Enghraifft o CV - Stephen
Mae’r CV yma’n rhoi sylw i sgiliau, cryfderau a nodweddion personol.
Mae'n ddull defnyddiol os ydych yn gwneud cais am eich swydd gyntaf ar ôl gadael yr ysgol. Gall y dull yma hefyd fod yn ddefnyddiol wrth:
- Ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd
- Os oes bylchau yn eich hanes gwaith neu’ch bod wedi newid eich swydd sawl gwaith
Stephen Jameson
11 Stone House Court, Porth, CF1 5SD
Ebost: stevej @ examplemail .co.uk
Ffôn: 01995 387621 Symudol: 07800 0001111
Proffil Personol
Unigolyn dibynadwy, empathig a phroffesiynol sy'n edrych ymlaen at ddechrau gweithio a dysgu sgiliau newydd. Cyfathrebwr effeithiol sy'n amyneddgar, yn garedig ac yn ofalgar. Unigolyn hyblyg sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ond yr un mor hyderus yn gweithio'n unigol. Gwybodaeth a dealltwriaeth glir o bwysigrwydd GDPR a rheoliadau diogelu.
Sgiliau
- Prydlon a dibynadwy
- Da am gadw nodiadau a chofnodion
- Sgiliau TG da
- Da am weithio fel rhan o dîm – rwy’n aelod o fy nhîm rygbi lleol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Cyflogaeth a Phrofiad Gwaith
Cynorthwyydd Gwerthu, Swydd ar ddydd Sadwrn – Porth Town Sports Shop, Mehefin 2021 - presennol
- Arddangos stoc
- Delio gyda chwsmeriaid
- Cymryd taliadau gan gynnwys taliadau cardiau debyd a chredyd
Cartref Gofal Hillhouse, Y Porth, Mehefin 2021
Fe wnes i gwblhau pythefnos o brofiad gwaith mewn cartref gofal i'r henoed. Roedd gen i ddiddordeb gan fod fy mam-gu yn byw gyda ni ac rwy'n helpu gyda'i gofal weithiau. Roedd y tasgau’n cynnwys:
- Helpu amser bwyd
- sgwrsio a chwarae gemau gyda rhai preswylwyr
- Arsylwi gwaith y cynorthwywyr gofal
Addysg/Cymwysterau
Ysgol Gyfun Niwbwrch – 2017-2022
- TGAU: Saesneg Gradd C, Cymraeg Gradd C, Hanes Gradd D, Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl Gradd C/D, cyflawnwyd 2022
- Gwobr Arian ASDAN, cyflawnwyd 2022
Hobïau/Diddordebau
- Pêl droed – chwarae i dîm pêl-droed lleol
- Karate - wedi ennill gwregys du
Geirdaon ar gael ar gais.
Dogfennau
Gweld mwy
Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at hanes a sgiliau cyflogaeth, gan ddechrau gyda'r swydd fwyaf diweddar.
Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd.
Rydych chi’n defnyddio'r fformat CV hwn wrth wneud cais am swyddi academaidd ym maes addysg uwch neu debyg.
Rydych chi’n defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi addysgu.
Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol.
Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd.
Byddai'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth wneud cais am swydd newydd mewn gyrfa newydd.
Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.