Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Enghraifft o CV technegol

Enghraifft o CV - Jessie

Defnyddiwch y CV hwn wrth wneud cais am swyddi technegol mewn TG (Technoleg Gwybodaeth). Mae'n tynnu sylw at:

  • Sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd
  • Profiad ac arbenigedd
  • Sgiliau cyfathrebu a datrys problemau

Jessie Isaacs

Jisaacs3@gmail.com
07111321123
Jessie Isaacs ar LinkedIn

Proffil Personol

Datblygydd meddalwedd medrus a phrofiadol iawn gyda dros 10 mlynedd o brofiad ym maes datblygu apiau gwe ac apiau symudol. Defnyddiwr effeithiol o amrywiaeth o systemau gweithredu, offer datblygu ac ieithoedd. Unigolyn dyfal a phenderfynol gyda sgiliau canfod diffygion, datrys problemau ac ysgrifennu adroddiadau eithriadol sy’n awyddus i ennill rôl newydd a heriol o fewn sefydliad sy'n arwain y diwydiant.

Sgiliau TG (Technoleg Gwybodaeth)

  • Offer datblygu: LabVIEW, MATLAB, Xcode, Simulink, WINDEV/WEBDEV, OrCAD, MPLAB, React Native, Onsen UI a ModelSim
  • Pecynnau: MS Office online 365 ac Adobe Creative Suite gan gynnwys Dreamweaver a Photoshop
  • Ieithoedd Rhaglennu: Java, Kotlin, Swift, C ++, SQL, TLearn, HTML, CSS a XML
  • Systemau Gweithredu: Android, iOS, Windows a Linux

Hyfforddiant/Sgiliau Eraill

  • Tystysgrif Sylfaen BCS mewn DevOps
  • Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Hanfodion Datblygu Systemau
  • PRINCE2 Sefydliad Agile ac ardystiad Ymarferydd

Hanes Cyflogaeth

Datblygydd Stac Llawn, Longlife Health Group UK Ltd, Southtown, 2018 - 2022

  • Codio gwefan y sefydliad a rhaglenni cysylltiedig ar ochr y gweinydd a datblygu cyfres o gymwysiadau symudol wedi’u cynllunio i fonitro iechyd personol
  • Adeiladu systemau API a systemau integreiddio data eraill
  • Adeiladu rhyngwynebau defnyddwyr ar gyfer apiau gwe ac apiau symudol cwmnïau yn unol â llinellau amser datblygu gweithgaredd
  • Goruchwylio gwaith datblygwyr iau a threfnu llwythi gwaith
  • Asesu gofynion cleientiaid a thrafod canlyniadau cyraeddadwy
  • Prototeipio a phrofi

Datblygydd Ochr Gefn, Systemau Telephonica, Meadowtown, 2011 – 2018

  • Codio gwefan y cwmni a chymwysiadau cysylltiedig gan ddefnyddio JavaScript, C++ a PHP
  • Creu nifer o gronfeydd data ac offer integreiddio
  • Adeiladu system gwasanaeth newydd yn seiliedig ar gwmwl i wneud y gorau o gyflymder a pherfformiad y wefan
  • Profi meddalwedd yn y maes

Datblygydd Meddalwedd Iau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Unrhywsir, Unrhywdref, 2009 - 2011

  • Dadansoddi systemau gyda chwsmeriaid i benderfynu ar eu gofynion
  • Wedi cyfrannu at ddatblygu meddalwedd ar gyfer yr Adran Casglu Sbwriel ac Ailgylchu i reoli casgliadau sbwriel
  • Profi meddalwedd maes gyda thimau ar y safle
  • Creu system ar gyfer rheoli bygiau a thrwsio a gweithredu atgyweiriadau yn ôl yr angen

Cynorthwyydd Gwasanaeth Bwyd, Burgers and Co., canghennau Groveton a Bigtown, 2004 – 2009

  • Cymryd archebion a gweini cwsmeriaid
  • Glanhau byrddau a chadw’r bwyty’n lân ac yn daclus
  • Cynnal safonau iechyd a diogelwch a hylendid bwyd

Addysg/Cymwysterau

Prifysgol Bigtown, 2006 - 2009

  • BSC (Anrh) Peirianneg Meddalwedd. Dosbarth: 2:1
  • Roedd y modiwlau'n cynnwys modelu systemau cyfrifiadurol, datblygu gwasanaethau gwe a phrofi meddalwedd
  • Prosiect blwyddyn olaf ar ddatblygu llwyfan ar-lein hawdd ei ddefnyddio ar gyfer cwmnïau dosbarthu bwyd
  • Cyflawnwyd 2009

Coleg Heathertown, 2004 – 2006

  • Safon Uwch: Cyfrifiadura A, Mathemateg B, Ffiseg B, cyflawnwyd yn 2006

Ysgol Gyfun Heathertown, 1999 – 2004

  • Naw TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth a Chyfrifiadureg, cyflawnwyd 2004

Geirdaon ar gael ar gais.


Dogfennau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Lawrlwytho ein canllaw ysgrifennu CV Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Technegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Gweld mwy

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.