Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar Mawrth 2025.
Aelodau'r Bwrdd yn bresennol:
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Andrew Clark
- Helen White
- Tony Smith
- Joni Ayn-Alexander
- Kate Daubney
- Rhian Roberts (RhR)
- Viv Laing
O Gyrfa Cymru:
- Nerys Bourne
- Nikki Lawrence
- Ruth Ryder
Yn bresennol:
Will Piper – Pennaeth Cyllid ac Ystadau (eitem 6, 7 ac 8)
Llywodraeth Cymru:
- Sam Evans
Yn absennol:
- Richard Thomas
- Aled Jones-Griffith
- Neil Surman
- Dave Mathews (DM)
- Natalie Richards
- Azza Ali
- Rokib Uddin
Ysgrifenyddiaeth:
Donna Millward
1. Ymddiheuriadau/datganiadau o fuddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Richard Thomas, Aled Jones-Griffith a Neil Surman, Azza Ali, Rokib Uddin, Natalie Richards a Dave Mathews.
Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau newydd.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol, 11 Rhagfyr, 2024
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
3. Materion sy'n codi:
Cam Gweithredu 1. Cadeirydd i gysylltu â Phennaeth Polisi Gyrfaoedd/Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau i drafod y posibilrwydd o werthusiad bwrdd allanol. Mae'r cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau, gyda diweddariad pellach i'w ddwyn ymlaen i gyfarfod nesaf Bwrdd CCDG.
Cam Gweithredu 2. Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau i archwilio gyda NR - aelod o'r Bwrdd sut y gall Gyrfa Cymru gyd-fynd neu gefnogi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ysgolion ac adroddiadau PDG (Grant Amddifadedd Disgyblion), gan wella effaith Gyrfa Cymru ar bobl ifanc o bosibl. Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau.
Cam Gweithredu 3. Nodi a chyflwyno'r risgiau strategol i'r sefydliad ar gyfer trafodaeth bellach ar barodrwydd i dderbyn risg. Y camau hyn i gael eu dwyn ymlaen i gyfarfod Bwrdd CCDG yn y dyfodol yn unol â'r strategaeth
Cam Gweithredu 4. Ystyried cynnwys risg ar gofrestr risg y cwmni i adlewyrchu'r risg weithredol hon. (atgyfeiriadau a galw heibio ar gyfer cwsmeriaid risg uchel) Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau.
Cam Gweithredu 5. Seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth i'w hychwanegu fel eitem agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y bwrdd. DM – Aelod o'r Bwrdd i ddarparu diweddariad. Mae'r cam gweithredu hwn i'w ddwyn ymlaen i gyfarfod nesaf Bwrdd CCDG.
Cam Gweithredu 6. Y Cynorthwy-ydd Gweithredol i ddosbarthu’r adroddiad ar seiberddiogelwch i aelodau'r bwrdd. Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau.
Cam Gweithredu 7. Y Cynorthwy-ydd Gweithredol i ddosbarthu papur gwasanaethau rhanddeiliaid i aelodau'r bwrdd. Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau.
Cam Gweithredu 8. Y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Adnoddau a Thrawsnewid i adolygu'r penderfyniad gweithredol a wnaed ar bresenoldeb Gyrfa Cymru ar X a rhoi diweddariad. Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau.
4. Diweddariad y cadeirydd – ar lafar
4.1 Aelodau newydd o'r Bwrdd
Croesawodd y Cadeirydd yr aelod newydd Viv Laing i'r Bwrdd.
4.2 Newidiadau i'r bwrdd
Ymddiswyddodd JH o'r Bwrdd cyn y Nadolig a derbyniwyd ymddiswyddiad diweddar gan AJG. Diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol i'r ddau aelod o'r bwrdd am eu cyfranogiad a'u cyfraniadau.
4.3 Gwobrau Partner Gwerthfawr
Mynychodd y Cadeirydd y Gwobrau Partner Gwerthfawr a chanmolodd y digwyddiad am ddathlu gwaith ysgolion a sefydliadau cyflogwyr.
4.4 Ymchwiliadau'r Senedd
Tynnodd y Cadeirydd sylw at dri ymchwiliad gan y Senedd a fynychwyd gan y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau a thalodd deyrnged i’r gwaith paratoi a'r cyfranogiad gan gydweithwyr eraill. Diolchwyd yn ffurfiol.
4.5 Sesiynau Cynllunio Busnes
Soniodd y Cadeirydd am y sesiynau cynllunio busnes diweddar, gan ganmol egni ac ymrwymiad y timau.
4.6 Newidiadau yn Gyrfa Cymru
Cyhoeddodd y Cadeirydd mai dyma fyddai'r cyfarfod olaf i'r Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau cyn iddi ymddeol. Estynnodd y Cadeirydd ddiolch ar ran y bwrdd am ei flynyddoedd lawer o gyfraniadau i Gyrfa Cymru.
