Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

CVs fideo

Cyflwyniad i CVs Fideo

Gall CV fideo ddangos eich creadigrwydd i gyflogwyr a'ch helpu i greu argraff. Dysgwch sut i greu eich CV fideo eich hun.

Recordiad byr yw CV fideo, fel arfer 1 i 3 munud o hyd. Mae'n tynnu sylw at eich sgiliau a'ch profiad ond hefyd yn caniatáu i chi ddangos eich personoliaeth i gyflogwyr.

Efallai y byddwch yn defnyddio CV fideo i wneud cais am waith yn y cyfryngau, mewn marchnata a gwerthu neu mewn rhai rolau creadigol. Ond weithiau gallwch ddefnyddio CV fideo mewn meysydd gwaith eraill hefyd.

Mae'n bwysig gwirio a yw eich darpar gyflogwr yn disgwyl CV fideo.

Mewn rhai achosion, bydd CV fideo yn eich helpu i sefyll allan. Ond ni fydd hyn yn gweithio gyda chyflogwr sy'n ffafrio CVs neu ffurflenni cais ysgrifenedig.

Mae yna apiau ffôn clyfar sy'n gadael i chi ffilmio, golygu, llwytho a rhannu fideos. Os ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus, gallech greu eich CV fideo gan ddefnyddio eich ffôn.

Efallai y byddai'n well gennych ddefnyddio offer fideo priodol, gan gynnwys camera, tripod a meddalwedd golygu fideo. Bydd hyn yn rhoi golwg broffesiynol iawn i'ch fideo.

Os nad oes gennych sgiliau golygu da, efallai hoffech ofyn am help.

Gallwch naill ai uwchlwytho eich CV fideo i wefan fel YouTube neu ei e-bostio'n uniongyrchol at gyflogwyr.

Gwnewch yn siwr bod y fideo "heb ei restru" ac nid yn gyhoeddus. Mae hyn yn golygu y gallwch chi anfon y ddolen at gyflogwyr, ond nid yw ar gael i unrhyw un arall.

Cofiwch wirio hefyd bod unrhyw gyflogwr rydych chi'n anfon eich fideo ato yn gyflogwr dilys.

Paratoi at eich CV fideo

Cyn i chi ffilmio, gwnewch y canlynol:

  • Cynlluniwch beth rydych chi am ei ddweud amdanoch chi’ch hun a'i ysgrifennu mewn sgript. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n anghofio cynnwys unrhyw beth pwysig
  • Wrth i chi gynllunio, dychmygwch y gwahanol sefyllfaoedd rydych chi am eu cynnwys. Meddyliwch beth rydych chi eisiau ei ddangos yn weledol ar gyfer pob un
  • Dysgwch eich sgript fer mwyn osgoi edrych ar nodiadau pan fyddwch chi'n ffilmio. Mae'n iawn peidio â dilyn y sgript yn union, gan y bydd hyn yn gwneud i chi swnio'n fwy naturiol. Fodd bynnag, bydd eich sgript yn sicrhau eich bod ar y trywydd iawn ac yn swnio'n broffesiynol
  • Dewiswch le tawel, wedi'i oleuo'n dda ar gyfer y ffilmio. Gwnewch yn siŵr bod yr ardal yn daclus, heb lanast
  • Defnyddiwch bropiau dim ond lle bo hynny'n briodol
  • Gwisgwch fel y byddech chi ar gyfer cyfweliad. Os oes gennych chi syniad o'r hyn y gallai'r cyflogwr ei ddisgwyl, ceisiwch gadw mor agos at hynny â phosibl
  • Gosodwch eich offer a'i brofi er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio

Ffilmio eich CV fideo

Pan fyddwch chi'n barod i ffilmio:

  • Sicrhewch eich bod wedi ymarfer eich sgript ychydig o weithiau fel eich bod wedi arfer ei ddweud yn uchel. Gorau arf arfer
  • Rhowch gynnig ar wahanol saethiadau ac onglau camera i'w hamrywio
  • Ffilmiwch y fideo ychydig o weithiau fel bod gennych chi ddigon o ddeunydd ar gyfer golygu

Golygu eich CV fideo

Ar ol gorffen ffilmio:

  • Tynnwch allan saethiadau nad oedd yn gweithio. Cofiwch eich bod chi ond yn cynnwys y rhai gorau
  • Ad-drefnwch gan dynhau eich lluniau lle mae angen
  • Ychwanegwch effeithiau gweledol a sain os byddant yn cael mwy o effaith. Gallech gael cerddoriaeth gefndir neu allech bwyntio at y testun wrth iddo ymddangos

Rhannu eich CV fideo

Ar ôl i chi wneud eich CV fideo, mae angen i chi benderfynu sut i'w rannu.

