Gwybodaeth am rai o’r opsiynau i gael mynediad at arian i’ch helpu yn y coleg a’r chweched dosbarth.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LAC)
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd eisiau parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol. Os ydych yn gymwys gallech ennill £40 yr wythnos, a byddwch yn cael eich talu bob pythefnos. Darllenwch fwy am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)
Dyma grant o hyd at £1,500 sy’n destun asesiad incwm a’i nod yw annog mwy o bobl i barhau â’u haddysg. Gallwch wneud cais am y grant yma os ydych yn 19 oed neu’n hŷn. Darllenwch mwy am y Grant Dysgu ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cronfa Wrth Gefn
Mae gan bob Coleg Addysg Bellach yng Nghymru Gronfa Wrth Gefn sy’n helpu myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol difrifol. Mae’n helpu i dalu costau sy’n gysylltiedig ag addysg, fel:
- Mynediad i’r rhyngrwyd
- Offer
- Trafnidiaeth a chostau asesu ar gyfer diagnosis o anawsterau dysgu penodol
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag adran Gwasanaethau Cymorth a Lles Myfyrwyr eich coleg.
Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni a gofalwyr
Os yw plentyn yn parhau gydag addysg neu hyfforddiant ar ôl troi’n 16 oed, bydd eich Budd-dal Plant yn parhau. Darllenwch fwy am Budd-dal Plant ar hyn sydd angen i chi ei wneud pan fydd eich plentyn yn 16 oed ar Gov.uk.
Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cynnig cyngor ariannol am ddim a diduedd. Edrychwch ar eu tudalen Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach am fwy o wybodaeth.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.
Gwybodaeth am rai o’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi’r camau nesaf ar ôl gadael ysgol.
Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu.