Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Paratoi ar gyfer asesiad

Caiff profion asesu eu defnyddio yn ystod cyfweliadau i helpu cyflogwyr ddeall mwy amdanoch chi ac i weld a oes gennych y sgiliau a’r gallu i wneud y swydd. Mae gwahanol fathau o asesiadau a phrofion.

Mathau o asesiadau

Gall profion asesu gael eu cynnal ar y we, mewn canolfan asesu, neu yn y gweithle. Mae profion asesu hefyd yn cael eu galw yn:

  • Brofion gallu - mae'r rhain wedi'u cynllunio i fesur sut rydych chi'n perfformio mewn tasgau a sut rydych chi'n ymateb i sefyllfaoedd. Maen nhw'n edrych ar bethau fel:
    • Eich gallu i resymu yn eiriol ac yn rifiadol
    • Eich sgiliau datrys problemau
    • Eich gallu i feddwl yn rhesymegol
  • Profion personoliaeth - mae'r rhain yn asesu ymddygiad a rhinweddau person fel:
    • Sut rydych chi'n gweithio orau
    • Eich gallu i weithio mewn tîm
    • A ydych chi'n fewnblyg neu'n allblyg

Dysgwch pa fath o berson ydych chi trwy wneud y Cwis Buzz.

  • Profion seicometrig - mae'r profion hyn yn edrych ar allu a phersonoliaeth, gan gynnwys
    • Arddulliau ymddygiadol
    • Deallusrwydd emosiynol
    • Galluoedd gwybodol
  • Profion dethol - caiff y rhain eu defnyddio yn ystod y broses benodi er mwyn gwerthuso pa mor addas yw person ar gyfer swydd, a gallant gynnwys:
    • Efelychiad o swydd
    • Asesiadau sgiliau
    • Profion barn

Gallai profion eraill gynnwys y cyflogwyr yn profi eich:

  • Sgiliau mathemateg -sut rydych chi'n gweithio gyda rhifau
  • Sgilau Saesneg – sut rydych chi'n ysgrifennu, siarad a deall Saesneg
  • Sgiliau Cymraeg – ar gyfer rhai swyddi yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol. Dysgwch fwy am Y Gymraeg – sgil werthfawr i’r gwaith
  • Asesiadau ymarferol – sut rydych chi'n perfformio mewn tasg sy'n allweddol i'r swydd dan sylw
  • Barn sefyllfaol - rhoddir senario a bydd gofyn i chi ddisgrifio pa gamau a gymeroch chi, a beth oedd y canlyniad

Bydd rhai o’r profion hyn yn cael eu hamseru, sy’n golygu y bydd arnoch eu cwblhau o fewn y terfyn amser.


Asesiadau prifysgol

Mae prifysgolion yn defnyddio profion derbyn i ddewis yr ymgeiswyr sydd â'r potensial mwyaf.

Mae prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen (dolenni Saesneg yn unig) yn defnyddio profion derbyn. Bydd Coleg Prifysgol Llundain yn cyflwyno profion derbyn ar gyfer rhaglenni mathemateg a gwyddorau cymdeithasol yn 2026, gan ddefnyddio’r prawf rhesymu academaidd ar gyfer derbyniadau (TARA).

Mae'r asesiadau hyn yn canolbwyntio ar asesu ymgeiswyr i weld a ydynt yn meddu ar yr ystod o alluoedd meddyliol a phriodoleddau ymddygiadol sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa.

Bydd prifysgolion yn disgwyl i fyfyrwyr sefyll profion asesu ar gyfer rhai cyrsiau gradd,  fel meddygaeth, y gyfraith, peirianneg a mathemateg. Dysgwch fwy ar profion mynediad prifysgol UCAS (doleg Saesneg yn unig).


Paratoi ar gyfer asesiadau a phrofion dethol

Mae'n bwysig paratoi cyn unrhyw brawf. Bydd yn eich helpu i deimlo'n hyderus ac yn gwella’r tebygolrwydd o berfformio’n well. Cyn y prawf dylech:

  • Ymarfer hynny gallwch chi gan ddefnyddio profion enghreifftiol. Edrychwch ar yr enghreifftiau cyffredinol a’r enghreifftiau swydd-benodol sydd ar y dudalen hon
  • Cynllunio pryd fyddai orau i sefyll y prawf. Os yn bosibl, dylech sefyll y prawf pan fyddwch chi wedi cael digon o gwsg a phan na fydd dim arall i ddwyn eich sylw

Cofiwch, os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol neu ofynion penodol, gallwch ofyn i'r cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i chi, er enghraifft, rhoi amser ychwanegol i chi gwblhau'r asesiad.

Yn ystod y prawf:

  • Darllenwch y cyfarwyddiadau'n ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n eu deall. Gwiriwch y cyfarwyddiadau ddwywaith i sicrhau nad ydych wedi camddeall unrhyw beth
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth yw hyd y prawf cyn i chi ddechrau. Os yw'n cael ei amseru, gosodwch amserydd neu sicrhewch bod cloc o fewn golwg
  • Peidiwch â rhuthro, byddwch yn bwyllog rhag i chi wneud camgymeriadau. Rheolwch eich amser – os ydych chi'n mynd yn sownd, ewch yn eich blaen i'r cwestiwn nesaf
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn sefyll y prawf mewn man lle na fydd dim yn tarfu arnoch nac yn dwyn eich sylw
  • Gwnewch yn siŵr bod yr holl offer angenrheidiol gennych chi. Gallai hyn olygu cyfrifiannell, ysgrifbin, papur, neu eiriadur. Gwiriwch beth mae'r canllawiau yn ei ddweud am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu yn ystod y prawf

Asesiadau ar-lein

Os byddwch yn sefyll asesiad ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod chi:

  • Â chysylltiad rhyngrwyd da
  • Â’r dolenni iawn a’r manylion mewngofnodi (os oes angen)
  • Mewn lle tawel lle nad oes dim i darfu arnoch
  • Wedi caniatáu digon o amser i wneud eich gorau glas yn y prawf

Asesiadau cyfweliadau ar-lein

Gall profion dethol fod yn rhan o'r cyfweliad swydd. Yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliad, efallai y bydd angen i chi fod yn barod i fynd i ganolfan asesu hefyd.

Os yw'ch asesiad yn rhan o gyfweliad neu’n cael ei gynnal mewn canolfan asesu, gwnewch yn siŵr eich bod chi:

  • Yn gwybod ble mae’r lleoliad
  • Yn cyrraedd mewn da bryd
  • Yn gwneud argraff dda – mae eich ymatebion a’ch ymddygiad dan sylw trwy’r adeg, nid yn unig yn ystod y prawf

Am ragor o gyngor ymarferol am gyfweliadau swyddi ar-lein ewch i’r dudalen cyfweliadau fideo a ffôn.


Profiaon ymarferol cyffredinol

Dyma enghreifftiau o brofion ymarfer cyffredinol. Dolenni Saesneg yn unig:

Profion ymarfer ar gyfer swyddi penodol

Dyma rai enghreifftiau o brofion ymarfer ar gyfer swyddi penodol. Dolenni Saesneg yn unig:


Technegau cyfweld

Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.

Cyfweliadau fideo a ffôn

Cael help i baratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn. Mae paratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn yr un mor bwysig â chyfweliadau wyneb yn wyneb.

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.