5. Adroddiad y Prif Weithredydd
Trafododd yr aelodau'r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol.
5.1 Gwobrau Partner Gwerthfawr
Rhoddwyd sylw i’r pwnc hwn eisoes yn niweddariad y Cadeirydd.
5.2 Risgiau Allweddol y Cwmni
Tynnodd yr adroddiad sylw at bum risg allweddol. Nododd yr aelodau fod y risgiau wedi'u rhannu rhwng categorïau gweithredol a strategol.
5.3 Dyfarniad Cyflog 2024/25
Esboniodd y Prif Weithredydd fod y dyfarniad cyflog wedi'i gytuno gydag Unsain a'i dalu. Mae dyfarniad cyflog ychwanegol wedi'i wneud yn unol â datganiad Llywodraeth Cymru o ddyfarniad cyflog posibl o hyd at bump y cant.
5.4 Cyfraniad Cyflogwr - Yswiriant Gwladol
Hysbyswyd y Bwrdd nad oedd unrhyw ddiweddariadau pellach wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru ynghylch a fydd Gyrfa Cymru yn derbyn cyllid ar gyfer yr elfen hon yn ei chyllideb ar gyfer 2025/26.
5.5 Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Mae ymgysylltiadau cryf â rhanddeiliaid yn parhau, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer cyfarfodydd amlach rhwng y Cadeirydd, y Prif Weithredydd a'r Gweinidog.
Mynychodd y Prif Weithredydd pob un o’r sesiynau cynllunio busnes fwy neu lai a chafwyd cyfle i gwrdd â staff, clywed eu syniadau, a rhoi diweddariadau ar waith y sefydliad.
5.6 Cynllun Diswyddo Gwirfoddol
Rhoddodd y Prif Weithredydd ddiweddariad ar y broses VERS sydd bron wedi'i chwblhau.
5.7 Diweddariad ar y Cynllun Gweithredol 2025/26
Bydd y cynllun gweithredol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn debyg i'r cynllun presennol, heb newidiadau sylweddol wedi'u cynllunio.
5.8 Diweddariad ar y Strategaeth Newydd
Mae trafodaethau pellach y bwrdd wedi'u cynllunio ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf y Bwrdd.
5.9 Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Darparwyd diweddariad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y cwmni – mae pob un ond dau ar y trywydd iawn. Mae hyn oherwydd gostyngiad mewn adnoddau a newid i’r model cyflwyno i adlewyrchu'r gostyngiad hwn.
6. Diweddariad Llywodraeth Cymru
6.1 Cyfraniad Cyflogwr - Yswiriant Gwladol
Darparwyd diweddariad ar statws cyfraniadau cyflogwr Yswiriant Gwladol. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl clywed mwy yn ystod datganiad y gwanwyn ddiwedd mis Mawrth neu yn yr adolygiad gwariant ym mis Mehefin.
7. Cyllideb 2025/26
Ymunodd y Pennaeth Cyllid ac Ystadau â'r cyfarfod gan roi diweddariad i’r aelodau fod cyllideb ddrafft 2025/2026 wedi'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Y risg allweddol a amlygwyd oedd y risg mewn perthynas ag ansicrwydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr.
Bu aelodau'r bwrdd yn trafod cyflwyno cyllideb ddiffyg i Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at effaith cyllid Yswiriant Gwladol sydd heb ei ddatrys. Gofynnwyd i Fwrdd Gweithredol Gyrfa Cymru gyflwyno cyllideb ddiffyg o -£550k., sef y costau a nodwyd mewn perthynas â chyfraniad Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
8. Rheoliadau Ariannol
Derbyniodd aelodau'r bwrdd y rheoliadau ariannol wedi'u diweddaru. Nodwyd mân ddiweddariadau, a oedd wedi'u trafod a'u cymeradwyo gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
Argymhellodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg y rheoliadau ariannol wedi'u diweddaru i'r bwrdd a rhoddodd y Bwrdd ei gymeradwyaeth.
9. Cyfrifon Rheoli
Derbyniodd aelodau'r bwrdd y cyfrifon rheoli drafft a oedd wedi'u hadolygu a'u cymeradwyo yn y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg diwethaf. Roedd camgymeriad bach wedi'i nodi gan y pwyllgor hwnnw a oedd wedi ei gywiro yn y fersiwn a gyflwynwyd i'r bwrdd.
10. Adroddiad chwarter tri
Rhoddodd y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau ddiweddariad ar adroddiad Chwarter 3 i aelodau'r bwrdd a oedd eisoes wedi'i drafod yn y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith diwethaf.
Bu galw cynyddol am wasanaethau ymhlith myfyrwyr Blwyddyn 12 a 13, yn enwedig y rhai sy'n dewis peidio â mynd ymlaen i addysg uwch.
Lansiwyd y broses archebu ar-lein ar gyfer AB ym mis Mai. Fodd bynnag, mae angen cynyddu ymdrechion marchnata ar gyfer y gwasanaeth ar-lein. Mae nifer y bobl ifanc sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref yn cynyddu.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos pellach i dynnu sylw at effaith y gwaith sy'n cael ei wneud, a rhannwyd rhai enghreifftiau gydag aelodau'r bwrdd.
O ran dysgu a datblygu, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i uno timau Anogwyr Cyflogadwyedd, Cyswllt Gyrfa Cymru a thimau swyddfa, gyda’r nod o wella darpariaeth gwasanaethau.
Rhoddodd y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau ddiweddariad ar dri ymchwiliad gan Bwyllgorau’r Senedd a oedd yn canolbwyntio ar rwystrau anabledd, prentisiaethau, ac opsiynau ôl-16. Hoffai aelodau'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith dderbyn copiau o friffiau’r pwyllgor.
Cam Gweithredu 4. Dosbarthu adroddiadau terfynol pwyllgorau'r Senedd ymhlith aelodau'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith cyn gynted ag y byddant ar gael.
11. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rhoddodd y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau drosolwg o waith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Gyrfa Cymru.
Mae'r polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Gyrfa Cymru, ynghyd ag adroddiad Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r adroddiad Bwlch Cyflog Rhywedd.
Mabwysiadodd Gyrfa Cymru yr amcanion a osodwyd gan Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru ar gyfer cyfnod y strategaeth Dyfodol Disglair.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael ei gadeirio gan y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau, ac mae'r pwyllgor yn cynnwys aelodau o bob rhan o'r sefydliad. Mae blaenoriaethau'r pwyllgor yn cynnwys monitro cydymffurfiaeth â gofynion statudol, canolbwyntio ar safonau'r Gymraeg, a mynd i'r afael â'r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth.
Cododd y Cadeirydd bwysigrwydd cael adnodd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant pwrpasol. Cytunodd aelodau'r bwrdd.
Tynnodd y Prif WeithredyddCyfarwyddydd Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau sylw at feysydd allweddol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol sy'n berthnasol i Gyrfa Cymru, gan gynnwys arweinyddiaeth, addysg a chyflogadwyedd.
Trafododd aelodau'r bwrdd bwysigrwydd gwreiddio ethos gwrth-hiliol ac awgrymodd amcanion perfformiad gwrth-hiliaeth. Gwirfoddolodd sawl aelod o'r bwrdd i drafod ymhellach.
Cam Gweithredu 5: refnu cyfarfod i drafod a diffinio amcan a rôl y bwrdd mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol o fewn y sefydliad.
12. Diweddariad ar seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth
Yn absenoldeb y SIRO, tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod yr adroddiad seiberddiogelwch wedi'i rannu ymhlith aelodau'r bwrdd ar ôl cyfarfod diwethaf y bwrdd.
13. Ch4: y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg – cofnodion (drafft) – 30 Ionawr, 2025
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gydag aelodau'r Bwrdd ac mae’r rhan fwyaf o'r eitemau wedi'u trafod yn y cyfarfod heddiw.
14. Ch4: Pwyllgor Perfformiad ac Effaith – diweddariad llafar (drafft) – 4 Mawrth, 2025
Rhannwyd diweddariad llafar o'r cyfarfod diwethaf gydag aelodau'r Bwrdd. KB - Amlinellodd aelod o'r pwyllgor bwyntiau allweddol y cyfarfod ar gyfer aelodau.
15. Ch4: y Pwyllgor Materion Pobl – cofnodion (drafft) – 3 Chwefror 2025
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf, ac amlinellodd y Cadeirydd bwyntiau allweddol y cyfarfod ar gyfer aelodau.
16. Unrhyw fater arall
Ni nodwyd unrhyw fater arall.
Cofnod Camau Gweithredu
Camau Gweithredu 1. Y Cadeirydd i roi diweddariad ar opsiynau ar gyfer gwerthusiad bwrdd allanol. Arwain EC. Diweddariad i'w ddarparu 21.05.25.
Camau Gweithredu 2. Nodi a chyflwyno'r risgiau strategol i'r sefydliad ar gyfer trafodaeth bellach ar barodrwydd i dderbyn risg. Arwain NL. Diweddariad i'w ddarparu 21.05.25.
Camau Gweithredu 3. Seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth i'w hychwanegu fel eitem ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y bwrdd. Arwain DM. Diweddariad i'w ddarparu 21.05.25.
Camau Gweithredu 4. Dosbarthu adroddiadau terfynol pwyllgorau'r Senedd ymhlith aelodau’r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith cyn gynted ag y byddant ar gael. Arwain NB. Diweddariad i'w ddarparu cyn gynted â phosibl
Camau Gweithredu 5. Trefnu cyfarfod i drafod a diffinio amcan a rôl y bwrdd mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol o fewn y sefydliad. Arwain DMM. Diweddariad i'w ddarparu cyn gynted â phosibl
Dim camau gweithredu pellach wedi'u cofnodi