Mae amryw o gyllid myfyrwyr i'ch helpu gyda chostau byw ac astudio yn y brifysgol.
Tra byddwch yn astudio bydd gennych ddau brif gost:
- Ffioedd dysgu
- Costau byw
Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am fenthyciad ffioedd dysgu ac amrywiaeth o gyllid i helpu gyda'ch costau byw.
Am fwy o fanylion am y cymorth y gallwch ei gael, ewch i Cyllid Myfyrwyr: addysg uwch (Llywodraeth Cymru) a gwnewch gais am gyllid myfyrwyr yn Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Benthyciad Ffioedd Dysgu
O fis Medi 2025 ymlaen, bydd prifysgolion yng Nghymru a Lloegr yn gallu codi hyd at £9,790 y flwyddyn am ffioedd dysgu israddedig (yn dibynnu ar gost eich cwrs).
Gall myfyrwyr amser llawn a rhan-amser wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am fenthyciad a fydd yn talu am ffioedd dysgu’r brifysgol.
Pethau allweddol i'w gwybod:
- Fel arfer, mae’r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn cael ei dalu’n uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg
- Rhaid ad-dalu Benthyciadau Ffioedd Dysgu, gan gynnwys llog, ond dim ond pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac wedi dechrau ennill cyflog y byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn.
Cyllid ar gyfer costau byw
Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am gyllid i helpu gyda chostau, fel bwyd, rhent, llyfrau a chostau eraill tra byddwch yn astudio yn y brifysgol neu'r coleg, ac yn aml yn byw oddi cartref.
Mae cyllid cynhaliaeth yn cynnwys cyfuniad o:
- Fenthyciad Cynhaliaeth
- Grant Cynhaliaeth
Bydd swm y grant neu fenthyciad eich cyllid cynhaliaeth yn ddibynnol ar incwm eich cartref a ble rydych yn astudio ac yn byw. Darganfyddwch beth rydych chi'n gymwys i'w gael yn seiliedig ar incwm eich cartref ar Beth sydd ar gael - Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cyllid cymorth ychwanegol
Efallai y gallwch hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am arian ychwanegol i'ch cefnogi gyda chostau, os oes gennych anabledd neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu dros blant neu oedolyn. Mae rhywfaint o'r cymorth ychwanegol y gallech wneud cais amdano yn cynnwys:
- Lwfans Myfyrwyr Anabl
- Grant Gofal Plant i fyfyrwyr â phlant
- Lwfans Dysgu i Rieni i fyfyrwyr â phlant
- Grant Oedolion Dibynnol
Dysgwch fwy am Gyllid i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau.
Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Grantiau
Cofiwch wirio os oes unrhyw ysgoloriaethau, bwrsariaethau neu grantiau eraill y gallech wneud cais amdanynt ar ben eich cyllid myfyrwyr.
Pethau allweddol i'w gwybod:
- Fel arfer cynigir ysgoloriaethau ar gyfer cyflawniad neu ragoriaeth mewn cyflawniad academaidd, chwaraeon neu gerddoriaeth a phynciau creadigol eraill
- Mae bwrsariaethau a grantiau fel arfer yn seiliedig ar incwm cartref isel neu eich amgylchiadau personol, er enghraifft, os oes gennych anabledd neu os ydych yn dod o ranbarth neu wlad benodol
- Gall prifysgolion, colegau, cyflogwyr neu sefydliadau eraill sy'n cefnogi myfyrwyr gynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau
- Fel arfer cynigir grantiau gan elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill
- Nid oes angen ad-dalu'r rhan fwyaf o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau eraill, ond gwiriwch hyn bob tro
Edrychwch ar wefan eich prifysgol neu goleg am unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau y gallech wneud cais amdanynt. Ymchwiliwch i elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill a all hefyd gynnig ysgoloriaethau, bwrsariaethau neu grantiau.
Dysgwch fwy am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau drwy UCAS. (dolen Saesneg)
Cyllid ar gyfer cyrsiau gwaith cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd
Gall gweithwyr gofal iechyd, athrawon a gweithwyr cymdeithasol fod yn gymwys i dderbyn cyllid ar wahân er mwyn eu cefnogi i astudio eu cyrsiau. Efallai y gallwch wneud cais am y cyllid hwn, hyd yn oed os ydych eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer cwrs israddedig yr ydych wedi'i gwblhau.
Gall y cyllid newid o flwyddyn i flwyddyn, felly mae'n bwysig gwirio gwefannau swyddogol y sefydliadau Cenedlaethol neu i gysylltu â hwy yn uniongyrchol am y manylion diweddaraf.
Rhagor o wybodaeth: Cyllid ar gyfer cyrsiau gofal cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd
Cyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig
Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer y cyrsiau ôl-raddedig canlynol:
- Cwrs Meistr
- Cwrs Doethurol
- Addysg Gychwynnol Athrawon
Am fwy o wybodaeth am gyllid ôl-raddedig, ewch i Wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Beth fydd yn rhaid i mi ei dalu'n nol?
Cofiwch, nid oes rhaid talu grantiau'n ôl ond mae rhaid talu benthyciadau'n ôl. Bydd angen i chi ad-dalu:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu
- Benthyciad Cynhaliaeth
- Benthyciadau Ôl-raddedig
Ychwanegir llog at eich benthyciad o'r diwrnod cyntaf y telir yr arian i'ch cyfrif banc neu i'ch prifysgol neu goleg. Mae'n bwysig ystyried hyn cyn i chi wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu a/neu Fenthyciad Cynhaliaeth.
Pryd fydd rhaid i mi ddechrau talu'n ôl?
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig yn dechrau ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr pan fyddant wedi gorffen eu hastudiaethau ac yn ennill incwm penodol.
Mae'r trothwy incwm yn newid bob blwyddyn a gall fod ychydig yn wahanol yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch ddechrau astudio a pha gwrs rydych yn ei astudio.
Rhagor o fanylion am Repaying your student loan (Gov.uk. (dolen Saesneg)
Dysgwch pwy sy'n gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr, mynnwch fanylion am grantiau a benthyciadau, a gwnewch gais.
Cynghorion cyllidebu
Mynnwch gyngor i reoli eich arian fel myfyriwr (Moneyhelper, dolen Saesneg)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dewisiadau cyllid ar gyfer y chweched dosbarth a'r coleg, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Ariannol wrth Gefn.
Gwybodaeth am rai o’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi’r camau nesaf ar ôl gadael ysgol.
Dewch i wybod mwy am gyllid ar gyfer cyrsiau gofal iechyd, gwaith cymdeithasol ac addysgu.
Dewch o hyd i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion, gan gynnwys cyrsiau meistr a doethuriaeth.