Cyflwyniad i CVs
Mae CV yn gyfle i chi greu argraff ar gyflogwr. Mae'n hysbyseb ar gyfer eich sgiliau a'ch profiad. Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl.
Ystyr CV yw Curriculum Vitae. Mae llawer o gyflogwyr yn dal i ofyn am un pan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd.
Bydd CV da yn cynnwys gwybodaeth am eich sgiliau allweddol, profiad gwaith, cyflawniadau addysgol a manylion am sut i gysylltu â chi.
Edrychwch ar yr hysbyseb swydd a'r sgiliau a'r profiadau y mae'r cyflogwr yn gofyn amdanynt. Lle’n bosib, cofiwch gynnwys y rhain yn eich CV.
Bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl CV cyffredinol, cronolegol (lle mae cyflogaeth ac addysg yn ymddangos o'r mwyaf diweddar i'r hynaf). Mae'n well gan rai sectorau swyddi i chi anfon math o CV sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y diwydiant hwnnw.
Edrychwch ar Mathau o CVs i ddysgu am y gwahanol ffyrdd y gallwch fformatio CV.
Beth i'w gynnwys yn eich CV
Manylion cyswllt
Dylech gynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn cyswllt. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost sy'n swnio'n broffesiynol, er enghraifft john.jones@myemail.com.
Gallwch hefyd gynnwys eich cyfeiriad os ydych chi’n dymuno gwneud. Mae rhai pobl yn dewis peidio â chynnwys eu cyfeiriad ar CV y maent yn ei uwchlwytho ar-lein.
Ar gyfer rhai rolau, efallai y byddwch am gynnwys dolenni i'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol proffesiynol.
Proffil personol
Mae angen i’ch Proffil Personol fod tua 4 neu 5 llinell am eich prif gryfderau a sgiliau.
Gallech chi dynnu sylw at gyflawniad allweddol yma os yw’n berthnasol i’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani.
Awgrymiadau i'ch rhoi chi ar ben ffordd - rhai o'r cryfderau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt:
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gwaith tîm
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun
- Sgiliau trefnu
- Brwdfrydedd
- Dibynadwyedd
- Cadw amser a phrydlondeb
- Rhyw un y gellir ymddiried ynddo
- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Gweithio'n dda o dan bwysau
- Cymhelliant
Darllenwch y swydd ddisgrifiad a'n Taflenni Gwybodaeth Am Swyddi i ganfod pa gryfderau a sgiliau i'w cynnwys.
Sgiliau
Ar gyfer rhai mathau o CV, rydych chi'n cynnwys adran sgiliau sy'n rhestru eich sgiliau allweddol. Dyma'r sgiliau rydych chi wedi'u dysgu ac am eu hamlygu i'r cyflogwr.
Edrychwch ar y disgrifiad swydd a cheisiwch gynnwys y sgiliau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt. Gallwch gynnwys:
- Sgiliau arbenigol fel pecynnau TG neu sgiliau eraill sy'n benodol i'r swydd honno
- Sgiliau cyffredinol fel cyfathrebu neu waith tîm
Edrychwch ar ein tudalen Mathau o CVs i ddarganfod pa fathau o CV sydd angen adran sgiliau.
Cyflogaeth
Gan amlaf, byddech yn trefnu eich swyddi o'r rhai mwyaf diweddar i'r hynaf. Er mwyn ei gadw'n berthnasol ac i arbed lle, efallai y byddwch ond yn cynnwys y 5 neu 6 swydd ddiwethaf neu'r 10 neu 15 mlynedd diwethaf o brofiad.
