Yng Nghymru, gall siarad Cymraeg fod yn fantais i chi wrth wneud cais am swyddi.
P'un ai ydych chi'n rhugl, yn dysgu, neu'n newydd ddechrau, gall eich sgiliau Cymraeg eich helpu i sefyll allan a chael mwy o gyfleoedd. Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi cyfleoedd i chi yn eich gyrfa ac yn gymdeithasol.
Y Gymraeg yn y gweithle
Nid iaith ar gyfer yr ysgol neu’r cartref yn unig yw'r Gymraeg. Fel gwaith tîm, cyfathrebu a roi sylw i fanylion, mae siarad Cymraeg yn sgil bwysig iawn ar gyfer y gwaith. Bydd rhai swyddi yng Nghymru yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol.
Gofynnwyd am 'y Gymraeg' fel prif sgil cyffredin mewn 43% o bostiadau swyddi yng Nghymru. Mae hynny dros 30,000 o swyddi.
(Lightcast, Ebrill 2023-2025)
Roedd rhai o'r cwmnïau a oedd yn gofyn am sgiliau’r Gymraeg mewn postiadau swyddi yn cynnwys:
- BBC
- Prifysgol Caerdydd
- Cyllid a Thollau EF
- ITV
- Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
- Llywodraeth Cymru
- Dŵr Cymru
Mae llawer o gyflogwyr yn gwerthfawrogi’r gallu i siarad Cymraeg, yn enwedig mewn rhai sectorau allweddol yng Nghymru lle mae cyfathrebu ag eraill yn hanfodol, fel:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Addysg
- Gwasanaethau cyhoeddus fel cynghorau lleol, adrannau'r llywodraeth a'r Heddlu
Hyd yn oed os nad yw'r Gymraeg yn hanfodol, mae'n well gan lawer o gyflogwyr ymgeiswyr sy'n gallu siarad neu ddeall yr iaith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gweinyddiaeth
- Gwasanaethau cwsmeriaid
- Cyfryngau a marchnata
- Gwerthu a manwerthu
Twristiaeth a lletygarwch
Sgiliau Cymraeg a'ch CV
Mae bod yn ddwyieithog yn sgil wych i'w hychwanegu at eich CV ac unrhyw gais am swydd.
Os ydych chi'n chwilio am swyddi yng Nghymru, gallai tynnu sylw at eich sgiliau dwyieithog (neu'ch parodrwydd i ddysgu) wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallech ddisgrifio'ch sgiliau fel:
- Siaradwr Cymraeg rhugl – yn gallu gweithredu'n gwbl ddwyieithog yn y gweithle, gan gynnwys gohebiaeth ysgrifenedig a chyfathrebu ffurfiol
- Siaradwr Cymraeg hyderus – yn gallu delio ag ymholiadau cyhoeddus cyffredinol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Yn gallu cynnal sgyrsiau bob dydd - yn gallu trin a thrin cyfathrebu ysgrifenedig a llafar sylfaenol mewn cyd-destun gwaith
- Yn gallu ddilyn sgyrsiau syml - yn gallu ymateb i ymholiadau arferol gyda chefnogaeth
- Cymraeg sylfaenol – yn gallu deall a defnyddio ymadroddion syml, yn datblygu sgiliau gwrando a siarad ar hyn o bryd
Dechreuwr - Yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd – dealltwriaeth sylfaenol o ymadroddion a chyfarchion cyffredin
Gwyliwch y fideo
Cymraeg yn y gweithle
Gwyliwch y fideo i wybod mwy am y Gymraeg yn y gweithle a sut mae'n yn cael ei gweld fel sgil allweddol.
Manteision bod yn ddwyieithog
P'un ai yw'r Gymraeg yn ofyniad neu'n fonws, mae mwy a mwy o gyflogwyr ar draws Cymru yn gweld dwyieithrwydd fel ased sgiliau pwysig i'w gweithwyr ei gael.
Gall buddsoddi yn eich sgiliau Cymraeg arwain at ragolygon gyrfa gwell, gwaith mwy ystyrlon, a chysylltiad cryfach â diwylliant Cymru.
Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg ail iaith neu'n dal i ddysgu, mae llawer o gyflogwyr yn cefnogi staff gyda'u dysgu. Dysgwch fwy am y gefnogaeth sydd ar wefan Dysgu Cymraeg.
Edrychwch ar fanteision dwyieithrwydd mewn gweithleoedd a lleoliadau cymdeithasol.
Lleoliadau gwaith
Mewn lleoliadau gwaith, mae pobl sy'n ddwyieithog yn tueddu i:
- Ganolbwyntio'n haws ar amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- Mwy o allu i ganolbwyntio a chofio
- Bod yn fwy hyblyg, sensitif a chreadigol
- Mwy o gyfleoedd gyrfa a chynyddu'r siawns o gael swydd
- Cyfathrebu ag ystod ehangach o bobl
Lleoliadau cymdeithasol
Mewn lleoliadau cymdeithasol, gall pobl sy'n ddwyieithog:
- Gael mwy o gyfleoedd i gymdeithasu a gwneud ffrindiau o ran hobïau a diddordebau
- Profi mwy nag un diwylliant, hunaniaeth a chymuned. Mae hyn yn ehangu gorwelion a chyfleoedd
- Bod yn fwy agored i feddwl a dangos mwy o werthfawrogiad a goddefgarwch tuag at ddiwylliannau a chefndiroedd eraill
(Ffynhonnell: Pecyn Addysg Comisiynydd y Gymraeg)
Cymraeg 2050
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gael 1 miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn 2050. Gallai hyn olygu cynnydd yn nifer y bobl a fydd eisiau cael mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg, gan greu cyfleoedd gwaith lle mae angen sgiliau Cymraeg.
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru gynnig eu gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae llawer o sefydliadau eraill yn y sector preifat a'r trydydd sector hefyd yn cael eu hannog i gofleidio dwyieithrwydd a chynnig gwasanaethau yn y Gymraeg yng Nghymru.
Rhyddhau eich potensial gyda'r Gymraeg
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.

Archwilio rhai o'r opsiynau swyddi sydd ar gael pan fyddwch chi'n astudio'r Gymraeg.

Dysgu am y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw i wella'ch siawns o gael swydd.