Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Prif Ganfyddiadau - Hynt disgyblion o ysgolion yng Nghymru 2020

Pobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant (NEET)

  • Yn 2020, roedd 958 o bobl ifanc a oedd yn gadael yr ysgol o Blynyddoedd 11, 12 a 13 yng Nghymru yn NEET, sef 1.8% o’r holl garfan
  • Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae canran uwch o bobl ifanc NEET yng ngharfan Blwyddyn 13 (3.5% (355) unigolyn) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (1.7% - 527 unigolyn) a Blwyddyn 12 (0.6% - 76 unigolyn)
  • Mae canran y cleientiaid Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Gwaith, Addysg na Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, oherwydd eu bod yn gofalu am eraill, neu oherwydd beichiogrwydd yn 1.1%. Yn yr un categori, roedd canran y disgyblion Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.3% a 1.4%, yn y drefn honno
  • Mae canran y merched NEET ym Mlwyddyn 11 nad oeddent yn gallu cael gwaith, addysg na hyfforddiant ychydig yn uwch na chanran y bechgyn (62.0% o ferched NEET a 61.4% o fechgyn NEET)

Parhau mewn Addysg Amser Llawn

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o bell ffordd ymhlith disgyblion ym mhob un o’r tri grŵp blwyddyn oedd parhau mewn addysg amser llawn. Dewisodd canran uwch o ferched ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn o gymharu â bechgyn.

  • O ran y rhai sy’n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11, roedd Addysg Bellach (AB) yn ddewis mwy poblogaidd na’r chweched dosbarth mewn ysgolion, a hynny o 9.5 pwynt canran; 45.2% i Chweched dosbarth a 54.8% i Coleg AB
  • Yn 2020, o’r rhai a ddosbarthwyd yn rhai sy’n parhau mewn Addysg Amser Llawn, roedd dilyn Addysg Bellach yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn a merched. Roedd y gwahaniaeth yn fwy i fechgyn (58.4% yn mynd i AB, o’i gymharu â 41.6% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (51.2% yn mynd i AB, o gymharu â 48.8% yn aros yn yr ysgol)
Tabl yn dangos data carfan, bechgyn, merched a'r gwahaniaeth:
Carfan Bechgyn Merched Gwahaniaeth
Blwyddyn 11 88.3% 92.7% 4.4 pwynt canran
Blwyddyn 12 95.1% 96.4% 1.3 pwynt canran
Blwyddyn 13 77.1% 82.3% 5.2 pwynt canran

Ym Mlynyddoedd 11 a 13, arhosodd canran uwch o’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn addysg amser llawn o gymharu â grwpiau gwyn. Ym Mlwyddyn 12, arhosodd canran ychydig yn uwch o’r rhai mewn grwpiau ethnig gwyn mewn addysg amser llawn o gymharu â’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn, lleiafrifoedd ethnig:
Canran Gwyn Lleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 11 90.1% 94.8%
Blwyddyn 12 95.8% 95.5%
Blwyddyn 13 79.3% 87.3%

Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant

  • Roedd canran y bobl ifanc a aeth i waith a hyfforddiant gyda nawdd y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ymhlith y rhai ym Mlwyddyn 13, sef 11.9% (1202 unigolyn), ond dim ond 6.4% (1964 unigolyn) o garfan Blwyddyn 11 a 2.2% (267 unigolyn) o garfan Blwyddyn 12 a ddewisodd un o’r opsiynau hyn
  • Roedd canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i weithio yn 2.0% ar gyfer Blwyddyn 11, 1.4% ar gyfer Blwyddyn 12, a 10.5% ar gyfer Blwyddyn 13
  • Roedd ymuno â’r farchnad lafur (naill ai hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymysg bechgyn o gymharu â merched ar draws y 3 carfan yn 2020 (Roedd gan Blwyddyn 11 8.0% o fechgyn o'i gymharu hefo 4.7% o ferched, roedd gan Blwyddyn 12 2.6% o fechgyn o'i gymharu hefo 1.8% o ferched ac roedd gan Blwyddyn 13  13.4% o fechgyn o'i gymharu hefo 10.8% o ferched)
  • O’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig, roedd y ganran a ymunodd â’r farchnad lafur (gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle) yn llai o lawer o gymharu â grwpiau gwyn
Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig:
Carfan Gwyn Lleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 11 6.8% 2.2%
Blwyddyn 12 2.3% 1.1%
Blwyddyn 13 12.6% 5.6%

Cyfradd Dim Ymateb

Roedd y cyfanswm ‘Dim Ymateb’ yn 1.6 pwynt canran. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd ‘dim ymateb’ ar ei huchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 4.2% (418 o unigolion). Mae’r grŵp carfan hwn yn parhau i fod â’r gyfradd ‘dim ymateb’ uchaf.

Tabl yn dangos data dim ymateb:
Blwyddyn 11 0.9%
Blwyddyn 12 1.2%
Blwyddyn 13 4.2%

Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn