Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Mynediad at Waith

Gall Mynediad at Waith gynnig cefnogaeth ariannol ac ymarferol i chi. Bydd y gefnogaeth yn seiliedig ar eich anghenion, er enghraifft grant i'ch helpu i gyrraedd gwaith a mynd adref.

Trwy Mynediad at Waith gallwch hefyd wneud cais i gael arian ar gyfer cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad.

I gael cefnogaeth, rhaid i chi:

  • Fod gydag anabledd neu gyflwr iechyd (corfforol neu feddyliol) sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi wneud rhannau o'ch swydd
  • Fod dros 16 oed
  • Fyw yng Nghymru, Lloegr, neu'r Alban
  • Fod mewn swydd â thâl neu fod ar fin cychwyn neu ddychwelyd i un

Am y wybodaeth diweddaraf a rhagor o fanylion edrych ar Mynediad at Waith ar gov.uk.


Cyflogaeth â Chefnogaeth

Mae asiantaethau cyflogaeth â chymorth yn gweithio gyda phobl i'w helpu:

  • Ddod o hyd i waith
  • Ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud swydd
  • Setlo mewn swydd newydd
  • Ddysgu sut i deithio i'r gwaith

Mae yna sawl sefydliad Cyflogaeth â Chefnogaeth ledled Cymru:


Prentisiaethau Cynhwysol

Nod Cynllun Prentisiaethau Cynhwysol - Anabledd Llywodraeth Cymru yw dileu rhwystrau i bobl anabl sy'n dymuno gwneud prentisiaeth.

Am ragor o fanylion edrychwch ar Brentisiaethau Cynhwysol - Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar llyw.cymru


Chwilio am gefnogaeth

Os ydych chi'n chwilio am help i ddod o hyd i waith neu os hoffech chi gael mwy o sgiliau defnyddiwch ein offeryn Canfod Cymorth.


Dolenni defnyddiol

(Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyllid i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anabledd

Gwybodaeth am rai o’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi’r camau nesaf ar ôl gadael ysgol.