Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gyrfacymru.llyw.cymru, a microwefannau a rhaglenni a reolir gan Gyrfa Cymru.
Nid yw'r datganiad hygyrchedd hwn yn cynnwys gwefan Cymru'n Gweithio sydd hefyd yn cael ei rheoli gan Gyrfa Cymru. Mae gan barth cymrungweithio.llyw.cymru ei ddatganiad hygyrchedd ei hun.
Gyrfa Cymru sy'n rheoli gwefan Gyrfa Cymru. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- Llywio rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Chwyddo’r testun hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
- Llywio rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
Er mwyn sicrhau bod hyn yn bosibl, rydyn ni’n ymgysylltu â chwmnïau hygyrchedd allanol i sicrhau bod y gofynion sylfaenol uchod yn cael eu bodloni.
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor ar AbilityNet (Saesneg yn unig) ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Nid yw rhai rhannau o wefan Gyrfa Cymru yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- Nid yw lleiafrif o PDFs yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- Efallai nad oes modd i bobl sy’n defnyddio bysellfwrdd a darllenwyr sgrin ddefnyddio ein map Dod o hyd i ni
Mae Gyrfa Cymru yn defnyddio rhaglen trydydd parti o'r enw Livechat ar gyfer gwasanaethau sgwrs ar-lein. Mae sgwrsio byw yn cydymffurfio â safon WCAG 2.2 AA. Ewch i Livechat (Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille cysylltwch â ni:
- E-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru
- Ffôn 0800 028 4844
- Sgwrs Ar-lein
- Drwy'r post: Rheolydd Cynnwys y We, Canolfan Gyrfa Caerdydd, Uned 4, Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Os na allwch weld y map, ffoniwch ni ar 0800 028 4844 neu anfonwch e-bost atom ar post@gyrfacymru.llyw.cymru a byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi. Mae testun amgen i Ganolfannau Gyrfa a ddangosir ar y map ar gael ar Ein Canolfannau.
Os na allwch ddefnyddio Sgwrs Ar-lein, ffoniwch ni ar 0800 028 4844 neu anfonwch e-bost atom yn post@gyrfacymru.llyw.cymru.
Ymweld â ni yn bersonol
Mae gan Ganolfannau Gyrfa ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn i chi alw draw, gallwn ni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain (BSL). Mae ein staff hefyd yn gweithio o amrywiaeth o leoliadau allgymorth. Bydd cyfleusterau'r lleoliadau hyn yn amrywio ac efallai na fydd dolenni sain yno.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydyn ni eisiau parhau i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, cysylltwch â:
Rheolydd Cynnwys y We, e-bost: gwybodaeth@gyrfacymru.llyw.cymru
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni ar gyfer Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gyrfa Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (Saesneg yn unig).
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw'r PDFs canlynol yn bodloni safonau hygyrchedd:
- Hysbysiad preifatrwydd - bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cael ei wneud yn dudalen we yn 2025
- Pecyn cymorth addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith – darperir y ddogfen hon gan drydydd parti ac ni all Gyrfa Cymru ei golygu. Nid yw rhywfaint o'r testun alt wedi'i ysgrifennu'n llawn ac nid yw rhai penawdau'n gywir
Efallai na fyddant wedi'u strwythuro i fod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 4.1.2 (Enw, gwerth rôl).
Mae'r PDFs hyn yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Rydym naill ai'n trwsio'r rhain neu'n rhoi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Os oes angen i chi gyrchu gwybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Map rhyngweithiol
Mae ein tudalen Cysylltu â Ni yn darparu map rhyngweithiol (Google) i'ch helpu i ddod o hyd i'n canolfannau a'n lleoliadau allgymorth. Nid yw'r map wedi'i brofi'n ffurfiol o ran hygyrchedd. Ond, rydyn ni’n ymwybodol y gallai fod yn anodd ei ddefnyddio gyda rhaglenni darllen sgrin, ac felly efallai na fydd yn cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd. Rydyn ni wedi darparu fersiwn testun amgen yn rhestru ein canolfannau. Rydyn ni’n gweithio ar ffordd arall o restru ein lleoliadau allgymorth.
Microwefan recriwtio Gyrfa Cymru
Mae microwefan recriwtio Gyrfa Cymru wedi'i asesu ac mae'n methu yn erbyn nifer o feini prawf WCAG 2.2 Lefel A a lefel AA. I gael manylion llawn am sut mae'n methu, cysylltwch ag Ymholiadau AD.
Os na allwch chi ddefnyddio'r system a hoffech wneud cais am swydd wag a hysbysebir, anfonwch e-bost at Ymholiadau AD am ffordd arall o wneud cais.
Rydym wedi hysbysu'r darparwr trydydd parti a ddatblygodd y microwefan recriwtio ac rydym yn aros am ymateb ar sut i ymdrin â'r materion a nodwyd.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Y PDFs a grëwyd cyn 23 Medi 2018 yw:
- Ein cyfrifon statudol (2016, 2017 a 2018)
Os oes angen i chi gyrchu gwybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Fideo byw
Mae ffrydiau fideo byw wedi'u heithrio rhag cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd (Saesneg yn unig). Byddwn yn adolygu'r hyn sy'n bosibl ar gyfer pob llif byw ar sail y dechnoleg / meddalwedd a ddefnyddir.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydyn ni’n gweithio gyda datblygwyr i sicrhau ein bod yn cydymffurfio'n llawn â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (Saesneg yn unig).
Rydym wedi cynnwys canllawiau newydd ar gyfer PDFs a fideos i sicrhau y bydd fideos, PDFs a dogfennau eraill yn y dyfodol yn cydymffurfio'n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 (Saesneg yn unig).
Rydyn ni’n gweithio gyda chwmnïau hygyrchedd allanol i gael asesiad safle llawn ac yn gweithio gyda nhw ar sail ymgynghorol dros ddatblygiadau yn y dyfodol.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 10 Chwefror 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 25 Hydref 2024.
Cynhaliwyd profion hygyrchedd ar gyfer Gyrfa Cymru fel a ganlyn:
- 2020 / 2021 gan Shaw Trust Accessibility Services – asesiad safle llawn
- 2022 / 2023 gan Little Forest a Zoonou - Cyfnewid Addysg Busnes, Cwis Paru Gyrfa a Chwilio am Gyrsiau, Mewngofnodi a Phroffil
- 2023 / 2024 gan Little Forest – Swyddi Dyfodol Cymru a microwefan recriwtio Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn bwriadu cynnal asesiad safle llawn yn 2024. Bydd y datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei ddiweddaru yn dilyn yr asesiad.
Defnyddiwyd y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: