Mae Gyrfa Cymru wedi comisiynu Shaw Trust Accessibility Services i gynnal archwiliad hygyrchedd ar gyrfacymru.llyw.cymru gan ddechrau ym mis Rhagfyr 2020.
Mae'r dull o samplu ar gyfer archwiliad hygyrchedd gyrfacymru.llyw.cymru 2020-2021 gan Shaw Trust Accessibility Services yn cynnwys:
- Datblygiadau a rhaglenni newydd
 - Tudalennau gwe sy'n cynnwys swyddogaethau newydd
 - Lawrlwytho dogfennau
 - Teithiau defnyddwyr sy'n seiliedig ar bersona
 
Datblygiadau newydd
Bydd yr archwiliad hygyrchedd yn ymdrin â'r datblygiadau canlynol:
- Cwis Buzz
 - Chwilio am Brentisiaethau
 - Gwybodaeth am Swyddi
 - Cwis Pwy ydw i?
 - Sôn am swyddi
 - Canfod Cymorth (wedi'i ddiweddaru'n sylweddol ers iddo gael ei ryddhau'n wreiddiol)
 
Tudalennau gwe sy'n cynnwys swyddogaethau newydd
Ychwanegwyd swyddogaethau newydd at y tudalennau canlynol ac felly maen nhw’n rhan o'r samplu:
Dogfennau i’w lawrlwytho
Mae dwy dudalen sy'n cynnwys lawrlwythiadau poblogaidd yn cael eu cynnwys yn y samplu fel a ganlyn:
Teithiau defnyddwyr sy'n seiliedig ar bersona
Seiliwyd y samplu o amgylch teithiau defnyddwyr yn seiliedig ar wahanol bersonas yn cynrychioli croestoriad enghreifftiol o ddefnyddwyr:
- Cynghorydd Gyrfa yn cyfweld â pherson ifanc 16 oed ag anghenion dysgu ychwanegol
 - Person sy’n dychwelyd i'r gwaith
 - Athro a dysgwyr Blwyddyn 7
 
Cynnwys cysylltiedig
Gweld cynnwys cysylltiedig arall fel a ganlyn: