Gwybodaeth am rai o’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi’r camau nesaf ar ôl gadael ysgol.
Lwfans Myfyrwyr Anabl
Gellir gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl i gyfrannu tuag at y costau ychwanegol sy’n codi o broblemau iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Mae’r lwfans yn ychwanegol at unrhyw gyllid myfyrwyr arall. Darllenwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Taliad Annibyniaeth Personol
Help ariannol gyda chostau ychwanegol sy’n deillio o salwch neu anabledd hirdymor. Cewch eich asesu gan weithiwr iechyd proffesiynol i weithio allan faint o help y gallwch ei gael. Darllenwch fwy am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar Gov.uk a sut i wneud cais amdano.
Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn helpu pobl nad oes ganddynt ddigon o arian i fyw arno. Bydd faint o gymorth ariannol y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar eich cymhwysedd. Darganfyddwch ragor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar Gov.uk.
Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol
Mae’n bwysig sicrhau eich bod wedi gwneud cais am y cyllid cywir ar gyfer y brifysgol. Mae UCAS yn rhoi trosolwg o'r help a'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol a gwahaniaethau dysgu (dolen Saesneg).
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)
Mae Grant Dysgu AB Llywodraeth Cymru yn grant o hyd at £1,500 a asesir yn ôl incwm os ydych yn astudio’n llawn amser, neu hyd at £750 os ydych yn astudio’n rhan-amser. Mae'n darparu cyllid i helpu gyda chostau addysg i'r rhai 19 oed a throsodd. Darllenwch fwy am y Grant Dysgu ar gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni/gofalwyr
Budd-dal Plant pan fo plentyn yn troi’n 16 oed
Gallwch gael Budd-dal Plant os yw'ch plentyn o dan 16 oed, a gall barhau hyd at 19 oed os ydynt yn aros mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy. Mae’n rhaid hysbysu’r Swyddfa Budd-dal Plant am hyn. Darllenwch fwy am Fudd-dal Plant ar Gov.uk.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewisiadau cyllid ar gyfer y chweched dosbarth a'r coleg, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Ariannol wrth Gefn.

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu.

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.