Drwy gyflawni Dyfodol Disglair byddwn yn adeiladu ar ein cynnydd, gan ganolbwyntio ar themâu tebyg ond gyda mwy o uchelgais a chysoni ein trawsnewidiad â’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Cydweithio a data
![]()
Byddwn yn gweithio’n agored ac ar y cyd â phartneriaid a rhanddeiliaid a byddwn yn mabwysiadu safonau digidol Cymru ac yn chwarae rhan weithredol yn uchelgeisiau’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Cynhwysiant a hygyrchedd
![]()
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ac yn datblygu dull cadarn o ymdrin â safonau i sicrhau bod gwefannau Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio yn blatfformau sy’n esiampl i eraill o ran hygyrchedd.
Sgiliau digidol
![]()
Byddwn yn cynyddu sgiliau digidol ein gweithlu er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan dechnoleg newydd i greu gwasanaethau gwell, mwy modern.
Personoli
![]()
Drwy blatfformau digidol Gyrfa Cymru, bydd cwsmeriaid yn cael profiadau a gwybodaeth wedi’u personoli, wedi’u hysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio er mwyn diwallu eu hanghenion.
Adnoddau â nodweddion gêm
![]()
Byddwn yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu hysbrydoli i ehangu eu gorwelion gan ddefnyddio technegau â nodweddion gêm, ar blatfformau fel Minecraft.
Data a deallusrwydd
![]()
Bydd ein dealltwriaeth, ein gwaith delweddu a’n gwaith mapio sy’n seiliedig ar ddata yn darparu adnodd hynod werthfawr i ysgogi datblygu polisïau a dylunio gwasanaethau.
Deallusrwydd Artiffisial

Bydd y profiad a ddarparwn i gwsmeriaid drwy amryfal sianeli yn cael ei sbarduno gan ddatblygu cymwysiadau sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i greu gwasanaeth gwell a mwy effeithlon i gwsmeriaid a gweithwyr.