Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

CV - Esiampl hanes gwaith

Esiampl CV - Jesse

Mae’r CV yma’n rhoi sylw i hanes cyflogaeth a sgiliau, gan gychwyn gyda’r swydd ddiweddaraf: 

  • Gall unrhyw un sydd â rhywfaint o hanes gwaith ei ddefnyddio
  • Mae'n arbennig o ddefnyddiol wrth aros yn yr un math neu waith tebyg

Jesse Smith

1 Cwrt y Castell, Trecastell, CF88 3JY
Ffôn: 029 2088 8888
Symudol: 07977 777777
E-bost: jessesmith @ esiamplebost.com

Proffil Personol

Unigolyn dibynadwy sy’n barod i weithio’n galed yn edrych am swydd fel Cymhorthydd Cegin. Yn barod i weithio shifftiau a goramser. Cofnod ardderchog o gadw amser a phrydlondeb. Profiadol wrth baratoi a choginio bwyd, a hefyd mewn gwasanaeth cwsmeriaid. Perchennog Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.

Hanes Cyflogaeth

Cymhorthydd Cegin, Ysgol y Castell, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Harrison, 2012 – presennol

  • Gweini a pharatoi bwyd
  • Glanhau byrddau’r ffreutur
  • Ymgymryd â dyletswyddau’r Chef Cynorthwyol i lanw dros wyliau ac absenoldeb
  • Cydymffurfio gyda’r holl weithdrefnau iechyd, glanweithdra a diogelwch
  • Rhyngweithio gyda staff a disgyblion a gweithio fel rhan o dîm o bedwar

Cogydd Brecwast, Gwesty’r Castell, Trecastell, 2005 – 2012

  • Coginio bwyd a gaiff ei archebu, gan gynnwys brecwast llawn wedi’i goginio, ar gyfer hyd at 50 o bobl
  • Sicrhau lefelau hylendid bwyd o safon uchel drwy’r amser
  • Archwilio lefelau stoc ac archebu stoc
  • Llwyddo i wneud prydau bwyd o ansawdd da o fewn terfynau amser

Addysg/Cymwysterau

Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol (Cyfredol)
TGAU – Saesneg, Hanes, Gwyddor Cartref, Addysg Grefyddol, Ysgol Uwchradd Trecastell, 2001

Gwaith Gwirfoddol

Youth Club Worker 2012 – presennol

  • Gweithio gyda phobl ifanc, yn trefnu a goruchwylio gweithgareddau
  • Gwneud gwaith gweinyddol yn gysylltiedig gyda’r clwb ieuenctid ac fel ysgrifennydd y pwyllgor, ysgrifennu nodau ac amcanion
  • Gweithio gydag aelodau eraill i drefnu digwyddiadau codi arian

Diddordebau/Hobïau

Mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, darllen a chefnogi Trecastell Unedig.

Cyfeirnod

Geirda ardderchog ar gael ar gais.


Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Lawrlwytho ein canllaw ysgrifennu CV Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV hanes gwaith Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Gweld mwy

CV– Esiampl newid gyrfa neu dechnegol

Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd.

Enghraifft o CV ymadawyr ysgol

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.