Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ffyrdd o wella eich sgiliau a'ch cryfderau

Gwella'r sgiliau a'r cryfderau sydd gennych, a chynyddu eich cyfleoedd i gael swydd, dyrchafiad neu newid gyrfa.

8 ffordd o wella'ch sgiliau

1. Ennill profiad

Mae gwneud profiad gwaith, neu wirfoddoli yn rhoi cyfle i chi wella'ch sgiliau ac i ddysgu sgiliau newydd.

2. Dilyn cyrsiau hyfforddi

Chwiliwch am hyfforddiant sy'n seiliedig ar sgiliau neu ewch ati i ddilyn cyrsiau am eu bod o ddiddordeb i chi. Gall dilyn cyrsiau wella eich sgiliau ymchwil, a’ch hunan-gymhelliant i astudio a dysgu.

3. Ymarfer

Ymarfer defnyddio'ch sgiliau. Er enghraifft, os ydych chi am wella'r ffordd rydych chi'n siarad ar y ffôn, ffoniwch bobl yn amlach.

4. Dysgu gan eraill

Dewch o hyd i bobl sy'n dda yn y sgil rydych chi am ei gwella. Arsylwch a gwrandewch arnynt wrth eu gwaith. Gofynnwch iddyn nhw eich mentora neu eich addysgu.

5. Bod yn agored i adborth ac awgrymiadau

Weithiau gall fod yn anodd gwrando ar feirniadaeth, ond cadwch feddwl agored gan ddysgu o’r adborth y mae eraill yn ei cynnig.

6. Rhoi cynnig ar her newydd

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd i ddysgu sgiliau newydd neu i brofi’ch sgiliau. Er enghraifft, beth am ddechrau hobi newydd, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, neu ddysgu iaith.

7. Dod o hyd i gyfleoedd dysgu yn y gwaith

Os ydych mewn gwaith, cadwch lygad am gyfleoedd hyfforddi. Efallai yr hoffech ofyn am y cyfle i gysgodi yn y gwaith, neu cael eich mentora i gynyddu eich sgiliau os yw'n briodol i'ch amgylchedd gwaith.

8. Canolbwyntio ar y cadarnhaol

Mae gennych sgiliau a chryfderau’n barod. Rhaid i chi gofio yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda. Bydd hyn yn eich helpu wrth i chi ganolbwyntio ar wella a dysgu sgiliau.


Os nad ydych chi’n siŵr beth yw eich sgiliau a'ch cryfderau, dysgwch sut i adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau.

Gallwch roi cynnig ar y Cwis Paru Gyrfa. Ar ôl cwblhau’r Cwis Paru Gyrfa, gallwch raddio eich sgiliau i weld beth yw’ch cryfderau, a beth sydd angen i chi wella.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Sut i gael profiad

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.