Cysylltwch â ni i gael cymorth a chefnogaeth gyrfaoedd. Ffoniwch ni, e-bostiwch ni, defnyddiwch sgwrs ar-lein, neu trefnwch apwyntiad ar-lein. Dewch o hyd i'ch canolfan yrfaoedd agosaf i ymweld â ni.
Ein Canolfannau
Dewch o hyd i Ganolfannau Gyrfa ledled Cymru.
Mae Canolfannau Gyrfa ar draws Cymru wedi'u rhestru yn ôl awdurdodau lleol, gan gynnwys amseroedd agor, cyfeiriadau a dolen i google maps.
Map lleoliad
Dewch o hyd i ni mewn lleoliadau cymunedol a chanolfannau gyrfa yn eich ardal chi.
Rydyn ni’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd wyneb yn wyneb mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys canolfannau gyrfa, swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith a lleoliadau eraill yn y gymuned.
Ffoniwch ni am ddim ar: 0800 028 4844
Dydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm, dydd Gwener: 9am i 4:30pm
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n ein ffonio ni
Pan fyddwch chi'n deialu ein rhif, byddwch yn derbyn 3 opsiwn syml:
- Pwyswch 1 am gymorth gyrfaoedd. Byddwch yn siarad â gweithiwr proffesiynol gyrfa a all eich helpu chi i:
- Chwilio am swydd
- Adolygu eich CV
- Technegau Cyfweld
- Dod o hyd i gyrsiau
- Pwyswch 2 i drefnu neu i ddiwygio apwyntiad. Byddwch yn siarad â gweithiwr proffesiynol gyrfa a fydd yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth gywir
- Pwyswch 3 am ymholiadau cyffredinol. Byddwch yn siarad ag un o'n tîm a all ateb eich cwestiynau cyffredinol am ein gwasanaethau a'n swyddfeydd
Os ydych chi'n ein ffonio ni am gymorth gyrfaoedd, mae’n syniad cael beiro a phapur wrth law i nodi gwybodaeth.
Gwasanaeth galwad yn ôl
Cwblhewch ein ffurflen galwad yn ôl i ddewis slot amser i weithiwr proffesiynol gyrfa eich ffonio chi.
Anfonwch neges i ni ar sgwrs ar-lein am gymorth gyrfaoedd ar unrhyw dudalen ar ein gwefan.
Dydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm, dydd Gwener: 9am i 4:30pm
Opsiynau os nad yw'r sgwrs ar-lein yn ymddangos
Os nad yw'r blwch sgwrs ar-lein yn ymddangos ar y wefan, efallai bod y cwci sgwrs ar-lein wedi'i ddiffodd.
I drwsio hyn:
- Ewch i'n tudalen cwcis
- Galluogi cwcis gwasanaeth sgwrs ar-lein
- Cadwch eich newidiadau
Yna gallwch gysylltu â ni ar sgwrs ar-lein.
Trefnu apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa.
Byddwch yn gallu trefnu apwyntiad hyd at bythefnos ymlaen llaw.
Mae hon yn system newydd ac mae'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Ffurflen gyswllt e-bost
Cwblhewch y ffurflen gyswllt a byddwn yn ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith trwy e-bost.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Mewn partneriaeth â SignVideo, (gwefan allanol), mae Gyrfa Cymru yn falch o ddod yn hygyrch i'r gymuned Fyddar a BSL.
Iaith Arwyddion Prydain - SignVideo
Sut i ddefnyddio SignVideo i gysylltu â ni am drafodaeth gychwynnol.
Gweld dogfen trawsgrifiad SignVideo (Word, 25KB, bydd y ddogfen hon yn lawr lwytho i'ch dyfais).