 0 0.0 23 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Mewn Gwaith 81 1.8 38 0.7 0 0.0 119 1.2
Mewn Gwaith - Arall 517 11.3 543 9.9 0 0.0 1060 10.5
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant Na Gwaith 195 4.3 160 2.9 0 0.0 355 3.5
Anhysbys 216 4.7 202 3.7 0 0.0 418 4.2
Wedi gadael yr ardal 15 0.3 9 0.2 0 0.0 24 0.2
Cyfanswm y cohort 4578 100 5478 100 3 100 10059 100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn:

  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-18 291 8.2 251 5.6 1 33.3 543 6.8
Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach 377 10.7 335 7.4 0 0.0 712 8.9
Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU) 2823 79.9 3878 86.0 2 66.7 6703 83.3
Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU 40 1.1 46 1.0 0 0.0 86 1.1
Cyfanswm 3531 100 4510 100 3 100 8044 100

Dim mewn Gwaith, Addysg a Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc):
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith i bobl ifanc 108 55.4 102 63.8 0 0.0 210 59.2
Yn methu symud ymlaen at addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati 87 44.6 58 36.3 0 0.0 145 40.8
Cyfanswm 195 100 160 100 0 0.0 355 100

Ethnigrwydd

O’r rhai a roddodd wybodaeth am ethnigrwyd y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 87.3%. Roedd hyn yn cymharu â 79.3% ar gyfer unigolion o gefndir gwyn.

Dewisodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (gwahaniaeth o 5.7 pwynt canran) waith tu allan i hyfforddiant a noddir gan y Llywodraeth (11.0% o gefndir gwyn o gymharu 5.3% o leiafrifoedd ethnig).

Roedd gwahaniaeth o 1.2 pwynt canran rhwng grwpiau cefndir gwyn a lleiafrifoedd ethnig a ddewisodd Hyfforddiant yn y gweithle - statws cyflogedig (y naill yn 1.3% a’r llall yn 0.1%).

Roedd cyfran y bobl ifanc o gefndir lleiafrifoedd ethnig a oedd yn NEET yn is na chyfran y rhai o gefndir gwyn (2.6% o gymharu â 3.6%). Mae hyn yn cyfateb i 331 o unigolion o gefndir gwyn a 22 o unigolion o leiafrifoedd ethnig.

Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd:

  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Amser Llawn (ysgolion a cholegau) 7217 79.3 737 87.3 90 81.8 8044 80.0
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 16 0.2 0 0.0 0 0.0 16 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws diwaith 22 0.2 1 0.1 0 0.0 23 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn gwaith 118 1.3 1 0.1 0 0.0 119 1.2
Mewn gwaith 1004 11.0 45 5.3 11 10.0 1060 10.5
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 331 3.6 22 2.6 2 1.8 355 3.5
Anhysbys 376 4.1 35 4.1 7 6.4 418 4.2
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal.  21 0.2 3 0.4 0 0.0 24 0.2
Cyfanswm y cohort 9105 100 844 100 110 100 10059 100
% o'r cohort cyfan   90.5   8.4   1.1   100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill