Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dewis mynd i'r coleg

Os mai mynd i'r coleg yw beth yr hoffech ei wneud ar ôl gadael ysgol, yna mae rhaid i chi gynllunio o flaen llaw.

Efallai eich bod wedi cael cyswllt â'r coleg yn barod, ond mae'n dal yn dda cofio'r amseroedd pwysig yn ystod y flwyddyn i gynllunio ar gyfer mynd i'r coleg.

Amseroedd pwysig yn ystod y flwyddyn

Medi a Hydref
Gwybod mwy am coleg
Person ifanc yn siarad hefo Cynghorydd Gyrfa

Gwybod mwy am y coleg ar Mynd i'r coleg.

Fe ddylech:

  • Edrych ar wefan y coleg i wybod pa gyrsiau sydd ar gael
  • Siarad hefo eich rhieni neu ofalwyr am eich opsiynau
  • Siarad hefo eich Cynghorydd Gyrfa am fynd i'r coleg

Os hoffech chi fynd i weld y coleg mwy nag unwaith, siaradwch gyda eich Cynghorydd Gyrfa fydd yn gallu eich helpu.

Prif Awgrym

Ceisiwch ganfod hynny ag y gallwch chi am eich holl opsiynau a meddwl pa un sydd orau i chi.

Alison, Cynghorydd Gyrfa

Show more
Tachwedd a Rhagfyr
Ymweld â'r coleg ar ddiwrnod agored
Person ifanc yn cerdded tuag at derbynfa mewn coleg

Mae gan llawer o golegau ddiwrnodau agored yn ystod y misoedd yma, ble mae pobl yn cael ymweld er mwyn gwybod mwy am y coleg.

Siaradwch hefo eich Cynghorydd Gyrfa, Athrawon a rhieni am ymweld â choleg. Bydd rhai colegau yn cynnig diwrnodau agored ar-lein, felly edrychwch ar eu gwefannau.

Os hoffech chi weld y coleg cyn y diwrnod agored, cofiwch fe gewch chi a'ch rhieni gysylltu hefo'r coleg i wneud apwyntiad i ymweld.

Ar ddiwrnod agored fe allwch chi:

  • Siarad hefo tiwtoriaid
  • Gofyn i fyfyrwyr sydd yn y coleg nawr am sut beth yw bywyd yn y coleg
  • Cael gweld o gwmpas yr adeilad a gwybod mwy am le i gael cinio a gwario amser egwyl
  • Gwybod ble byddwch yn cael eich gollwng yn y bore a ble y gallwch ddal y bws neu tacsi ar ddiwedd y dydd

Prif Awgrym

Cyn i chi ymweld â'r Coleg, meddyliwch beth yr hoffech ei weld yno ac am unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Ysgrifennwch eich cwestiynau ar bapur neu yn eich ffon fel nad ydych chi'n anghofio.

Dylan, Cynghorydd Gyrfa

Show more
Ionawr a Chwefror
Gwneud cais i'r coleg
Person ifanc yn defnyddio gliniadur i wneud cais

Os ydych dal eisiau mynd i'r coleg, bydd angen i chi wneud cais. Mae rhai cyrsiau yn llenwi yn sydyn iawn.

Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais i ddweud wrth y coleg ychydig amdanoch chi'ch hun a pha gwrs yr ydych am ei wneud.

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar bapur, ond mae llawer ohonynt ar-lein. Gofynnwch wrth eich teulu neu eich Cynghorydd Gyrfa os ydych angen cymorth.

Prif Awgrym

Byddwch yn onest ar y ffurflen gais. Dylech ddweud wrth y coleg am y cymorth y byddwch ei angen. Bydd hyn yn eich helpu i setlo mewn i fywyd yn y coleg a gwneud y mwyaf o'ch amser yno. 

Stephen, Cynghorydd Gyrfa

Show more
Mawrth i Fehefin
Mynd am gyfweliad
Person ifanc yn gwenu ac yn gwisgo crys a tei

Bydd y coleg yn eich gwahodd mewn i gael cyfweliad. Os nad ydych wedi clywed gan y coleg erbyn diwedd tymor y gwanwyn, dylech gysylltu hefo'r coleg neu siarad hefo eich Cynghorydd Gyrfa.

Ar ddiwedd eich cyfweliad efallai y cewch wybod os oes gennych chi le yn y coleg. Bydd hyn yn dibynnu arnoch yn cael y graddau rydych yn gobeithio eu cael yn yr ysgol.

I baratoi tuag at gyfweliad fe ddylech feddwl am:

  • Pam rydych am wneud y cwrs
  • Beth rydych eisiau ei wneud ar ôl gorffen y cwrs
  • Pa gwestiynau yr ydych eisiau ei ofyn mewn cyfweliad

Prif Awgrym

Dylech ymarfer siarad am pam rydych eisiau mynd i'r coleg a gwneud y cwrs. Gallwch ymarfer hefo eich rhieni a'ch Cynghorydd Gyrfa. Bydd hyn yn eich gwneud i deimlo'n hyderus yn y cyfweliad.

Jayne, Cynghorydd Gyrfa

Show more
Gorffennaf
Cael lle yn y coleg
Person ifanc yn defnyddio gliniadur

Bydd y coleg yn cysylltu gyda chi i gynnig lle. Yn aml bydd hyn drwy ebost felly dylech wneud yn siwr eich bod yn edrych ar eich ebost yn aml.

Byddwch angen gadael i'r coleg wybod eich bod am dderbyn y lle yn y coleg.

Show more
Awst i Medi
Cofrestru yn y coleg
Person ifanc yn hapus ac yn chwifio ei ddwylo yn yr awyr

Efallai y bydd rhaid i chi fynd i'r coleg i gofrestru. Mae hyn yn golygu eich bod yn cofrestru eich hun i fynd i'r coleg. Efallai bydd angen i chi arwyddo ffurflenni neu i wneud hyn ar-lein. Gofynnwch am help os nad ydych yn siwr o beth i'w wneud.

Rydych nawr yn barod i gychwyn y cwrs!

Prif Awgrym

Gallwch gysylltu â Gyrfa Cymru unrhyw bryd os ydych angen cymorth. Dewch i wybod am y gwahanol fyrdd y gallwch gysylltu a ni.

Alaw, Cynghorydd Gyrfa

Show more