Enghraifft o CV - Thomas
Mae’n ddefnyddiol pan ydych eisiau:
- Pwysleisio sgiliau a llwyddiannau perthnasol i’r swydd honno
- Mae gennych sgiliau trosglwyddadwy. Sgiliau trosglwyddadwy yw'r sgiliau rydych chi wedi'u datblygu mewn gwahanol feysydd yn eich bywyd
Thomas Rees
53 Church Crescent, Oldtown, SA99 2ZZ
thomasprees35@gmail.com
Ffôn: 01999 999666 Rhif symudol: 07999123456
Proffil Personol
Unigolyn gweithgar, llawn cymhelliant gyda nifer o flynyddoedd o brofiad cyflogaeth a phrofiad gwirfoddol. Yn meddu ar ystod o sgiliau gweinyddol a TGCh gan gynnwys defnydd cymwys o MS-Office 365, ysgrifennu adroddiadau yn effeithiol, trefnu a rheoli amser. Gweithiwr tîm ac arweinydd effeithiol sy'n ymgysylltu'n dda â phobl o bob oed ac o gefndiroedd amrywiol, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a gwrando da. Yn gobeithio cymhwyso rhai o’r sgiliau a ddysgwyd mewn diwydiannau amrywiol i rôl newydd a chyffrous o fewn Gweinyddiaeth Busnes.
Sgiliau
Cyfathrebu
- Ysgrifennu adroddiadau fel Goruchwyliwr Gofal yn Newhomes Ltd
- Ysgrifennu cofnodion cyfarfodydd fel Ysgrifennydd elusen leol i blant
- Cynhyrchu aseiniadau i safon uchel yn ystod hyfforddiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Arwain trafodaethau yn ystod cyfarfodydd ymddiriedolwyr fel Ysgrifennydd Elusen
- Darparu cyfarwyddiadau a gwybodaeth leol i ymwelwyr â Pharc Gwledig Crofts
Sgiliau TGCh
- Defnyddiwr cymwys o MS-Office 365 Suite, gan gynnwys Word, Outlook, PowerPoint ac Excel
- Defnyddio pecyn cronfa ddata mewnol i gofnodi gwaith achos tra yn Newhomes Ltd
Sgiliau Trefnu
- Cydlynu digwyddiadau codi arian a phartïon plant
- Trefnu gweithgareddau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys Hobbycraft a nosweithiau coginio
Gwaith Tîm
- Cydweithio gyda chydweithwyr ym mharc gwledig Crofts a rhannu tasgau gwaith
- Aelod tîm effeithiol o fewn tîm mawr o staff gofal
Hanes Cyflogaeth
Goruchwyliwr Gofal, Newhomes Ltd, Anytown, 2018 – 2021
- Goruchwyliaeth effeithiol a chefnogol o dîm o gynorthwyydd gofal a defnyddio Microsoft Excel i greu rotas staff
- Darparu hyfforddiant i staff ar faterion fel iechyd a diogelwch a chodi a chario
- Cofnodi gwaith achos a chynhyrchu adroddiadau rheoli gan ddefnyddio Microsoft Excel a Microsoft Access
- Darparu gofal rhagorol i ddefnyddwyr gwasanaethau
- Trefnu gweithgareddau cymdeithasol i ddefnyddwyr gwasanaeth
Cynorthwyydd Gofal, New Homes Ltd, Anytown, 2013 – 2018
- Darparu gofal personol rhagorol
- Trefnu gweithgareddau hamdden i ddefnyddwyr gwasanaeth
Gofalydd tir, Parc Gwledig Crofts, Anytown, 1992 – 2013
- Torri glaswellt, coed, llwyni a gwrychoedd, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a chyfarpar
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymwelwyr
Addysg/Cymwysterau
Gwasanaethau Hyfforddi Anytime, 2014 – 2016
- Diploma lefel 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Teilyngdod/Rhagoriaeth, OCR, a gyflawnwyd yn 2016
- Diploma lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rhagoriaeth, OCR, a gyflawnwyd yn 2015
Ysgol Gyfun Anytown, 1985 – 1990
- TGAU gan gynnwys Gwaith Coed A, Saesneg C, Gwyddoniaeth Dyfarniad Deuol CC, a gyflawnwyd yn 1990
Gwirfoddoli
- Ysgrifennydd a threfnydd digwyddiadau Smile and Play, 1994 - presennol
Geirdaon ar gael ar gais.
Dogfennau
Gweld mwy

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at hanes a sgiliau cyflogaeth, gan ddechrau gyda'r swydd fwyaf diweddar.

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.

Rydych chi’n defnyddio'r fformat CV hwn wrth wneud cais am swyddi academaidd ym maes addysg uwch neu debyg.

Rydych chi’n defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi addysgu.

Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol.

Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.