Gallwch ei e-bostio at gyflogwyr. Ond, bydd ei uwchlwytho i blatfform rhannu fideo fel Vimeo neu YouTube yn ei gwneud hi'n haws i gyflogwyr ddod o hyd iddo.

Cofiwch gyhoeddi eich fideo fel un sydd heb ei restru i sicrhau mai dim ond pobl o'ch dewis chi all ei wylio.

Os ydych chi'n ei e-bostio, edrychwch ar y cyflogwr ar-lein i wneud yn siŵr ei fod yn gyflogwr dilys.

Bydd gwneud yr uchod yn diogelu eich gwybodaeth bersonol

Unwaith y byddwch ar-lein, gallwch roi dolenni i'ch CV fideo ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Beth i'w gynnwys yn eich CV fideo

Mae strwythur CV fideo yn fwy hyblyg na strwythur CV ysgrifenedig. Dyma'r prif elfennau i'w cynnwys.

Dechrau:

  • Cyflwyno eich hun
  • Esboniwch pam rydych chi wedi creu'r fideo
  • Dywedwch wrth y cyflogwr pam mai chi yw'r person gorau ar gyfer y swydd

Canol:

  • Siaradwch am sgiliau a phrofiad perthnasol sydd gennych gan gynnwys eich pwyntiau gwerthu unigryw
  • Gallwch ddefnyddio clipiau a graffeg ar y sgrin neu sioe sleidiau i ddangos tystiolaeth o'ch sgiliau
  • Dangoswch enghreifftiau o'ch gwaith o'ch portffolio
  • Gallech fynd am fformat cwestiwn ac ateb neu linell amser o brofiad
  • Gallech ddangos prosiect rydych chi wedi’i wneud yn fanwl os yw hynny’n fwy perthnasol

Diwedd:

  • Crynhowch y prif sgiliau neu briodoleddau rydych chi wedi’u dangos iddyn nhw
  • Nodwch pam mai chi yw'r person gorau ar gyfer y swydd
  • Cofiwch ddiolch i'r cyflogwr am wylio
  • Dylech gynnwys eich manylion cyswllt
  • Linc i broffiliau ar-lein megis eich LinkedIn, eich gwefan neu e-bortffolio

Awgrymiadau da ar gyfer CV fideo

Cyn i chi benderfynu creu CV fideo:

  • Ymchwiliwch i'r cwmni i weld a fydden nhw'n disgwyl CV fideo gennych chi. Os oes ganddynt ffurflen gais safonol yn lle hynny, gwnewch ymdrech wrth lenwi honno 
  • Ystyriwch a fyddai CV fideo yn eich dangos chi ar eich gorau. Os ydych chi'n teimlo’n anghyfforddus o flaen camera, efallai nad hyn yw’r ffordd orau o ddangos eich rhinweddau gorau

Os byddwch chi’n penderfynu creu CV fideo:

  • Edrychwch ar-lein am enghreifftiau o CVs fideo i'ch ysbrydoli. Peidiwch â’u copïo
  • Recordiwch y fideo sawl gwaith nes eich bod chi'n hapus
  • Byddwch yn broffesiynol o ran yr hyn rydych chi'n ei ddweud a sut rydych chi'n edrych
  • Meddyliwch am y ffordd orau i ddangos eich sgiliau. Byddwch yn greadigol
  • Cadwch e mor fyr â phosibl a gwnewch yn siwr ei fod yn berthnasol
  • Gofynnwch i rywun ei wylio a rhoi adborth i chi

Gofynnwch am fwy o help a chefnogaeth

Offeryn dysgu ar-lein yw’r Academi Sgiliau i Lwyddo lle gallwch ddysgu mwy am lunio CVs, paratoi ar gyfer cyfweliad a llawer mwy. Ewch i'n Tudalen Sgiliau i Lwyddo i ddysgu sut i gofrestru.

Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch i greu eich CV, cysylltwch â ni.


Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Mathau o CVs

Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi fformatio CV.

Technegau cyfweld

Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.