Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Technegau cyfweld

Y cyfweliad yw eich cyfle i argyhoeddi’r cyflogwr mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd. Os ydych wedi cael cynnig cyfweliad, rydych eisoes wedi llwyddo yn y cam cyntaf.

Mae’n bwysig paratoi

Gallwch wneud llawer cyn y cyfweliad i wella eich siawns o gael swydd:

Ymchwiliwch i'r swydd
  • Ymchwiliwch i'r cwmni. Edrychwch ar eu gwefan a'r hyn maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n debygol o ofyn i chi beth rydych chi'n ei wybod am eu cwmni
  • Edrychwch ar y disgrifiad swydd. Sylwch ar y prif sgiliau y mae'r cyflogwr yn gofyn amdanynt a chyfateb y sgiliau hyn â'r hyn y gallwch ei wneud
  • Darllenwch eich ffurflen gais neu'ch CV. Bydd hyn yn eich hatgoffa o'r hyn rydych wedi'i ddweud a'r sgiliau a'r profiadau rydych chi wedi'u crybwyll
  • Ymchwiliwch pwy sy'n eich cyfweld. Mewn rhai achosion efallai y dywedir wrthych pwy sydd ar y panel cyfweld. Edrychwch arnyn nhw ar LinkedIn i ddarganfod mwy am eu cefndir proffesiynol neu ar dudalen 'Amdanom ni' sydd fel arfer ar wefan cyflogwyr
Gwybod beth yw eich sgiliau

Bydd cyflogwyr am wybod:

  • Ai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd?
  • Allwch chi wneud y swydd?

Mae angen i bob cwestiwn y byddwch yn ei ateb ganolbwyntio ar ddangos i gyflogwyr mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd ac y gallwch wneud y swydd, neu bod gennych y potensial i wneud y swydd.

Sicrhewch fod eich atebion yn canolbwyntio ar eich:

C -Cryfderau
Beth ydych chi’n gallu ei wneud yn dda? Pa bethau da y byddai eich cyn-gyflogwr wedi’i ddweud amdanoch? Beth mae eich ffrindiau a’ch teulu yn dweud wrthych eich bod yn gallu ei wneud yn dda?

P - Profiad
Pa dasgau ydych chi wedi’u gwneud sy’n cyfateb i’r tasgau yn y swydd-ddisgrifiad?

H - Hyfforddiant
Pa hyfforddiant ydych chi wedi'i wneud y mae'r swydd yn gofyn amdano? Pa gymwysterau sydd gennych?

Cofiwch C P H yn eich cyfweliad oherwydd bydd hyn yn eich helpu i sicrhau bod eich atebion yn canolbwyntio ar eich cryfderau, eich profiad a’ch hyfforddiant.

Ymarfer cwestiynau cyfweld

Gofynnir gwahanol fathau o gwestiynau i chi yn cynnwys cwestiynau uniongyrchol a chwestiynau cymhwysedd. Weithiau bydd cyflogwyr yn gofyn cwestiynau anarferol i chi hefyd. Felly byddwch yn barod.

Rhai cwestiynau cyffredin mewn cyfweliad

Cyfeiriwch at eich cryfderau, profiad a hyfforddiant wrth ateb y cwestiynau hyn:

  • Dywedwch wrthyf amdanoch chi eich hun
  • Pam ydych chi eisiau’r swydd hon?
  • Beth yw eich cryfderau?
  • Pa brofiad perthnasol sydd gennych?
  • Pam ddylen ni eich cyflogi chi?
  • Beth sy’n rhoi cymhelliant i chi?
  • Beth yw eich prif gyflawniad?

(Byddai cyflogwyr yn disgwyl rhywfaint o ailadrodd. Yn wir, efallai y byddant yn cofio eich sgiliau’n well os byddwch yn eu hailadrodd.)

Cwestiynau Cymhwysedd

Cwestiynau cymhwysedd yw cwestiynau sy’n gofyn i chi roi enghreifftiau o’ch gwaith neu fywyd. Dyma’ch cyfle i brofi fod gennych y sgiliau a‘r profiad cywir.

Dod o hyd i help i ateb cwestiynau cymhwysedd: Sut i ateb cwestiynau cyfweliad gydag enghreifftiau o'ch bywyd.

Cwestiynau eraill

  • Beth yw eich gwendidau?

Meddyliwch am wendid a allai fod yn gryfder hefyd. Mae cyflogwyr yn disgwyl ateb o ddifrif i’r cwestiwn hwn. Paratowch eich ateb cyn y cyfweliad.

  • Beth ydych chi’n ei wybod am ein cwmni?

Dylech bob amser ymchwilio i’r cwmni cyn y cyfweliad. Edrychwch ar-lein ar wefan y cwmni a darllenwch y wybodaeth sydd ar gael. Ceisiwch roi enw’r cwmni mewn peiriant chwilio, neu safle newyddion. Os yw’n newyddion cadarnhaol gallech grybwyll hwn yn y cyfweliad.

