Weithiau, ni fydd coleg lleol yn gallu cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Os bydd hynny’n digwydd, efallai y gallwch wneud cais i goleg arbenigol.
Beth fyddwn i'n ei wneud mewn coleg arbenigol?
Mewn coleg arbenigol, efallai y byddech yn:

Aros yn y coleg yn ystod yr wythnos neu yn ystod y tymor

Dysgu sgiliau newydd

Dysgu i ofalu amdanoch chi eich hun

Dod i wybod sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau, trenau a thacsis
Faint o amser fydda i'n ei dreulio mewn coleg arbenigol?

Gallech chi fod yn fyfyriwr dydd a mynd i’r coleg am 4 – 5 diwrnod yr wythnos

Fe allwch chi fyw yn y coleg

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn para 2 flynedd
Sut mae cael mwy o wybodaeth am goleg arbenigol?

Siaradwch gyda’ch rheini neu ofalwyr

Siaradwch gyda’ch Cynghorydd Gyrfa. Gallant ddweud wrthych am y colegau hyn a phwy all eich helpu

Siaradwch gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol

Dewch o hyd i wahanol golegau arbenigol drwy edrych ar wefan Natspec
Efallai i chi hefyd hoffi

Dewch i wybod am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi pan fyddwch yn 16 oed.