Rydyn ni wedi gweithio gyda chyflogwyr ac athrawon i ddatblygu heriau Gwaith mewn Ffocws. Mae yna ddewis helaeth.
Mae’r heriau’n helpu i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith (GPCG) yn y cwricwlwm. Maen nhw hefyd yn helpu i sicrhau bod ymgysylltu â chyflogwyr yn ystyrlon.
Sut mae heriau'n gweithio
Gallwch ddefnyddio'r heriau gyda holl ddysgwyr blwyddyn 8 a 9. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr mwy abl a thalentog (MAT) a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae'r heriau wedi'u cynllunio i helpu dysgwyr i archwilio perthnasedd y pwnc y maen nhw'n ei astudio i fyd gwaith. Yn ystod yr heriau mae dysgwyr yn cwblhau tasgau o'r byd go iawn. Byddan nhw’n datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd hanfodol gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
Bydd her yn cymryd 5 gwers i'w cyflwyno a'u cwblhau. Byddwn yn darparu canllaw athrawon a chyflwyniad PowerPoint er mwyn i chi weithio drwy'r her gyda'ch dysgwyr.
Sut mae dysgwyr yn elwa
Bydd dysgwyr yn mynd i'r afael â heriau neu broblemau bywyd go iawn y mae cyflogwyr yn eu hwynebu yn eu gweithleoedd.
Mae'r heriau hefyd yn tynnu sylw at themâu pwysig, sy'n cynnwys:
- Menter
- Meddwl creadigol
- Cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol
- Meddwl yn feirniadol
- Datrys problemau
- Gwneud penderfyniadau
Yr heriau
Mae gan bob her ffocws neu thema diwydiant ac mae wedi'i datblygu mewn partneriaeth â chyflogwr.
Mae'r heriau yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar ddiwydiannau sy'n bwysig yng Nghymru. Mae'r diwydiannau hyn yn hanfodol i economi Cymru ac yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous ar gyfer y dyfodol.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Aria Studios
Drama
Bydd dysgwyr yn dylunio proses ar gyfer cael sgript o fformat ysgrifenedig ar y llwyfan.
Thema’r her - cyfathrebu
Into Film a phartneriaid
Celf a Dylunio
Bydd dysgwyr yn nodi ffyrdd y gall cynyrchiadau teledu a ffilm ddod yn fwy cynaliadwy.
Themâu’r her - Sero Net, cynaliadwyedd
Iechyd a Lles
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Iechyd a Lles
Bydd dysgwyr yn ymchwilio i iechyd meddwl dysgwyr yn eu hysgol ac yn dylunio adnoddau i gefnogi eu cyfoedion.
Themâu’r her - iechyd meddwl, dadansoddi data
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS)
Iechyd a Lles
Bydd dysgwyr yn cefnogi Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i ddod yn gyflogwr mwy amrywiol.
Thema’r her - cydraddoldeb hiliol
Y Dyniaethau
Hafren Dyfrwy
Daearyddiaeth
Bydd dysgwyr yn dylunio ateb i wella cadwraeth dŵr.
Themâu’r her - cynaliadwyedd
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Screen Alliance Wales
Saesneg
Bydd dysgwyr yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu i gyflwyno syniad ar gyfer ffilm am fywyd pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru.
Thema’r her - cyfathrebu
Mathemateg a Rhifedd
Castell Howell
Iechyd a Lles, Mathemateg
Bydd dysgwyr yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o wahanol swyddi yn y sector bwyd a ffermio tra’n hyrwyddo bwyta'n iach drwy'r her smwddi.
Themâu'r her - bwyd a diod
Principality
Mathemateg
Bydd dysgwyr yn dylunio cyfrif cynilo sy'n apelio at bobl ifanc.
Themâu’r her - rhifedd, cyfathrebu
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Aber Instruments
Gwyddoniaeth
Bydd dysgwyr yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o rôl gwyddonydd.
Thema’r her - gweithgynhyrchu gwerth uchel
Bluestone
Dylunio a Thechnoleg
Bydd dysgwyr yn dylunio deunydd pacio bwyd cynaliadwy i'w ddefnyddio yn Bluestone.
Themâu’r her - cynaliadwyedd, economi gylchol
Bute Energy
Dylunio a Thechnoleg
Bydd dysgwyr yn cynnig syniadau ar gyfer ailgylchu llafnau tyrbinau gwynt.
Themâu’r Her - Sero Net
HVM Water
Dylunio a Thechnoleg
Bydd dysgwyr yn dylunio system rheoli stoc ar gyfer HVM Water.
Themâu’r her - rhifedd
Morlais
Dylunio a Thechnoleg
Bydd dysgwyr yn dylunio tyrbin newydd.
Themâu’r her - ynni adnewyddadwy, Sero Net
Willmott Dixon
Adeiladu, Dylunio a Thechnoleg
Bydd dysgwyr yn dylunio datrysiad i wneud eu hysgol yn lle gwyrddach.
Themâu’r Her - Sero Net
Amrywiol
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Bydd dysgwyr yn creu ymgyrch i newid canfyddiad y cyhoedd o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Thema’r her - cyfathrebu
Cyngor Conwy
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Bydd dysgwyr yn archwilio ffyrdd o sicrhau bod ailddatblygu Venue Cymru yn hygyrch i bob ymwelydd.
Themâu’r her - tegwch ac amrywiaeth, hygyrchedd
Cysylltwch â'n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i ddarganfod sut.
Adnoddau i gefnogi
Gallwch ddefnyddio ein Swyddi Dyfodol Cymru gyda dysgwyr i archwilio rhanbarthau a diwydiannau Cymru. Maen nhw'n gallu dod o hyd i’r swyddi y gallen nhw eu gwneud, nawr ac yn y dyfodol.