Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Mathau o CVs

Dylech bob amser deilwra'ch CV i'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani. Ar gyfer rhai swyddi ac amgylchiadau, mae 'na fath o CV sy'n gweithio orau.

Ar y dudalen hon, rydym yn tynnu sylw at rai fformatau CV y gallwch eu defnyddio ar gyfer rhai swyddi neu ar adegau penodol yn eich gyrfa.

Gallwch lawrlwytho CV enghreifftiol a templed ar gyfer pob math o CV ysgrifenedig.

CV cronolegol

Rydych chi'n defnyddio CV cronolegol i gyd-fynd a'ch profiad gwaith a'ch cymwysterau â'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Gall fod yn fformat CV da i'w ddefnyddio pan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd newydd yn yr un maes rydych chi eisoes yn gweithio ynddo.

Dylech restru manylion cyflogaeth ac addysg mewn trefn gronolegol gan ddechrau gyda’r mwyaf diweddar i'r hynaf.

Gyda'r math hwn o CV, gallwch ddangos eich hanes gwaith, eich cyfrifoldebau, cyflawniadau ac addysg berthnasol yn glir.

Awgrymiadau da:

  • Wrth gynnwys cymwysterau a phrofiad gwaith, gwnewch yn siwr eu bod yn cyd-fynd â'r swydd rydych chi'n ymgeisio amdani
  • Dylech gynnwys cofnodion am unrhyw fylchau yn eich hanes gwaith. Dangoswch eich bod yn gwneud rhywbeth defnyddiol yn ystod y cyfnodau hyn, er enghraifft “gwirfoddoli” neu “chwilio am waith”
  • Cadwch mewn cof y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Ceisiwch ymdrin â'r rhain yn eich adran profiad gwaith neu'ch adran sgiliau a gwybodaeth ychwanegol

Enghraifft o CV cronolegol

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Cronolegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV seiliedig ar sgiliau

Mae'r math hwn o CV yn ddefnyddiol os oes gennych fylchau yn eich hanes gwaith neu os nad oes gennych lawer o brofiad gwaith. Mae hefyd yn ddefnyddiol os ydych chi’n gwneud cais am swydd mewn sector swyddi gwahanol i’r un rydych chi wedi bod yn gweithio ynddo.

Mewn CV sy'n seiliedig ar sgiliau, rydych chi'n canolbwyntio ar y sgiliau rydych chi wedi'u datblygu mewn gwahanol feysydd yn eich bywyd. Gallwch alw’r rhain yn sgiliau trosglwyddiadwy.

Cofiwch dynnu sylw at y sgiliau hynny rydych chi wedi'u datblygu sy'n cyd-fynd â'r sgiliau y gofynnwyd amdanynt yn yr hysbyseb swydd neu'r disgrifiad swydd.

Awgrymiadau da:

  • Rhowch eich proffil sgiliau yn agos at y brig
  • Ceisiwch ddefnyddio'r un iaith â'r disgrifiad swydd i ddangos eich bod wedi ei ddarllen a'ch bod yn cyd-fynd ag ef. Ond peidiwch â'i gopïo gair-am-air
  • Dywedwch ble rydych chi wedi defnyddio'ch sgiliau mewn sefyllfaoedd bywyd

Enghraifft o CV seiliedig ar sgiliau

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Seiliedig ar Sgiliau Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV ymadawyr ysgol

Mae cyflogwyr yn gwybod na fydd gennych chi lawer o brofiad gwaith. Mae CV ymadawyr ysgol yn amlygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd gennych chi sy'n berthnasol i'r swydd.

Meddyliwch am yr holl sgiliau rydych chi wedi’u hennill drwy’r ysgol, lleoliadau profiad gwaith, gwaith anffurfiol fel gwarchod plant neu hyd yn oed gwirfoddoli. Cofiwch gynnwys y sgiliau mwyaf perthnasol ar gyfer y swydd.

Awgrymiadau da

  • Ychwanegwch broffil personol dim ond os yw'ch cyflogwr yn ei ddisgwyl, felly gwnewch eich ymchwil
  • Peidiwch ag ychwanegu llawer o fanylion amherthnasol i lenwi lle. Mae CV cryno, o ansawdd da yn well
  • Meddyliwch am gyflwyniad. Gwnewch y defnydd gorau o le gan gadw’r cynllun yn gyson.
  • Ystyriwch ddefnyddio pwyntiau bwled gan y gallant eich helpu i fod yn gryno

Enghraifft o CV ymadawyr ysgol

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Ymadawyr Ysgol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV academaidd

Mae CV academaidd yn canolbwyntio ar gyflawniadau addysgol. Defnyddiwch CV academaidd i wneud cais am swyddi darlithio neu ymchwil.

Mae CVs academaidd yn tueddu i fod yn hirach na mathau eraill o CVs. Mae hyn am eu bod yn cynnwys adrannau ar:

  • Waith cyhoeddedig
  • Profiad addysgu
  • Ymchwil rydych chi wedi'i wneud
  • Cynadleddau a chyflwyniadau rydych chi wedi bod yn rhan ohonynt

Awgrymiadau da:

  • Does dim terfyn tudalen, ond dylech chi barhau i’w gadw'n berthnasol ac yn gryno
  • Ar eich tudalen gyntaf, cofiwch gynnwys eich cyflawniadau academaidd, eich diddordebau ymchwil a’ch sgiliau arbenigol
  • Cofiwch gynnwys gwybodaeth arall, os yw'n berthnasol, ar ganlyniadau eich ymchwil a'ch gwaith yn y dyfodol, aelodaeth broffesiynol a grantiau rydych chi wedi'u derbyn i wneud eich ymchwil
  • Ysgrifennwch mewn ffordd sy’n galluogi pobl heb eich cefndir academaidd i allu ei ddeall

Enghraifft o CV academaidd

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Academaidd Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV addysgu

Defnyddiwch CV addysgu i wneud cais am swydd addysgu.

Mae CV addysgu yn amlygu addysgu a phrofiad perthnasol nad yw'n ymwneud ag addysgu, cyflawniadau mewn addysg a sgiliau perthnasol.

Awgrymiadau da:

  • Dechreuwch gyda'ch profiad addysgu a phrofiad arall yn yr ysgol, gan gynnwys unrhyw waith gwirfoddol. Mae hyfforddi chwaraeon, gweithio gyda grwpiau ieuenctid a swyddi mewn gwersylloedd haf i gyd yn berthnasol
  • Cofiwch gynnwys manylion am eich cyflawniadau addysgol fel athro, o'r hyfforddiant athrawon ei hun i fodiwlau prifysgol perthnasol eraill
  • Ychwanegwch sgiliau a allai fod yn ddefnyddiol fel arweinyddiaeth, TG, sgiliau cerddorol neu ieithyddol
  • Ychwanegwch hobïau a diddordebau os ydynt yn berthnasol i'r swydd
  • Ychwanegwch fanylion 2 ganolwr, un o'ch ymarfer dysgu ac un o'ch hyfforddiant athrawon

Enghraifft o CV addysgu

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Addysgu Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV cyfreithiol

Os ydych chi’n gwneud cais am swydd gyfreithiol fel cyfreithydd neu gontract hyfforddai ar ôl ysgol y gyfraith, dylech ddefnyddio CV cyfreithiol neu y gyfraith.

Mae CV cyfreithiol yn tynnu sylw at eich cefndir addysgol a'ch profiad gwaith cyfreithiol, gan gynnwys lleoliadau gwaith a chynlluniau gwyliau.

Awgrymiadau da:

  • Ar gyfer contract hyfforddai, nid oes rhaid i chi gynnwys proffil personol oherwydd bydd eich llythyr eglurhaol yn dweud pwy ydych chi a pham rydych chi'n gwneud cais. Yn nes ymlaen yn eich gyrfa, bydd yn rhaid i chi gynnwys hwn
  • Amlygwch eich ymwybyddiaeth fasnachol trwy restru eich holl brofiad masnachol. Cofiwch gynnwys tasgau a chyfrifoldebau

Enghraifft o CV Cyfreithiol

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Cyfreithiol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV technegol

Os ydych chi'n gwneud cais am rolau mewn TG (Technoleg Gwybodaeth) fel datblygydd gwe neu gymwysiadau, neu ymgynghorydd TG, defnyddiwch fformat CV technegol.

Mae'r CV hwn yn amlygu sgiliau technegol, profiad ac arbenigedd.

