Enghraifft o CV - Kadiza
Mae'r CV hwn yn canolbwyntio ar gyflawniadau addysgol ac:
- Mae’n ddefnyddiol pan fyddwch chi’n gwneud cais am swyddi darlithio neu swyddi ymchwil ym maes addysg uwch
- Gall fod ychydig yn hirach na CV traddodiadol
Kadiza Hussein
kadizahussein1@yahoomail.com
07999987654
Kadiza Hussein ar LinkedIn
Proffil Personol
Ieithydd medrus gyda chefndir ymchwil cadarn, profiad addysgu rhyngwladol ac amser mewn gwasanaethau cyhoeddus a diwydiant dramor yn awyddus i barhau i ddatblygu gyrfa mewn addysgu iaith, tra'n cynnal ymchwil i ddefnydd iaith yn rhanbarth Sahel yn Affrica. Mae hefyd yn gobeithio parhau i fireinio a datblygu gwybodaeth a sgiliau yn yr ieithoedd Ffrangeg ac Arabeg.
Addysg/Cymwysterau
Prifysgol Caerdydd, 2013 - 2016
- PHD
- Ymchwil a ariannwyd gan yr AHRC dan y teitl ‘‘The influence of Arabic on the local languages of the Sahel” (crynodeb yn Atodiad 1)
- Goruchwylydd: Yr Athro Michael Peterson, Adran Astudiaethau Ieithoedd Cymhwysol, Prifysgol Caerdydd
- Cyflawnwyd 2016
Prifysgol Abertawe, 2008 – 2013
- MA/PGDip Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
- Roedd y modiwlau’n cynnwys dadansoddi disgwrs ar gyfer addysgu iaith, caffael ail iaith a dulliau ymchwil ar gyfer ieithyddiaeth gymhwysol
- Traethawd hir ar sut mae ieithoedd yng Ngogledd Affrica wedi newid dros amser
- Cyflawnwyd 2013
- BA (anrh) Ffrangeg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Dosbarth: 1af
- Roedd y modiwlau'n cynnwys gramadeg pedagogaidd, seicoieithyddiaeth a Ffrangeg ar gyfer busnes
- Traethawd hir y flwyddyn olaf yn archwilio datblygiad cwis i bennu gallu person i ddysgu
- Cyflawnwyd 2011
The Bridge High School, Oldtown, 2001 – 2008
- Safon Uwch: Saesneg Iaith, Ffrangeg, Daearyddiaeth, a gyflawnwyd yn 2008
- Naw TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith, Ffrangeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, cyflawnwyd 2006
Profiad Addysgu/Goruchwylio
Darlithydd, Prifysgol Manceinion, 2019 – presennol
- Cyflwyno sesiynau addysgu ar y cyrsiau BA TEFL, BA Ieithyddiaeth Gymhwysol a BA Ffrangeg
- Asesu gwaith myfyrwyr
- Mentora athrawon Saesneg dan hyfforddiant
- Asesu ymarfer dysgu athrawon Saesneg dan hyfforddiant
- Cynorthwyo gyda datblygu rhaglenni
- Goruchwylio traethodau hir israddedig
Athro Saesneg, Centre D'Etudes Internationales, Prifysgol Ryngwladol Moroco, Rabat, Morocco, 2018 – 2019
- Cyflwyno sesiynau addysgu ar y Rhaglen Addysgu Saesneg a Saesneg israddedig
- Cynllunio a datblygu'r rhaglen ar y cyd â chydweithwyr
- Asesu gwaith myfyrwyr
Cynorthwyydd Addysgu, Prifysgol Caerdydd, 2013 - 2016
- Cyflwyno addysgu ar y cyrsiau BA TEFL a BA Iaith Saesneg
- Asesu gwaith myfyrwyr
- Cynorthwyo gyda datblygu rhaglenni
- Goruchwylio traethodau hir israddedig
Cyhoeddiadau
- Bourita N, Hussein K, Thomas V 'Is Wolof becoming more like Arabic' (2021) Applied Linguistics 54:334-342
- Hussein K, Thomas V 'Are increased economic opportunities accelerating language change in North Africa?' (2020) ITL - International Journal of Applied Linguistics 84:851-858
- Hussein K 'The surprising benefits of learning by rote' (2018) Language Teaching Research 35:642-649
Sgiliau Ymchwil
- Dadansoddi data arolwg meintiol
- Cyfweld ansoddol
- Dadansoddi disgwrs
- Rhyngweithio ac arsylwi yn yr ystafell ddosbarth
Cynadleddau a Chyflwyniadau
- Gweithdy 'Cynhadledd Cymdeithas Ieithyddiaeth Prydain 2022 ar 'The changing linguistic landscape in the Maghreb'
- Cyflwyniad TEFL yng Nghynhadledd Rithiol Prydain 2021 ar ‘English isn’t the hardest language to spell – surprised?’
- Papur yng Nghynhadledd Fyd-eang Dwyieithrwydd 2019 ar ‘Switching between two languages in Wales: is it easier than switching between three in Morocco?’
- Papur yng Nghynhadledd Genedlaethol Ieithyddiaeth Gymhwysol 2015 ar 'Split infinitives: do they boldly go?'
- Gweithdy yng Nghynhadledd Genedlaethol Ieithyddiaeth Gymhwysol 2014 ar ‘Can learning English through native childhood stories improve your chances?’
- Gweithdy yng Nghynhadledd Ryngwladol Sefydliad Addysgu Saesneg 2013 ar ‘Teaching English to French-speakers when French isn’t their first language’
Gwobrau
- Gwobr Traethawd Hir Ôl-raddedig y Flwyddyn, Prifysgol Caerdydd, 2016 am draethawd hir MA
Cymdeithasau Proffesiynol
- Sefydliad TESOL, aelod cyswllt
- Athro Saesneg Cofrestredig (RELT)
- Aelod llawn o Sefydliad yr Ieithyddion
Cymwysterau Eraill
- Tystysgrif Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (CELTA)
Hanes Cyflogaeth
Centre for Progress Language School, Bigtown, 2019 - presennol
- Addysgu Saesneg i oedolion sydd newydd gyrraedd y DU
- Datblygu ystod eang o wersi rhyngweithiol
- Cyfrannu at gynllunio'r maes llafur
Tiwtor Saesneg Preifat, 2016 – 2019
- Datblygu a chyflwyno gwersi Saesneg ar-lein i gleientiaid preifat
- Dyfeisio cynlluniau dysgu personol
Cyfieithydd, Gwasanaeth Amgylchedd Cenedlaethol Moroco, Rabat, Morocco, 2018-2019
- Cyfieithu dogfennau mewnol ac allanol o'r Ffrangeg ac Arabeg i'r Saesneg
Ysgrifennwr copi/Cyfieithydd, Chemico Group, Bordeaux, Ffrainc, 2016 – 2018
- Creu, cyfieithu a chyhoeddi copi gwefan a phostiadau cyfryngau cymdeithasol
Cydlynydd Prosiect, Open Arms Trust, Caerdydd, 2013 - 2016
- Cydlynu tîm o staff prosiect ar y prosiect English for Everyone
- Cynllunio cyrsiau Saesneg sylfaenol
- Dysgu Saesneg i oedolion sydd ag ychydig neu ddim Saesneg yng Nghaerdydd
Cynorthwyydd Prosiect, STAR Support Project, Abertawe, 2008 – 2013
- Addysgu Saesneg anffurfiol i blant sydd newydd gyrraedd Abertawe
- Arwain a chydlynu tîm o wirfoddolwyr
Cynorthwyydd Prosiect Gwirfoddol, Tiwtor Saesneg wedi hynny, Bigtown Big Welcome Project, Bigtown, 2006 – 2008
- Cyfrannu at drefnu gweithgareddau i gyfranogwyr y prosiect
- Cyflwyno sesiynau addysgu Saesneg i grwpiau bach o bobl ifanc
Geirdaon
- Professor Abdul Aziz - Manchester University, 0161 0256677, abdul.aziz@manchester.ac.uk
- Dr Macmillan Anderson-Jones - Centre for Progress Language School, 01555 359000, m.anderson-jones@centreforprogress.org.uk
- Yr Athro Michael Peterson - Prifysgol Caerdydd, 029 25556678, petersonm@cardiff.ac.uk
Dogfennau
Gweld mwy

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at hanes a sgiliau cyflogaeth, gan ddechrau gyda'r swydd fwyaf diweddar.

Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd.

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.

Rydych chi’n defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi addysgu.

Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol.

Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.