Cynnwys:
- Eich teitl swydd
- Enw’r cwmni a’r lleoliad gwaith (nid y cyfeiriad llawn)
- Dyddiadau dechrau a gorffen eich cyflogaeth
- Rhestr ar ffurf pwyntiau bwled o’r tasgau a gyflawnwyd gennych bob dydd
- Unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol
- Cyflawniadau neu lwyddiannau a gawsoch yn y swydd
- Unrhyw wobrau a gawsoch
Addysg a chymwysterau
Rhowch eich cymwysterau yn y ffordd yma:
- Dechreuwch gyda’ch cymhwyster diweddaraf a/neu’r lefel uchaf o gymhwyster
- Nodwch y cymwysterau mwyaf perthnasol i’r swydd
- Nodwch y cymhwyster, y flwyddyn cyflawni, ac enw’r darparwr
Hyfforddiant
Dylech gynnwys unrhyw hyfforddiant perthnasol fel:
- Cyrsiau byr fel Hylendid Bwyd neu Iechyd a Diogelwch
- Trwyddedau neu dystysgrifau
- Hyfforddiant yn y swydd
- Dysgu yn y cartref neu ar-lein
- Dosbarthiadau nos
Gwirfoddoli a phrofiad gwaith
Gall gwaith gwirfoddol neu brofiad gwaith di-dâl ychwanegu gwerth at eich CV. Maent yn dangos i gyflogwyr y sgiliau a’r profiad ychwanegol rydych wedi’u hennill. Dylech gynnwys:
- Enw’r elusen neu’r cyflogwr
- Dyddiadau dechrau a gorffen
- Rhestr ar ffurf pwyntiau bwled o’r tasgau a gyflawnwyd gennych bob dydd
Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith.
Gwybodaeth ychwanegol
Defnyddiwch yr adran hon i ychwanegu unrhyw wybodaeth berthnasol arall yn cynnwys:
- Chwaraeon rydych chi’n eu gwneud neu’n eu cefnogi
- Gweithgareddau cymunedol rydych chi’n ymwneud â nhw
- Diddordebau a hobïau
- Cyflawniadau a gwobrau
- Aelodaeth o sefydliadau proffesiynol
- Trwydded yrru
- Datgelu anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol (dewis personol yw hyn)
Cadwch yr adran hon yn fyr ac yn berthnasol i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.
Geirdaon
Nodwch y geiriau: Mae geirdaon ar gael ar gais.
Fel arfer bydd angen i chi ddarparu o leiaf 2 eirda. Peidiwch â nodi manylion eich geirdaon yn y CV, dim ond eu cael yn barod.
Gofynnwch i’r bobl yr hoffech eu defnyddio fel canolwyr a ydynt yn fodlon rhoi geirda i chi.
Gallai canolwyr posibl gynnwys:
- Cyflogwr – cyn-gyflogwr neu un presennol
- Athro/Athrawes, tiwtor neu ddarlithydd
- Gweithiwr ieuenctid
- Elusen lle rydych wedi gwirfoddoli
- Rhywun y gwyddoch y gallant roi geirda i chi (nid perthynas)
Targedwch eich CV
CV wedi'i dargedu yw CV a ysgrifennwyd ar gyfer y swydd benodol yr ydych yn gwneud cais amdani. Mae'n tynnu sylw at y sgiliau a'r profiad sy'n berthnasol i'r swydd honno.
Bob tro y byddwch yn gwneud cais am swydd, dylech deilwra eich CV i fod yn fwy perthnasol i'r swydd benodol honno. Mae gennych well siawns o gael cyfweliad pan fyddwch yn ei gwneud yn glir bod y sgiliau a'r profiad sydd gennych yn cyfateb neu'n cyd-fynd yn agos â'r gofynion a nodir yn y swydd wag.
CV beth i’w wneud a beth i’w osgoi
Beth i’w wneud:
- Defnyddiwch gynllun a ffont syml. Mae ffontiau fel Arial neu Times New Roman yn broffesiynol ac yn hawdd i'w darllen
- Rhowch y wybodaeth fwyaf perthnasol am y swydd
- Rhowch eiriau gweithredu sy'n amlygu cyflawniadau, megis creu, gwella, cynhyrchu a chyflawni
- Cadwch y CV yn gryno. Fel arfer, ni fyddai CV yn fwy na 2 dudalen o hyd, ac 1 dudalen os ydych chi newydd adael yr ysgol
- Gall rhai CVs fod yn hirach, er enghraifft CVs academaidd, ond maent yn dal i gadw gwybodaeth yn berthnasol ac yn gryno
- Darllenwch drwy eich CV a chywirwch unrhyw gamgymeriadau sillafu a gramadeg. Gofynnwch i eraill ei wirio a darllenwch eich CV yn uchel i chi'ch hun hefyd
- Ychwanegwch hobïau a diddordebau os ydynt yn berthnasol i'r swydd, er enghraifft hyfforddi chwaraeon neu waith ieuenctid ar gyfer swydd addysgu
- Defnyddiwch eich CV i'ch helpu chi i ysgrifennu ffurflenni cais ac i helpu mewn cyfweliadau
Peidiwch â:
