Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer cofrestru digwyddiad a holiaduron ymchwil defnyddio rhaglenni Microsoft.
Gyrfa Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a dderbyniwn gennych pan fyddwch yn llenwi ffurflen cofrestru digwyddiad neu holiaduron ymchwil. Bydd y data’n cael ei brosesu yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd eich data personol yn cael ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Cymerwch eiliad i ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.
Rheolydd Data
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd sy'n masnachu fel Gyrfa Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol rydym yn ei brosesu. Rydym wedi cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, rhif cofrestru : Z276256.
Diben
Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio, yn casglu ac yn rhannu'r data sydd gennym fel cwmni.
1. Sut rydym yn cael yr wybodaeth bersonol a pham y mae gennym ni
Mae'r ffurflen hon yn casglu data ar gofrestriadau digwyddiadau neu holiaduron ymchwil. Wrth gwblhau’r ffurflen, gofynnir i chi ddarparu data personol er mwyn sicrhau y gallwn gysylltu â chi neu eich hysbysu am y digwyddiadau yr ydych yn eu mynychu. Rydym yn prosesu eich data ar sail cydsyniad (gallwch ddileu eich cydsyniad ar unrhyw adeg). Wrth gwblhau’r ffurflen hon bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyrfa Cymru a Microsoft. Byddwn yn storio eich ymatebion yn ddiogel ar ein systemau cronfa ddata mewnol. Byddwn yn defnyddio'r data hwn i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu digwyddiad neu at ddibenion ymchwil.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon sy’n ymwneud â’r digwyddiad.
2. Sut rydym yn cadw eich Data Personol yn Ddiogel?
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad i'ch data personol i'r gweithwyr hynny sydd ag angen busnes i wybod. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau y bydd ein gweithwyr yn prosesu eich data personol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd o gyfrinachedd. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o fynediad diawdurdod at ddata personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am achos o’r fath lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
3. Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion ar gyfer ei gasglu, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y wybodaeth bersonol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol heb awdurdod, at ba ddibenion rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ac a allwn gyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Mae manylion y cyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau ar eich data personol ar gael yn ein polisi cadw y gallwch ofyn amdano gennym trwy gysylltu â'n tîm preifatrwydd data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod. Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn anonymeiddio eich data personol (fel na ellir ei gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegau, ac os felly gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb roi rhybudd pellach i chi.
4. Hawliau unigol
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi. Yn benodol mae gennych yr hawl:
- I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
- I ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan, www.ico.org.uk
5.Rhagor o Wybodaeth
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Gyrfa Cymru mewn perthynas â materion diogelu data, drwy'r post yn, Uned 4, Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH, neu E-bostiwch, data.personol@gyrfacymru.llyw.cymru