Bydd gennych well siawns o lwyddo i gael swydd os ydych chi’n paru eich sgiliau a'ch cryfderau i'r hyn y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt.
Dewch o hyd i’r sgiliau a'r cryfderau sydd eu hangen ar gyflogwyr a nodwch yr hyn yr ydych chi eisoes yn dda am wneud. Cymerwch amser i feddwl am ffyrdd o wella sgiliau a chryfderau nad ydych yn eu gwneud cystal.
Sgiliau a chryfderau allweddol
10 sgil y mae cyflogwyr eisiau.
Ffynhonnell: LightcastTM, y prif sgiliau cyffredin yn deillio o hysbysebion swyddi rhwng Rhagfyr 2021 ac Ebrill 2022
1. Sgiliau cyfathrebu
Sgiliau cyfathrebu yw'r hyn rydych chi'n ei ddweud, ond mae hefyd yn cynnwys iaith eich corff a thôn eich llais. Mae bod yn dda am gyfathrebu yn cynnwys bod yn dda am wrando, yn gallu egluro pethau'n glir, ac yn gallu gofyn y cwestiynau cywir. Cyfathrebu yw sut rydych chi'n rhyngweithio â phobl eraill. Mae angen i chi allu cyfathrebu drwy siarad ac yn ysgrifenedig.
2. Talu sylw i fanylion (gan ganolbwyntio ar fanylion)
Mae talu sylw i fanylion yn golygu y dylai eich gwaith fod yn gywir, heb wallau na chamgymeriadau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi p'un a ydych yn teipio dogfen neu'n mesur ac yn torri pren ar safle adeiladu.
3. Cynllunio
Cynllunio yw'r gallu i feddwl ymlaen llaw a gwneud penderfyniadau am y camau y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol. Pan fyddwch yn cynllunio, rydych yn gosod nodau, ac yn blaenoriaethu pa dasg y byddwch yn ei gwneud yn gyntaf, yn ail, ac ar ôl hynny. Gall cynllunio olygu sut rydych chi'n mynd ati i wneud tasg neu weithgaredd. Gallai cynllunio hefyd olygu sut fyddwch chi’n defnyddio amser ac arian yn y dyfodol.
4. Arwain
Gall arweinydd da ddylanwadu ar eraill, eu hysgogi a'u harwain. Pan fydd gennych sgiliau arwain gallwch ysgogi ac arwain eraill tuag at gyflawni nod. Nid yw sgiliau arwain ar gyfer rheolwyr yn unig. Er enghraifft, gall hyfforddwr chwaraeon fod yn arweinydd.
5. Brwdfrydedd
Mae bod yn frwdfrydig yn golygu dangos llawer o ddiddordeb a mwynhad mewn rhywbeth. Mae cyflogwyr yn hoffi gweld eich bod yn frwdfrydig ac yn awyddus am swydd, neu dasgau. Os oes gennych ddiddordeb mawr mewn rhywbeth, rydych yn fwy tebygol o wneud gwaith da.
6. Hunan-gymhelliant
Mae hunan-gymhelliant yn golygu eich bod chi'n cael eich ysgogi i wneud neu gyflawni rhywbeth heb fod angen i neb ddweud wrthych i'w wneud. Mae cyflogwyr yn hoffi pobl sy'n llawn cymhelliant am eu bod yn gallu ymddiried ynoch i weithio'n galed heb fod angen llawer o oruchwyliaeth.
7. Datrys problemau
Mae datrys problemau yn golygu dod o hyd i atebion a datrysiadau i faterion. Pan fyddwch chi'n datrys problemau, rydych chi'n nodi'r broblem, yn dod o hyd i'r achos, ac yna'n dod o hyd i atebion a fydd yn gweithio. Mae datrys problemau hefyd yn ymwneud ag unioni’r broblem.
8. Ymchwil
Ymchwil yw pan fyddwch chi’n astudio ac yn ymchwilio i ddysgu mwy am rywbeth. Gall fod angen sgiliau ymchwil ar gyfer swyddi penodol, ond mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn hoffi bod gan eu gweithwyr y sgil o ddysgu pethau ar eu pen eu hunain.
9. Menter arloesol
Arloesi yw’r term am feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau. Pan fyddwch yn arloesol byddwch yn meddwl am syniadau, dulliau newydd o wneud gwelliannau.
10. Rheoli amser
Rheoli amser yw’r gallu i drefnu eich amser er mwyn bod yn gynhyrchiol ac yn effeithlon. Mae cyflogwyr yn hoffi recriwtio pobl sy'n gallu gwneud cymaint o waith mewn cyn lleied o amser.
Sgiliau eraill y mae cyflogwyr eu hangen
Ymhlith y sgiliau eraill y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yw:
- Gwaith tîm
- Dylanwadu a negodi
- Sgiliau dadansoddi
- Sgiliau trefnu
- Dibynadwyedd
- Gallu a pharodrwydd i ddysgu
- Hyblygrwydd
- Bod yn weithgar
- Meddwl yn feirniadol (Arsylwi, dadansoddi rhywbeth, a llunio barn o'r dystiolaeth)
- Gwneud penderfyniadau
- Blaengaredd
- Deallusrwydd emosiynol (Deall a gallu rheoli eich emosiynau eich hun, a thrin perthnasoedd ag eraill yn dda)
Sgiliau sy'n benodol i'r swydd
I ddarganfod sgiliau sy'n benodol i’r swydd, ewch i Gwybodaeth am Swyddi a theipiwch deitl y swydd.
Isod ceir rhai sgiliau sy'n benodol i'r swydd y mae cyflogwyr yn aml yn gofyn amdanynt:
- Gwasanaethau cwsmeriaid
- Rheoli
- Sgiliau digidol – defnyddio TG
- Gofal a chymorth
- Y Gymraeg
- Sgiliau ymarferol a sgiliau llaw
- Gwerthiant
- Sgiliau dylunio
Mwy am sgiliau a chryfderau

Gwella'r sgiliau a'r cryfderau sydd gennych, a chynyddu'ch cyfleoedd i gael swydd, cael dyrchafiad neu newid gyrfa.

Ffyrdd o ddarganfod eich sgiliau a'ch cryfderau. Bydd adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau yn cynyddu eich hyder, ac yn gymorth i gael swydd.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Gwyliwch y fideo

Dewch i wybod rhai o'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Gweld trawsgrifiad yr hyn y mae cyflogwyr eisiau (Word 25KB, bydd y ddogfen hon yn lawr lwytho i'ch dyfais neu'n agor mewn porwr)