Awgrymiadau da:

  • Dechreuwch gyda phrofiad ac arbenigedd allweddol yn gyntaf. Rhowch fwy o fanylion am eich sgiliau technegol a'ch cymwyseddau o dan "Sgiliau Allweddol"
  • Amlygwch sgiliau Cyfathrebu a datrys problemau
  • Cofiwch am eich cynulleidfa. Ysgrifennwch ar gyfer rheolwyr AD yn ogystal â gweithwyr TG

Enghraifft o CV technegol

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Templed CV Technegol Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

CV fideo

Efallai y byddwch chi’n defnyddio CV fideo i wneud cais am waith yn y cyfryngau, mewn marchnata a gwerthu neu mewn rhai rolau creadigol.

Nid yw CV fideo yn disodli eich CV papur ond yn ychwanegu ato. Bydd yn eich galluogi chi i sefyll allan oherwydd byddwch yn gallu dangos eich personoliaeth i gyflogwyr.

Darllenwch ein canllaw ar gyfer CVs fideo.

CVs Creadigol eraill

Defnyddiwch CV creadigol ar gyfer swyddi fel dylunydd graffeg, golygydd ffilm/fideo a dylunydd gemau. Defnyddir y math hwn o CV yn ehangach hefyd yn y sector creadigol.

Gall CV Creadigol gymryd ffurf dogfen gydag elfennau mwy gweledol neu greadigol, eich gwefan eich hun, e-bortffolio ac ati.

Gall CVs creadigol wir arddangos eich sgiliau creadigol heb i chi orfod eu disgrifio. Ond, gall meddalwedd sganio neu ddosrannu CVs gael trafferth eu darllen.

Darganfyddwch a yw’r cwmni yr ydych yn gwneud cais iddo yn disgwyl CV creadigol. Anfonwch un ysgrifenedig bob tro hefyd.

Mae CVs ffeithlun a CVs ar-lein yn ddau fath o CV creadigol.

CV ffeithlun

Mae CV ffeithlun yn arddangos eich profiad yn weledol yn lle mewn geiriau.

Gallech chi greu graff o’ch sgiliau, gan ddangos sut rydych chi wedi’u datblygu. Dylai'r ffeithlun ddangos pa sgiliau rydych chi'n eu defnyddio yn y gwaith bob dydd.

Bydd hi'n haws creu CV ffeithlun os oes gennych sgiliau dylunio da. Efallai y bydd y fersiynau rhad ac am ddim o offer ar-lein fel Canva (Saesneg yn unig) yn ddefnyddiol, ond gwyliwch rhag taliadau ychwanegol.

CV ar-lein

Bydd cyflogwyr yn chwilio amdanoch chi ar-lein pan fyddwch yn gwneud cais. Bydd cael presenoldeb ar-lein sy'n gweithredu fel CV yn sicrhau eu bod yn sylwi arnoch chi am y rhesymau cywir.

Mae llawer o wefannau swyddi yn rhoi'r opsiwn i chi adeiladu eich CV ar eu gwefan, yn ogystal ag i uwchlwytho CV sydd gennych eisoes.

Ar LinkedIn a safleoedd eraill gallwch greu eich "tudalen lanio broffesiynol" eich hun.

Mae About.me yn caniatáu i chi gyflwyno eich hun a chynnwys gwybodaeth allweddol y byddech yn dod o hyd iddi ar eich CV. Gallwch hefyd bostio dolenni i'ch gwefan eich hun, cyfryngau cymdeithasol neu flogiau neu eich e-bortffolio.

Mae Global Bridge hefyd yn caniatáu i chi greu eich e-bortffolio eich hun.

Am fwy o help a chefnogaeth

Offeryn dysgu ar-lein yw’r Skills to Succeed Academy lle gallwch ddysgu mwy am lunio CVs, paratoi ar gyfer cyfweliad a llawer mwy. Ewch i'n tudalen Sgiliau i Lwyddo i ddysgu sut mae cofrestru.

Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch i greu eich CV, cysylltwch â ni.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

CVs fideo

Mae mwy o gyflogwyr yn defnyddio CVs fideo. Ystyriwch CV fideo os ydych chi'n gwneud cais am swydd greadigol.

Technegau cyfweld

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.