  • Oes gennych chi unrhyw gwestiynau i ni?

Atebwch oes bob amser. Mae’r cwestiynau y gallech eu gofyn yn dibynnu ar y swydd, ond dyma rai awgrymiadau:

  • Faint o bobl y byddwn yn gweithio gyda hwy?
  • I bwy fyddwn i’n adrodd?
  • Allwch chi ddweud wrthyf am ddiwrnod arferol yn y swydd hon?

Peidiwch â holi am gyflog, gwyliau, salwch neu gynlluniau pensiwn. Mae’r rhain yn gwestiynau y byddech yn eu gofyn pe baent yn cynnig y swydd i chi.

Ceisiwch ymarfer ateb cwestiynau ar lafar. Os gallwch, ceisiwch ymarfer gyda rhywun all roi adborth gonest i chi. Y mwyaf y byddwch yn ymarfer, y mwyaf hyderus y byddwch yn y cyfweliad.

Gyda Covid-19 yn effeithio ar sut mae cyflogwyr yn recriwtio, efallai y bydd rhai cyflogwyr yn dal i gynnig cyfweliadau wyneb yn wyneb ond gall eraill nawr gynnig ar-lein neu dros y ffôn.

Disgwyliwch wahanol fathau o gyfweliadau

Mae arddulliau cyfweliad yn amrywio. Gall rhai fod yn sgwrs anffurfiol, gall eraill fod yn ffurfiol. Bydd rhai wyneb yn wyneb tra bydd cyflogwyr eraill yn gofyn i chi wneud cyfweliad fideo neu ffôn.

Gall y sawl sy’n cyfweld amrywio o 1 person i banel o hyd at 8 person. Efallai y cewch gyfres o gyfweliadau gyda phobl wahanol, a’r cyfan ar yr un diwrnod o bosibl.

Peidiwch â chynhyrfu a chofiwch eu bod yn cyfweld â chi am eu bod yn hoffi eich cais neu eich CV.

Mathau o gyfweliadau

Profion

Efallai y gofynnir i chi wneud prawf ar ddiwrnod y cyfweliad. Gall fod yn brawf doniau neu’n brawf ymarferol sy’n berthnasol i’r math o waith.

Cyflwyniadau

Efallai y bydd angen i chi wneud cyflwyniad ar bwnc sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Cewch wybod am hyn ymlaen llaw fel arfer. Sicrhewch fod unrhyw offer fydd ei angen arnoch ar gael, er enghraifft cyfrifiadur neu thaflunydd.

Gweithgareddau Grŵp

Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp gydag ymgeiswyr eraill. Mae cyfweliadau grŵp yn profi eich gallu i weithio mewn tîm, eich sgiliau cyfathrebu, eich blaengaredd neu allu i arwain eraill.

Sicrhewch eich bod yn gwrando ar eraill yn eich grŵp ac yn ystyried eu safbwyntiau, ond cofiwch hefyd sicrhau eich bod yn rhannu ac yn cyfrannu syniadau.

Darganfod ble mae'r cyfweliad

Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’r cyfweliad. Efallai y gallech fynd yno cyn y cyfweliad ei hun er mwyn dod o hyd i’r lleoliad a gweld faint o amser mae’n ei gymryd i deithio yno.
 
Dod o hyd i leoliadau cyfweliad ar Google Maps

Gwisgo'r dillad cywir

Mae’r argraff gyntaf yn bwysig. Felly sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad smart. Pa bynnag fath o swydd y byddwch yn gwneud cais amdani, bydd hyn yn dangos eich bod o ddifrif ynglŷn â chael y swydd. Sicrhewch fod yr argraffiadau cyntaf hynny yn gadarnhaol.

Cadarnhau eich presenoldeb

Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn ichi gadarnhau eich presenoldeb mewn cyfweliad. Efallai y byddan nhw'n gofyn i chi wneud hyn trwy eu ffonio, e-bostio neu ymateb iddynt drwy'r post.

Wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, efallai y bydd rhai cyflogwyr yn cynnig cyfle i chi ddatgelu unrhyw ofynion arbennig sydd gennych. Mae hyn er mwyn iddynt allu gwneud addasiadau rhesymol i gyrraedd eich anghenion. Nid oes rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny.

Gwybod mwy am addasiadau rhesymol ar gov.uk ac ewch i Scope (dolen Saesneg) i ddarganfod mwy am ofyn am addasiadau mewn cyfweliad.


Cyfweliadau fideo a ffôn

Cael help i baratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn. Mae paratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn yr un mor bwysig â chyfweliadau wyneb yn wyneb.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Paratoi ar gyfer asesiad

Darganfyddwch wybodaeth am brofion dethol a seicometrig sy’n aml yn rhan o gyfweliad am swydd. Cewch awgrymiadau ar sut i baratoi a ble i ddod o hyd i brofion ymarfer.

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.