Enghraifft o CV - Hannah
Mae’r CV yma’n rhoi sylw i hanes cyflogaeth a sgiliau, gan gychwyn gyda’r swydd ddiweddaraf:
- Gall unrhyw un sydd â rhywfaint o hanes gwaith ei ddefnyddio
- Mae'n arbennig o ddefnyddiol wrth aros yn yr un math neu waith tebyg
Hannah Jones
Hannahjones999@yahoomail.com
07777555999
Hannah Jones ar LinkedIn
Proffil Personol
Rheolwr Arlwyo llwyddiannus gyda 17 mlynedd o brofiad yn y sector gwasanaethau bwyd. Arweinydd tîm profedig gyda hanes o droi siopau arlwyo llai proffidiol yn rhai llwyddiannus. Blynyddoedd lawer o brofiad o fentora cydweithwyr iau, gan sicrhau bod cefnogaeth, cymhelliant ac arweiniad ar gael. Unigolyn hynod drefnus a brwdfrydig, sy'n awyddus i barhau i ffynnu a datblygu o fewn busnes llwyddiannus, aml-genedlaethol.
Hanes Cyflogaeth
Rheolwr Ardal, Bakehouse Co., Gogledd Cymru, 2016 – presennol
- Rheoli grŵp o 12 o siopau arlwyo yn rhanbarth Gogledd Cymru
- Cynnydd cyffredinol o 15% mewn cynhyrchiant rhwng 2017-2022 mewn canghennau lleol
- Lleihau gwastraff bwyd 10% yn gyffredinol ar draws siopau trwy gyflwyno gostyngiadau diwedd dydd ar gynhyrchion trosiant uchel
- Gwella cyfraddau cadw staff drwy gyflwyno amrywiaeth o gymhellion a gwobrau i staff
- Cynllunio hyrwyddiadau gwerthu ac asesu eu heffeithiolrwydd
- Asesu perfformiad yn erbyn targedau gwerthu
- Dyrannu a monitro cyllidebau unigol
- Rhoi cynlluniau gwella ar waith mewn cydweithrediad â rheolwyr a staff lleol
- Hyfforddi a mentora darpar reolwyr o fewn y Cwmni
Rheolwr Siop, Bakehouse Co., Northtown, 2013 – 2016
- Goruchwylio tîm o staff, gan gynnwys rheoli rota shifft
- Asesu lefelau stoc ac archebu stoc newydd
- Rheoli cyfrif stoc ac arian parod i mewn ac allan o'r siop
- Hyfforddi staff newydd a staff presennol ar bob agwedd o waith yn y siop, gan gynnwys hylendid bwyd a iechyd a diogelwch
Goruchwyliwr Shifft, Jimmy's Bakery, Northtown, 2012 – 2013
- Goruchwylio a hyfforddi staff ar bob agwedd o waith, gan gynnwys iechyd a diogelwch
- Cyfrif arian yn ôl y galw
- Paratoi bwyd
- Gweini cwsmeriaid
- Glanhau ardal y gegin a blaen y siop
- Cadw at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a hylendid
Aelod o'r Tîm, Jimmy's Bakery, Northtown, 2005 – 2012
- Paratoi amrywiaeth o fwyd, gan gynnwys peis, cacennau a bara
- Gweini cwsmeriaid a chymryd taliadau
- Glanhau ardal y gegin a blaen y siop
- Cadw at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a hylendid
Addysg/Cymwysterau
Distance Training UK, 2020 - 2021
- NVQ lefel 5 Arwain a Rheoli, rhagoriaeth, CMI, a gyflawnwyd yn 2021
Northtown High School, 2000 – 2007
- Safon Uwch: Saesneg A, Gwleidyddiaeth B, Hanes C, a gyflawnwyd yn 2007
- Naw TGAU gradd C ac uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, a gyflawnwyd yn 2005
Gwobrau
- Gwobr Rheolwr y flwyddyn yn Bakehouse Co. cyflawnwyd yn 2021
Hobïau/Diddordebau
- Aelod o Ford Gron Bigtown
Geirdaon ar gael ar gais.
Dogfennau
Gweld mwy

Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd.

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.

Rydych chi’n defnyddio'r fformat CV hwn wrth wneud cais am swyddi academaidd ym maes addysg uwch neu debyg.

Rydych chi’n defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi addysgu.

Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol.

Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.