- Chynnwys popeth rydych chi erioed wedi’i wneud i greu argraff. Mae gan gyflogwyr lawer o CVs i’w darllen felly nodwch y wybodaeth fwyaf perthnasol yn unig
- Cynnwys pethau sydd ddim yn wir. Gall cyflogwyr wirio ac os byddan nhw’n gweld eich bod wedi dweud celwydd ar eich CV gallech chi golli eich swydd
- Rhowch "Curriculum Vitae" fel y teitl; dylai'r teitl fod yn eich enw llawn chi. Dylai enw'r ffeil gynnwys eich enw chi hefyd
- Defnyddio dyluniad lliwgar neu gynnwys llawer o raffeg neu luniau. Yr eithriad i hyn yw os ydych chi'n ysgrifennu CV creadigol ac yn gwneud cais am swydd greadigol
- Chynnwys hobïau a diddordebau sy’n nodi diddordebau cyffredinol fel darllen, cymdeithasu, cerdded a nofio. Nodwch hobïau lle maent yn berthnasol yn unig
Pasio trwy’r feddalwedd
Mae llawer o gwmnïau mawr yn defnyddio meddalwedd recriwtio i ddidoli CVs i benderfynu a ydych chi'n symud ymlaen i'r cam nesaf. Fe'i gelwir weithiau yn feddalwedd Olrhain Ymgeiswyr (ATS) neu weithiau fe'i gelwir yn feddalwedd Dosrannu CV’s.
Mae'r meddalwedd yn sganio'ch CV ac yn chwilio am eiriau allweddol a teitlau swyddi yn ogystal â gwybodaeth arall i weld a yw'n cyfateb i ofynion y swydd.
Awgrymiadau da i basio trwy’r feddalwedd yma:
- Cofiwch gynnwys eiriau allweddol sy'n cyd-fynd â'r hysbyseb swydd yn eich adrannau sgiliau a phrofiad a'ch proffil personol
- Defnyddiwch fformat CV syml a defnyddiwch benawdau safonol y bydd y feddalwedd yn eu hadnabod, fel Cyflogaeth, Profiad Gwaith, Sgiliau ac ati.
- Ceisiwch osgoi defnyddio tablau oherwydd efallai na fyddai'r feddalwedd yn eu deall
- Trefnwch eich addysg a phrofiad gwaith/cyflogaeth o'r mwyaf diweddar i'r hynaf
- Gallwch arbed eich CV ar ffurf PDF, ond peidiwch ag arbed fel delwedd wedi'i sganio gan na all y feddalwedd ddarllen y rhain
Y cyfryngau cymdeithasol a CVs
Efallai y bydd cyflogwyr yn edrych ar eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol pan fyddwch chi’n gwneud cais am swydd. Mae hyn yn wir hyd yn oed os gwnaethoch chi gais gan ddefnyddio CV.
Ystyriwch ddileu hen gyfrifon nad ydych chi'n eu defnyddio neu bostiadau y byddai'n well gennych chi bod cyflogwyr ddim yn eu gweld.
Bydd cael set dda, gyfoes, o broffiliau cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu i ddod o hyd i swydd. Bydd rhai cyflogwyr yn defnyddio cyfuniad o'ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol a'ch CV.
Ewch i’n tudalen defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi.
Enghreifftiau o CV’s
Defnyddiwch yr enghreifftiau isod i’ch helpu i greu eich CV nesaf.
Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.
Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at hanes a sgiliau cyflogaeth, gan ddechrau gyda'r swydd fwyaf diweddar.
Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd.
Rydych chi’n defnyddio'r fformat CV hwn wrth wneud cais am swyddi academaidd ym maes addysg uwch neu debyg.
Rydych chi’n defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi addysgu.
Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol.
Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd.
Byddai'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth wneud cais am swydd newydd mewn gyrfa newydd.
Dogfennau
Am fwy o help a chefnogaeth
Mae'r Academi Sgiliau i Lwyddo yn offeryn dysgu ar-lein lle gallwch ddysgu mwy am greu CVs, paratoi cyfweliadau a llawer mwy. Ewch i'n Tudalen Sgiliau i Lwyddo ar gyfer sut i gofrestru.
Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch i greu eich CV, cysylltwch â ni.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi fformatio CV.
Mae mwy o gyflogwyr yn defnyddio CVs fideo. Ystyriwch CV fideo os ydych chi'n gwneud cais am swydd greadigol.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.