WEBVTT

00:00:00.000 --> 00:00:03.333
Paratoi ar gyfer cyfweliad

00:00:04.119 --> 00:00:08.866
Dewch i ni glywed gan Richard Foxhall o Alun Griffiths Contractors Ltd

00:00:09.339 --> 00:00:10.906
Fy enw i yw Rich Foxhall

00:00:11.304 --> 00:00:13.661
a dwi’n gweithio fel Swyddog Cyswllt y Cyhoedd

00:00:13.661 --> 00:00:16.361
i gwmni Alun Griffiths Contractors Ltd

00:00:17.162 --> 00:00:20.056
Rwy’n gobeithio fyddai’n gallu rhoi rhai awgrymiadau i chi

00:00:20.364 --> 00:00:23.046
rhai da iawn, ynglyn â pa fath o bethe

00:00:23.105 --> 00:00:25.539
mae cyflogwyr yn edrych amdan mewn cyfweliad

00:00:25.596 --> 00:00:28.563
a shwd i chi’n gallu paratoi ar gyfer y cyfweliad.

00:00:29.532 --> 00:00:33.000
Sut ydych chi'n paratoi ar gyfer cyfweliad?

00:00:33.738 --> 00:00:38.105
Cyn cyfweliad, mae’n syniad da iawn i ail edrych ar eich CV

00:00:38.273 --> 00:00:41.973
oherwydd dyna’r unig wybodaeth sydd gan y cyflogwr amdanach chi

00:00:42.127 --> 00:00:47.028
a felly byddwn yn seilio’r cwestiynau ar y gwybodaeth i chi wedi rhoi

00:00:48.052 --> 00:00:49.965
Mae’n syniad da iawn i wbod ‘chydig bach mwy

00:00:50.045 --> 00:00:52.346
am y cwmni i chi wedi trio am waith gyda nhw

00:00:52.463 --> 00:00:56.496
Edrychwch ar y wefan, darllenwch amdanyn nhw  a deall beth mae nhw yn ei wneud

00:00:57.000 --> 00:01:01.448
Paratowch eich hunan gyda cwestiynau amdan y cwmni, os oes gyda chi rhai

00:01:01.744 --> 00:01:04.312
Mae’n bwysig iawn i chi ymarfer eich cwestiynau

00:01:04.749 --> 00:01:08.366
Ma hwn yn mynd i fod yn help i chi baratoi ateb nhw

00:01:08.852 --> 00:01:10.219
Gofynnwch i’ch rhieni

00:01:10.268 --> 00:01:14.168
neu efalle eich ffrindiau, i ofyn cwestiynau i chi, i helpu chi baratoi

00:01:15.246 --> 00:01:17.011
Ma hefyd yn bwysig iawn

00:01:17.159 --> 00:01:21.559
i ffeindio allan yn union lle ma’r cyfweliad yn cael ei gynnal

00:01:21.702 --> 00:01:25.403
Ma na rhai pobl ddim yn ffeindio yn union lle ymlaen llaw

00:01:25.643 --> 00:01:29.610
ac yn cyrraedd yn hwyr, a dydy hwnna ddim yn syniad da, am gyfweliad.

00:01:30.752 --> 00:01:33.736
Beth ddylech ei wneud ar ddiwrnod y cyfweliad?

00:01:34.419 --> 00:01:39.000
Gwnewch yn siwr eich bod yn gadael digon o amser i gyrraedd mewn da bryd.

00:01:40.033 --> 00:01:41.833
Gwisgwch yn daclus

00:01:42.218 --> 00:01:45.919
Mae’r argraff cyntaf mae rhywun yn cael ohonoch chi yn bwysig

00:01:46.754 --> 00:01:49.515
Os ydych chi dal yn yr ysgol mae’n berffaith iawn

00:01:49.515 --> 00:01:52.015
i chi fynd am gyfweliad yn  eich gwisg ysgol

00:01:52.370 --> 00:01:55.337
ond gwnewch yn siwr bod eich tei wedi ‘i wneud i fyny yn iawn.

00:01:56.533 --> 00:01:59.528
Gewch chi hefyd gwisgo yn eich dillad tu allan i’r ysgol,

00:01:59.528 --> 00:02:02.861
ond, yn bwysig  fod rhain eto yn daclus

00:02:03.126 --> 00:02:05.893
a’ch bod chi’n creu argraff da iawn

00:02:06.122 --> 00:02:09.089
pryd da chi’n cyfarfod eich cyflogwr am y tro cynta’

00:02:09.356 --> 00:02:12.323
Ma hwn yn dangos eich bod chi’n berson trefnus.

00:02:13.760 --> 00:02:15.613
Un peth pwysig arall i gofio yw

00:02:16.119 --> 00:02:20.320
gwnewch yn siwr eich bod chi’n switsio’ch ffôn symudol off.

00:02:20.416 --> 00:02:24.183
Does na ddim byd gwaeth mewn cyfweliad na’ch ffôn yn canu.

00:02:25.311 --> 00:02:27.168
Beth ddylech chi ei wneud yn y cyfweliad?

00:02:27.681 --> 00:02:29.887
Yn y cyfweliad, gwenwch!

00:02:30.046 --> 00:02:32.443
ac edrychwch yn gyffyrddus.

00:02:32.640 --> 00:02:34.106
Steddwch i fyny yn syth

00:02:34.633 --> 00:02:37.134
a gwrandewch yn astud ar y cwestiyne

00:02:37.858 --> 00:02:40.425
Ma’n iawn i fod ychydig bach yn nerfus mewn cyfweliad

00:02:40.914 --> 00:02:43.081
a ma cyflogwyr wedi hen arfer â hyn.

00:02:43.899 --> 00:02:46.865
Os nad ydych chi wedi deall y cwestiwn da chi wedi cal

00:02:47.039 --> 00:02:48.681
yna gofynnwch eto

00:02:48.786 --> 00:02:50.519
ma hwnna’n iawn i neud

00:02:51.399 --> 00:02:54.227
Os ydych chi isie rhyw ychydig o eiliadau neu ychydig o funude

00:02:54.227 --> 00:02:57.761
i feddwl am yr ateb a cal y geirie’n iawn yn eich meddwl, cyn gwneud

00:02:57.987 --> 00:02:59.866
yna gofynnwch am hynny

00:03:00.000 --> 00:03:01.229
ma hynna’n berffaith iawn hefyd

00:03:02.232 --> 00:03:05.199
Ma’n bwysig iawn i fod yn onest ac i dweud y gwir

00:03:06.315 --> 00:03:08.476
Mae’n syniad da iawn i ofyn cwestiynau

00:03:09.289 --> 00:03:11.117
ac i paratoi rhei’n o flaen llaw.

00:03:11.778 --> 00:03:14.253
Pethe dai i ofyn yw, beth yw’r oriau gwaith?

00:03:14.424 --> 00:03:17.346
Bydd angen gweithio gyda’r nôs, neu ar penwythnose?

00:03:17.528 --> 00:03:19.495
Oes angen i chi deithio?

00:03:20.011 --> 00:03:22.978
Pa fath o hyfforddiant a cymwysterau gewch chi yn y swydd?

00:03:23.808 --> 00:03:26.775
Ma nhw gyd yn cwestiyne da iawn i ofyn  i cyflogwr

00:03:27.640 --> 00:03:29.040
Pob lwc!

00:03:29.189 --> 00:03:29.689
Diolch Richard

00:03:30.065 --> 00:03:32.713
Gyrfa Cymru Careers Wales

00:03:32.713 --> 00:03:35.454
gyrfacymru.llyw.cymru

00:03:35.954 --> 00:03:39.816
post@gyrfacymru.llyw.cymru

00:03:40.704 --> 00:03:45.602
Ffôn 0800 028 4844

00:03:46.354 --> 00:03:47.546
Sgwrs ar-lein

00:03:48.000 --> 00:03:54.524
Cyfryngau cymdeithasol Facebook, Twitter, Instagram, YouTube a LinkedIn