Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Mynd i'r coleg

Os ydych chi dros 16, gallwch ddewis mynd i’r coleg lleol.

Yn y coleg gallech chi:

  • Gyfarfod llawer o bobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
  • Ddysgu sgiliau newydd
  • Roi cynnig ar wersi newydd
  • Gario ymlaen gyda'ch darllen a mathemateg
  • Ennill cymhwyster

Gwyliwch y fideo

O'r Ysgol i'r Coleg

Gwyliwch y fideo i weld beth mae rhai pobl ifanc yn ei feddwl am coleg.

Dangos trawsgrifiad

Beth y gallaf ei wneud yn y coleg?

Yn y coleg, efallai y gallech astudio cwrs fel Sgiliau Byw'n Annibynnol. Ar y cwrs hwn, efallai y gallech chi:

 

Eicon o cadw mi gei

Ddysgu mwy am ddefnyddio arian
 

Eicon o galendar a cloc

Gael sgiliau ar gyfer gweithio

Eicon swigen siarad

Ennill sgiliau cymdeithasol

Yn y coleg, efallai y gallech astudio cwrs ble byddwch yn dysgu mwy am math o waith fel:

 

Eicon o roler peintiwr ac addurnwr

Peintio ac addurno

Graffeg o arth tedi

Gofal plant

Eicon o pot coginio

Coginio

Eicon o brintiau pawenni

Gofal anifeiliaid


Faint o amser y byddaf yn ei dreulio yn y coleg?

Mae cyrsiau amser llawn neu ran amser i’w cael mewn colegau.

Cwrs amser llawn – mae hyn yn golygu eich bod yn treulio hyd at 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg.

Cwrs rhan amser – mae hyn yn golygu y gallech dreulio 1 neu 2 ddiwrnod yn y coleg.


A fydda i'n cael cymorth yn y coleg?

Os ydych chi wedi cael cymorth yn yr ysgol, yna dylech gael cymorth pan ewch chi i’r coleg.

Bydd eich Cynghorydd Gyrfa a staff yr ysgol yn gallu helpu gyda hyn.


Faint y byddaf yn cael fy nhalu?

Os ydych chi rhwng 16 a 18 oed, efallai y cewch chi Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA). Mae hyn yn hyd at £40 yr wythnos.  

Siaradwch â’r coleg i gael gwybod mwy neu ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wybod mwy.


Sut y gallaf gael gwybod mwy am fynd i'r coleg?

Fe allwch:

Eicon o law yn defnyddio tabled

Edrych ar wefan y coleg

Eion o hoel esgidiau

Ymweld â’r coleg

Graffeg o Gynghorydd Gyrfa

Siarad â’ch Cynghorydd Gyrfa

Eicon o adeilad ysgol

Gofyn yn yr ysgol os y gallwch gael diwrnod blasu


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewis mynd i'r coleg

Dewch i wybod pa gamau i'w cymryd ar wahanol adegau o'r flwyddyn os ydych chi eisiau mynd i'r coleg.