Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 21 Mai 2025.
Aelodau'r Bwrdd yn bresennol:
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Andrew Clark
- Helen White
- Joni Ayn-Alexander
- Kate Daubney
- Rhian Roberts (RhR)
- Viv Laing
- Richard Thomas
- Dave Mathews (DM)
- Natalie Richards
- Rokib Uddin
O Gyrfa Cymru:
- Nikki Lawrence
- Ruth Ryder (RR)
Yn bresennol:
Phil Bowden – Pennaeth Ansawdd a Chynllunio (eitem 6, 7 a 9)
Llywodraeth Cymru:
- Sam Evans
- Neil Surman
Absennol:
- Nerys Bourne
- Tony Smith
- Azza Ali
Ysgrifenyddiaeth:
Donna Millward (DMM)
1. Ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Nerys Bourne, Tony Smith ac Azza Ali.
Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant newydd.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol, 5 Mawrth 2025
Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywir.
3. Materion yn codi
Cam 1. Cadeirydd i ddiweddaru ar opsiynau ar gyfer gwerthusiad bwrdd allanol. Mae'r cam hwn wedi'i gwblhau.
Cam 2. Nodi a chyflwyno'r risgiau strategol i'r sefydliad ar gyfer trafodaeth bellach ar barodrwydd i dderbyn risg. Wedi'i gwblhau.
Cam 3. Seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth i'w ychwanegu fel eitem agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y bwrdd. DM – Aelod o'r Bwrdd i roi'r diweddariad. Wedi’i gwblhau.
Cam 4. Dosbarthu'r adroddiadau terfynol gan bwyllgorau'r Senedd i aelodau'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith cyn gynted ag y byddant ar gael. Bydd y cam hwn yn cael ei symud ymlaen i gyfarfod nesaf Bwrdd CCDG.
Cam 5. Trefnu cyfarfod i drafod a diffinio amcan a rôl y bwrdd mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol o fewn y sefydliad. Wedi'i gwblhau.
4. Diweddariad y cadeirydd – ar lafar
4.1 Perfformiad a Chyflawniadau
Tynnodd y Cadeirydd sylw at berfformiad cryf y sefydliad yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ragori ar y rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad allweddol er gwaethaf toriadau a newidiadau sylweddol. Rhoddwyd diolch ffurfiol i'r tîm.
Cam 2. Y Cadeirydd i ysgrifennu at yr holl weithwyr i ddiolch iddynt a chydnabod eu hymdrechion a'u cyflawniadau.
4.2 Cwrdd â'r Gweinidog
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gyfarfod gyda'r Gweinidog, sy'n gefnogol ac yn ymgysylltu â gwaith Gyrfa Cymru.
4.3 Cyfarfod Cadeiryddion Cyrff Cyhoeddus
Mynychodd y Cadeirydd Gyfarfod o Gadeiryddion Cyrff Cyhoeddus. Y prif bwnc trafod oedd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
4.4 Cynllun Gwaith y Bwrdd 2025 i 2026
Trafododd yr Aelodau y cynllun gwaith blynyddol. Anogwyd adborth ac awgrymiadau, yn enwedig gan gadeiryddion pwyllgorau wrth gysoni cynlluniau gwaith pwyllgorau ag agenda y bwrdd.
4.5 Recriwtio aelodau i'r Bwrdd
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar y broses barhaus o recriwtio aelodau newydd i'r bwrdd.
5. Adroddiad y Prif Weithredydd
Trafododd yr aelodau yr adroddiad a rannwyd yn flaenorol.
5.1 Risgiau Cwmni Allweddol
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bum risg allweddol sy'n parhau'n ddigyfnewid ers yr adroddiad blaenorol.
5.2 Diweddariad i'r Gyllideb
Clywodd y Bwrdd nad oedd unrhyw ddiweddariadau pellach wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru ar sefyllfa cyfraniadau cyflogwyr Yswiriant Gwladol.
Gofynnodd y Gweinidog fod Profiad Gwaith wedi'i Deilwra yn parhau i gael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru o fewn amlen bresennol y gyllideb.
5.3 Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Mae'r Prif Weithredydd wedi cwrdd â rhanddeiliaid allweddol fel CBI, CDI, FSB. Gweinidogion a chydweithwyr Llywodraeth Cymru.
Mynychodd y Prif Weithredydd gynhadledd CCRSP (Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Ymrwymiad Caerdydd) a chynhaliodd weithdy.
5.4 Newidiadau i'r Tîm Gweithredol
Cyhoeddodd y Prif Weithredydd y penderfyniad i hysbysebu'n fewnol am gyfarwyddwr cyflawni dros dro.
5.5 Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Darparwyd diweddariad ar ddangosyddion perfformiad allweddol (DPA) y cwmni. Nododd yr Aelodau ein bod wedi rhagori ar DPA, ac eithrio un sy'n ymwneud â grwpiau wedi'u targedu, gan gyflawni 61% yn erbyn targed o 70%.
6. Diweddariad Llywodraeth Cymru
6.1 Strategaeth Ddiwydiannol y DU
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl derbyn Strategaeth Ddiwydiannol y DU ar yr un pryd â'r adolygiad gwariant ym mis Mehefin.
6.2 Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailffocysu gweithgareddau'r Partneriaethau i gyd-fynd yn agosach â blaenoriaeth strategol swyddi a thwf gwyrdd y Prif Weinidog.
6.3 Rhaglen Sgiliau Hyblyg
Mae'r Gweinidog wedi lansio'r rhaglen sgiliau hyblyg yn ffurfiol. Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r rheolau sy'n cynnwys codi'r trothwy datblygu busnes a chaniatáu ceisiadau lluosog gan gyflogwyr.
6.4 Ymweliad Airbus
Clywodd aelodau am gynllun Llywodraeth Cymru i ymweld ag Airbus ym mis Mehefin lle byddai'r posibilrwydd o her sgiliau gwyrdd yn cael ei archwilio.
6.5 Pwyslais y Prif Weinidog
Mae'r Prif Weinidog yn canolbwyntio ar gyflawni ac effaith eleni, felly dyna pam mae rhai rhaglenni wedi newid. Hefyd, dywedodd cynrychiolydd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gyda Medr.
7. Diweddariad strategaeth newydd a thrafodaeth ar flaenoriaethau
Ymunodd y Pennaeth Ansawdd a Chynllunio â'r cyfarfod. Bu aelodau'r bwrdd yn trafod y strategaeth newydd a blaenoriaethau'r pecynnau gwaith, a phenderfynwyd ymestyn y strategaeth bresennol - Dyfodol Disglair - i ddeuddeg mis wrth barhau i ddatblygu'r strategaeth newydd i'w lansio ym mis Ebrill 2027.
8. Safleoedd
Cafodd gwerthiant pedwar o eiddo Gyrfa Cymru ei gymeradwyo gan y Bwrdd.
9. Cynllun Gweithredol
Amlinellodd y Pennaeth Ansawdd a Chynllunio y cynllun gweithredol ar gyfer 2025-26. Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys pwyslais ar barhau i weithredu'r strategaeth bresennol wrth baratoi ar gyfer y strategaeth newydd; cynnig newydd i ysgolion sy'n anelu at sicrhau bod 80% o bobl ifanc yn gweld cynghorydd gyrfa erbyn diwedd Blwyddyn 11 gyda'r perfformiad presennol yn fwy na hyn ar 85%
Mae'r cynllun yn parhau i ganolbwyntio ar roi cymorth penodol i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys pobl ifanc ag anableddau, y rhai sy'n cael eu haddysgu gartref, a'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae'r cynllun yn cynnwys ymdrechion i ymgysylltu â chyflogwyr a meithrin perthynas rhwng cyflogwyr ac ysgolion. Mae hyn yn golygu gweithio'n agos gyda chyflogwyr allweddol mewn sectorau gwahanol er mwyn creu cyfleoedd i bobl ifanc a sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y gweithlu.
Mae'r cynllun yn cynnwys prosiectau parhaus sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial a thrawsnewid digidol, megis gweithredu platfform dysgu newydd o'r enw Sbarc a datblygu'r ap archebu.
10. Llythyr Cyllido
Rhannodd y Prif Weithredydd y llythyr cyllido gyda'r aelodau.
11. Diweddariad seiber a diogelwch gwybodaeth
Rhoddodd yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) ddiweddariad ar y maes seiber a diogelwch gwybodaeth.
Ymosodiadau gwe-rwydo yw'r prif risg i'r sefydliad o hyd. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Adnoddau a Thrawsnewid drosolwg o'r ymarfer gwe-rwydo diwethaf i aelodau'r Bwrdd a'r camau a gymerwyd o ganlyniad.
Mae gan Gyrfa Cymru ardystiad Cyber Essentials Plus ac mae’n cydymffurfio â pholisïau diogelu data a diogelwch gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
Nodwyd na fu unrhyw achosion mawr o dor diogelwch data, a bod y sefydliad yn parhau i fonitro a gwella ei fesurau diogelwch.
Soniodd yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth am gynnydd mewn ymdrechion hacio trwy ddyfeisiau symudol, a'i fod yn bwriadu trafod polisïau diogelwch dyfeisiau symudol gyda'r Cyfarwyddwr Adnoddau a Thrawsnewid, Pennaeth TGCh a Rheolwr Peiriannydd Systemau TGCh.
Cadarnhaodd yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth fod ganddo hyder yn y mesurau diogelwch sydd ar waith i amddiffyn Gyrfa Cymru rhag unrhyw ymosodiadau seiber.
12. Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Fe wnaeth y Cadeirydd grynhoi trafodaeth yng nghyfarfod y Cyrff Cyhoeddus a oedd yn canolbwyntio ar y Cynllun hwn. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys pwysigrwydd casglu a monitro data ar amrywiaeth y gweithlu a darpariaeth gwasanaethau a'r angen i olrhain cynnydd trwy ddangosyddion perfformiad allweddol penodol.
Pwysleisiwyd rôl arweinyddiaeth wrth feithrin diwylliant cynhwysol a'r angen i ddefnyddio camau gweithredu cadarnhaol yn fwy effeithiol.
Yn dilyn cyfarfod y cyrff cyhoeddus, cafodd yr aelodau eu diweddaru ar gyfarfod is-grŵp y Bwrdd a gynhaliwyd i drafod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Dylai pwyntiau allweddol a rannwyd a oedd yn cynnwys Gwrth-hiliaeth a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gael eu cynnwys yn rheolaidd ar agenda’r bwrdd.
Ystyried adnoddau pwrpasol ar gyfer ymdrechion gwrth-hiliaeth, o bosibl fel penodiad strategol. Byddai'r rôl hon yn canolbwyntio ar ddileu rhwystrau a sicrhau effaith mentrau gwrth-hiliaeth.
Nodwyd y bydd aelod o'r pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhoi cyflwyniad ar y maes hwn yng nghyfarfod y bwrdd ym mis Gorffennaf.
13. Unrhyw fater arall
13.1 Cyfarfod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phenaethiaid Adnoddau
Rhoddodd Cadeirydd Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Archwilio Cymru a fynychwyd gan y Cyfarwyddwr Adnoddau a Thrawsnewid hefyd.
13.2 Adroddiad ‘Recognising and Responding to Early Warning Signs in Public Sector Bodies’:
Soniodd y Cadeirydd am adroddiad ar adnabod ac ymateb i arwyddion rhybuddio cynnar mewn cyrff sector cyhoeddus. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwersi a ddysgwyd o amrywiol ymholiadau cyhoeddus ac adolygiadau cyhoeddus eraill.
Log Gweithredu
- Cam 1. Dosbarthu'r adroddiadau terfynol gan bwyllgorau'r Senedd i aelodau'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith cyn gynted ag y byddant ar gael. Dan arweiniad NB. Cyn gynted â phosibl.
- Cam 2. Y Cadeirydd i ysgrifennu at yr holl weithwyr i ddiolch iddynt a chydnabod eu hymdrechion a'u cyflawniadau. Dan arweiniad EC. Cyn gynted â phosibl.
Dim camau pellach wedi'u cofnodi
Dogfennau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys dolenni i Gofnodion cyfarfodydd Bwrdd CCDG.
Gwybod mwy am Gyrfa Cymru, beth rydym yn ei wneud, ein polisïau a gweithio i ni.